Clawdd pileri llechi Thomas Williams yn Bisham

Y clawdd pileri llechi yn Bisham (Windsor a Maidenhead).

Y clawdd pileri llechi yn Bisham (Windsor a Maidenhead). Mae tua 150m (164 llath) o'r clawdd hwn wedi goroesi, er bod trigolion lleol yn cofio'r adeg pan oedd yn hwy o lawer. At ei gilydd, mae pileri'r clawdd yn Bisham yn codi tua 180cm (5.9 troedfedd) uwchlaw'r ddaear ac mae'n rhaid bod oddeutu 40cm (1.3 troedfedd) yn ychwanegol o dan y ddaear. Mae pob piler tua 20cm (7.9 modfedd) o led a 3.5cm (1.4 modfedd) o drwch.

Beth a barodd i glawdd pileri llechi gael ei godi yn nyffryn Tafwys, 300km o chwareli llechi gogledd-orllewin Cymru?

Daeth cloddiau pileri llechi yn gyffredin yng ngogledd-orllewin Cymru o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Yn 1861, er enghraifft, cynhyrchai Chwarel y Penrhyn, Bethesda (Gwynedd) - un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd bryd hynny - tua 9,000 o bileri unigol. Roedd y pileri hyn ar ffurf darnau unionsyth o lechfaen glas o ansawdd gwael, pob un, fel arfer, tua 150cm (4.9 troedfedd) o uchder. Mor gynnar â 1798, sylwodd y Parchedig W. Bingley, ar stad yr Arglwydd Penrhyn, y câi'r darnau eu gyrru:

"into the ground about a foot distant from each other, and interwoven near the top with briars, or any kind of flexible branches to hold them together."

Caent eu defnyddio o amgylch caeau a gerddi ac o boptu rheilffyrdd a ffyrdd, ac roedd eu gwneuthuriad syml yn dra chyfaddas ar gyfer y tywydd garw sy'n nodweddu'r ucheldiroedd.

Er eu bod i'w canfod yng nghyffiniau chwareli llechi Cymru, mae cloddiau pileri llechi yn brin iawn y tu hwnt i'r ardaloedd chwarelyddol. Felly, mae'r clawdd pileri llechi a ganfuwyd yn ddiweddar gerllaw Temple House (wedi'i ddymchwel bellach) yn Bisham (Windsor a Maidenhead), yn anarferol iawn. Gwyddys i sicrwydd ar sail y lliw glasborffor y cloddiwyd y llechfaen yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn Chwarel y Penrhyn yn ôl pob tebyg.

Cwyd y cwestiwn, felly, beth a barodd i glawdd pileri llechi gael ei godi bron 300km (186 milltir) o ffynhonnell y garreg? Mae a wnelo'r ateb â chyn berchnogion Temple House.

Adeiladwyd Temple House tua 1790 ar gyfer Thomas Williams, perchennog gwaith copr Temple Mill gerllaw. Cyfreithiwr o ogledd Cymru oedd Thomas Williams (1737-1802) a ddaeth yn ŵr blaenllaw yn niwydiant copr Prydain. Cyflogodd Williams y pensaer, Samuel Wyatt, i ddatblygu Temple Mills, ac mae'n debyg mai i Samuel hefyd yr ymddiriedwyd y dasg o godi Temple House.

Roedd gan Samuel Wyatt gysylltiadau agos â pherchnogion Chwarel y Penrhyn. Yn 1782 adnewyddodd ef adeilad ar ran Richard Pennant (yr Arglwydd Penrhyn yn ddiweddarach), ac yn 1786 penodwyd ei frawd, Benjamin II, yn brif reolwr stad y Penrhyn. Sicrhaodd y berthynas hon gyflenwad cyson o lechi i Samuel ar gyfer ei weithgareddau masnachol ei hun. Talodd Samuel y gymwynas yn ei hôl drwy hyrwyddo'r defnydd o lechfaen yn ardal Llundain, gan ei ddefnyddio at ddibenion silffoedd, tanciau dŵr, seddau tai bach, siliau ffenestri ac ar gyfer wynebu muriau, yn ogystal â deunydd toi.

Os cafodd pileri llechi Temple House eu cyflenwi gan Samuel Wyatt, gellid bod wedi'u cludo i Bisham heb fawr o drafferth. Hyd yn oed cyn adeiladu tramffordd o Chwarel y Penrhyn i'r cei ym Mangor (Port Penrhyn) yn 1801, roedd rhwydwaith effeithiol o ffyrdd eisoes yn cysylltu'r chwarel â'r porthladd.

O'r cei, roedd fflyd o longau yn cludo llechi o amgylch arfordir yr Ynysoedd Prydeinig. Roedd gan deulu Wyatt fuddsoddiadau mewn nifer o'r llongau hyn. O Lundain, gellid cludo llwythi o lechi ar fadau a hwyliai i fyny afon Tafwys.

Felly, mae llawer o dystiolaeth amgylchiadol yn cysylltu clawdd pileri llechi Bisham â Samuel Wyatt a Chwarel y Penrhyn, ac yn awgrymu y cafodd y clawdd ei godi tua 1790. Ond mae un wedd ar y modd y cafodd y pileri eu trin yn bwrw amheuaeth ar hyn. Mae'n amlwg y torrwyd rhai o'r pileri cynhaliol mwyaf â llif gron - techneg na chafodd ei defnyddio cyn 1805, yn sicr, ac a ddaeth yn gyffredin dim ond wedi 1840.

Un awgrym sy'n cyfuno'r naill ddarn o dystiolaeth a'r llall yw'r posibilrwydd y cafodd y clawdd gwreiddiol ei godi tua 1790, ond iddo ddirywio wrth ymsuddo ym mhridd llifwaddod meddal ardal Bisham. Y canlyniad posibl oedd archebu ail lwyth o lechi Cymru tua 1840 er mwyn trwsio'r clawdd.

Mae'n ymddangos yn rhesymol, felly, i ddod i'r casgliad fod y clawdd gerllaw Temple House yn dyst i'r cysylltiadau rhwng dau o ddiwydianwyr mawr Cymru, y meistr copr Thomas Williams a Richard Pennant o Chwarel y Penrhyn, drwy'r pensaer Samuel Wyatt. Rhannai'r ddau dreftadaeth gyffredin ac, felly, onid oedd yn gwbl naturiol i Thomas Williams a'i bensaer arddangos potensial llechi Cymru gerllaw ei waith copr yn Temple Mill?

The Wyatts: an architectural dynasty gan John Martin Robinson. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1979).

Dafydd Roberts, 'Copor a Llechi : Ffens Llechi Thomas Williams yn Bisham', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 65, tt. 89-97 (2004).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.