Trysor 'chwedlonol' Tre-gwynt

Plasdy Tre-gwynt

Plasdy Tre-gwynt, Medi 1996: creu'r cwrt tennis.

Celc darnau arian Tre-gwynt

Celc darnau arian Tre-gwynt: detholiad o'r darnau arian a ddarganfuwyd.

Darn arian Albanaidd Cleddyf-a-Theyrnwialen Iago VI, 1602

Darn arian Albanaidd Cleddyf-a-Theyrnwialen Iago VI, 1602. Dyfarnwyd yr arian y bu Iago yn gyfrifol am ei ddwyn i'r de yn 1603, pan gafodd ei goroni'n Frenin Lloegr, yn arian cyfreithlon yn Lloegr a Chymru.

Darn arian punt a wnaed o aur: darn ugain swllt y Brenin Siarl I (1625-49).

Darn arian punt a wnaed o aur: darn ugain swllt y Brenin Siarl I (1625-49).

Hanner coron arian (2s 6d [12½c]) Siarl I, 1642.

Hanner coron arian (2s 6d [12½c]) Siarl I, 1642. Fe'i bathwyd mewn bathdy argyfwng yn Amwythig ar ddechrau'r Rhyfel Cartref; hanner coron oedd cyflog diwrnod marchfilwr. Ar y cefn, mae'r Brenin yn addo ymladd dros Gyfreithiau Lloegr, y ffydd Brotestannaidd a Rhyddid y Senedd. O amgylch yr ymyl ceir yr arysgrif ganlynol: 'Let God arise, let his enemies be scattered!'

Plasty Tre-gwynt, Abergwaun, Sir Benfro

Bob blwyddyn mae Amgueddfa Cymru'n derbyn ceiniogau a thocynnau a ddarganfuwyd ar hap, ond o bryd i'w gilydd daw rhywbeth mwy syfrdanol i'r golwg. Ar 17 Medi 1996, darganfuwyd un o gelciau ceiniogau gwychaf Cymru.

Mae'r stori'n dechrau ym Mhlasty Tre-gwynt, nid nepell o Abergwaun, ym 1996 pan oedd y perchnogion yn adeiladu cwrt tenis. Pan dynnwyd yr uwchbridd i lefelu'r safle dadorchuddiwyd rhai ceiniogau. Darganfuwyd rhagor o geiniogau wrth i fwy o'r uwchbridd gael ei dynnu. Ar ôl diwrnod neu ddau, dadorchuddiwyd 87 o geiniogau arian ac aur yn dyddio o'r 16eg a'r 17eg ganrif.

Bu'r penderfyniad i beidio â rhyddhau unrhyw wybodaeth yn syth yn un doeth, oherwydd erbyn canol Hydref, ar ôl llogi JCB i helpu gyda gwaith chwilio pellach, dadorchuddiwyd 33 o geiniogau aur, 467 o geiniogau arian, darnau o grochenwaith, haen o blwm, a modrwy aur! Mewn cwest crwner yn Hwlffordd ar 12 Mehefin 1997, datganwyd bod y ceiniogau a'r fodrwy yn drysor cudd.

Pam fod celc Tre-gwynt yn arbennig?

Celc Tre-gwynt yw un o'r celciau ceiniogau gwychaf i gael ei ddarganfod yng Nghymru erioed. Adeg ei gladdu, byddai wedi bod gwerth £51 9s. (tua £10,000 yn arian heddiw) - digon i gyflogi a darparu'n dda ar gyfer hanner cant o filwyr am tua mis. Mae'r celc yn anghyffredin am ei fod yn cynnwys amrywiaeth eang o geiniogau aur ac arian sy'n dyddio o ganol yr 17eg ganrif, yn cynnwys coron aur (pum swllt) sy'n dyddio nôl i gyfnod Harri'r VIII.

Mae'r ceiniogau'n cynrychioli amrywiaeth eang o werthoedd a theyrnasiadau: darnau chwecheiniog a sylltau o gyfnodau Edward VI (1547-53), Philip a Mary (1554-8), Elisabeth I (1558-1603), gyda gweddill y ceiniogau aur yn dod o gyfnod James I (1603-25) a Siarl I (1625-49). Mae yna un geiniog aur o'r Alban o gyfnod James VI sy'n dyddio o 1602 hefyd, ychydig cyn ei goroni'n frenin Lloegr.

Mae yna ddwy geiniog Wyddelig prin iawn: hanner coron a gyflwynwyd yn 1642 gan gynghrair y gwrthryfelwyr Catholig mae'n debyg, a choron a gyflwynwyd mewn argyfwng yn Nulyn ym 1643, sef y darganfyddiad cyntaf o'r fath i'w gofnodi yng Nghymru a Lloegr yng nghyd-destun y Rhyfel Cartref.

Dyddio'r Celc

Swllt unigol gyda theyrnwialen arno yw'r geiniog ddiweddaraf yn Nhre-gwynt. Fe'i defnyddiwyd yn ystod 1647 a 1648, felly ni chladdwyd y celc cyn 1647.

Oliver Cromwell a Brwydr Sain Ffagan

Tre-gwynt yw'r celc ceiniogau 'Rhyfel Cartref' cyntaf i'w gofnodi yn Sir Benfro, ac er nad oes modd gwybod yn union pryd y claddwyd y celc, mae'n debygol i'r sir fod yn ganolbwynt i'r 'Ail Ryfel Cartref' fel y'i gelwir - cyfres o wrthryfeloedd yn hanner cyntaf 1648. Yn Chwefror y flwyddyn honno gwrthododd y seneddwr pybyr, Cyrnol Poyer, drosglwyddo Castell Penfro i Gyrnol Fleming, ac erbyn Mawrth roedd gwrthryfel wedi dechrau. Cafodd y seneddwyr eu gyrru o Sir Benfro ac ni chafodd brenhinwyr eu hatal tan frwydr Sain Ffagan ger Caerdydd ar 8 Mai 1648. Yn sgil y gwrthryfel, daeth Oliver Cromwell ei hun i'r gorllewin i ymosod ar Gastell Penfro, a pharhaodd y frwydr tan 11 Gorffennaf.

Pryd, Pwy a Pham?

Mae'n debygol iawn felly bod cysylltiad uniongyrchol rhwng claddu celc Tre-gwynt a digwyddiadau 1648. Pwy oedd y perchennog? Nid oes modd bod yn sicr, ond ni ddaeth byth nôl i'w gasglu. Perchennog Tre-gwynt ar y pryd oedd Llewellin Harries, ffermwr pwysig a gafodd o leiaf 12 o blant, a bu farw ym 1663. Claddwyd y celc mewn adeilad allanol mewn llestr wedi'i orchuddio â haen o blwm, sy'n awgrymu iddo gael ei gladdu gan aelod o'r teulu: ond ai'r perchennog fu'n gyfrifol amdano? Ynghanol dryswch y rhyfel cartref, byddai unrhyw beth yn bosibl. Mae yna dystiolaeth mai brenhinwyr oedd y teulu Harries, ond os felly, mae'n debyg iddynt lwyddo i osgoi'r dirwyon a orfodwyd ar gefnogwyr y Brenin yn sgil y rhyfel.

Ymladdodd tri dyn o'r enw Harries dros y brenin yn Sain Ffagan, ond nid oes sicrwydd bod cysylltiad rhwng yr un ohonynt â Thre-gwynt. Modrwy 'posy' (arwyddair) yw'r fodrwy aur, sy'n perthyn i'r celc. Mae arni'r ysgythriad 'Rather death then [than] falce of fayth' ‐ ond ni ellir dyfalu'r ystyr, na phwy oedd y perchennog.

Chwedl Tre-gwynt

Mae yna hen chwedl fod yna drysor yn Nhre-gwynt; trysor a guddiwyd ar frys pan ymosododd milwyr Ffrainc ar Abergwaun yn ystod dawns yn y plasty. Ond nid felly y bu mewn gwirionedd. Er nad oes modd gwybod gwir hanes trysor Tre-gwynt, mae'n enghraifft nodedig o arian Cymreig o'r cyfnod modern cynnar, ac yn atgof trawiadol o'r ffordd y chwalodd Ryfel Cartref Lloegr gymunedau cyfan.

Darllen Cefndir

'A Civil War hoard from Tregwynt, Pembrokeshire' gan E. Besly. Yn British Numismatic Journal, cyf. 68, tt119-36 (1998).

'Welsh treasure from the English Civil War' gan E. Besly. Yn Minerva, cyf. 9(4), tt49-51 (Gorffennaf/Awst 1998).

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru
2 Hydref 2017, 12:54

Hi there Meryl

Thanks for your enquiry. I will follow up by email so that you can speak to one of our curators directly about viewing the hoard.

Best wishes,

Sara
Digital Team

Meryl Harries
1 Hydref 2017, 15:49
Where can we see the Tregwynt Hoard at the moment. Family connection to the house and the hoard.