Cast ynteu ceiniog? Darganfod bod un o gasgliadau Hynafol Amgueddfa Cymru'n fodern

Ddechrau'r ugeinfed ganrif sefydlodd llywydd Amgueddfa Cymru, yr Arglwydd Howard de Walden, gasgliad rhyfeddol o hen arfau ac arfwisgoedd Ewropeaidd. Roedd y casgliad yn cynnwys nifer o ddarnau clasurol - helmedau, cleddyfau, blaenau gwaywffyn, gwregysau ac arfwisgoedd. Credwyd mai darnau Ewropeaidd a Rhufeinig oeddynt yn bennaf - nes i waith yn Amgueddfa Cymru ddatgelu i'r gwrthwyneb...

Y casgliad yn dod i Amgueddfa Cymru

Portread o'r Arglwydd Howard de Walden (1880-1946)

Portread o'r Arglwydd Howard de Walden (1880-1946)

'Helmed' efydd Etrwsgaidd wedi'i addurno ag aur yn dangos hanner y patina ffug wedi'i dynnu

'Helmed' efydd Etrwsgaidd wedi'i addurno ag aur yn dangos hanner y patina ffug wedi'i dynnu

Pelydr-X o'r helmed

Pelydr-X o'r helmed

Ym 1945, benthycodd yr Arglwydd Howard 79 'gwrthrych efydd hynafol' i'r Amgueddfa. Ar ôl ei farwolaeth ym 1946, penderfynodd ei fab gyflwyno gweddill yr eitemau i ni.

Ym 1990 datgelodd gwaith ymchwil gan ysgolhaig o Rwsia bod rhai o'r eitemau o'r casgliad wedi'u gwneud mewn gweithdy gemydd yn Odessa, de Rwsia, rhwng 1890 a 1910. Mae gwaith ymchwil pellach wedi dangos bod rhai o'r gwrthrychau'n gwbl ddilys, tra bod eraill yn dangos olion ymdrechion i'w 'gwella', neu wedi cael eu gwneud yn ddiweddarach o ddarnau metel hynafol a drawsffurfiwyd yn ffurfiau clasurol.

Gan fod galw mawr am hynafiaethau clasurol yn y cyfnod hwn, peth digon cyffredin oedd cynhyrchu gwrthrych o ddarnau hynafol o nifer o ffynonellau, neu, mewn geiriau eraill, i greu pastiche (gwaith celf sy'n efelychu arddull darn cynharach). Ceir nifer o ffugweithiau hefyd, lle defnyddiwyd y metel anghywir ar gyfer oedran y gwrthrych. Roedd Arglwydd Howard de Walden yn ymwybodol iawn o hyn, ac wrth drefnu'r benthyciad i'r Amgueddfa ysgrifennodd 'efallai na fyddwch am dderbyn rhai o'r darnau rhai na ellid bod yn sicr ynglŷn â'u dilysrwydd'.

'Helmed' efydd

Archwiliodd staff cadwraeth yr Amgueddfa un o'r gwrthrychau hyn, sef helmed efydd wedi'i addurno ag aur a ymddangosai ei fod yn dyddio o'r 3edd ganrif CC. Defnyddiwyd pelydr-X i ddatgelu cyflwr y metel, lefel y cyrydu, ac adeiladwaith yr helmed. Fodd bynnag, datgelwyd llawer mwy na'r disgwyl pan sylwyd ar linellau sodro trwchus. Roedd yr helmed wedi cael ei atgyweirio'n gymharol ddiweddar; roedd y craciau wedi cael eu sodro a'r tyllau wedi cael eu hatgyweirio gan ddefnyddio darnau bach o fetel. Gosodwyd patina (y llewyrch sy'n datblygu ar hen wrthrychau o ganlyniad i'w defnyddio) ffug sy'n edrych fel efydd sydd wedi cyrydu, ar ei ben.

Dangosodd dadansoddiad o'r metel bod yr helmed efydd, a'r darnau metel a ddefnyddiwyd i atgyweirio'r tyllau, yn hynafol. Serch hynny, gwelwyd arwyddion bod yr aur yn fodern.

Atgyweiriwyd ac addurnwyd yr helmed ag aur er mwyn cynyddu ei werth a'i wneud yn fwy deniadol i gasglwyr. Mae'n debyg i'r gwaith gael ei gwblhau ar droad yr 20fed ganrif.

A ddylid tynnu neu gadw'r gwaith atgyweirio modern?

Yn y diwedd, penderfynwyd tynnu hanner y patina ffug er mwyn dangos y gwaith atgyweirio o dan yr wyneb. Teimlwyd bod y newidiadau'n rhan o hanes y gwrthrych, a fyddai'n bwrw goleuni ar y technegau a ddefnyddiwyd yn y cyfnod pan gasglwyd yr helmed.

Mae'r astudiaeth o'r casgliad pwysig hwn yn bwrw goleuni ar dechnoleg hynafol yr arfau a'r arfwisg glasurol, a natur y farchnad hynafiaethau ganrif yn ôl.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.