Dodrefn Bryn-mawr, 1929-40

Arbrawf Bryn-mawr

Cwpwrdd-cist Tal-y-bont a chadair freichiau Ynys-ddu a wnaed gan Gwmni Dodrefn Bryn-mawr.

Cwpwrdd-cist Tal-y-bont a chadair freichiau Ynys-ddu a wnaed gan Gwmni Dodrefn Bryn-mawr.

Pan ddaeth y Crynwyr i dref ddiwydiannol Bryn-mawr ddiwedd y 1920au, ychydig o bobl fyddai wedi credu y byddai'r ymweliad yn agor pennod newydd yn hanes cymdeithasol a chelfyddydol Cymru.

Ymgais ar ran Cymdeithas y Cyfeillion i leddfu'r diweithdra oedd yn rhemp yn y dref yn y cyfnod oedd "Arbrawf Bryn-mawr". Y nod oedd sefydlu cwmni cydweithredol a fyddai'n cynnal projectau cymunedol a mentrau oedd yn cynnwys gwneud esgidiau a hosanau, cynhyrchu brethyn, a llunio dodrefn.

Nid oedd traddodiad o wneud celfi ym Mryn-mawr cyn sefydlu'r fenter ac felly nid oedd unrhyw un o'r gweithwyr yn hyddysg yn y grefft. Dechreuodd gwaith y fenter ym 1929 wrth gyflogi deuddeg o ddynion lleol heb eu hyfforddi. Yn ddiweddarach, cafodd llanciau ifanc eu cyflogi a'u hyfforddi yn syth o'r ysgol. Yn ystod y blynyddoedd cynnar cefnogwyd y fenter yn bennaf gan gwmnïau llwyddiannus eraill oedd yn eiddo i Grynwyr - yr archeb gyntaf oedd am 400 o gadeiriau ar gyfer ysgol Grynwrol yng Nghaerefrog. Roedd pob cadair yn costio £1 (sef £41 neu $74 yn arian heddiw) ac aeth yr elw i brynu offer a pheiriannau newydd i'r cwmni.

Paul Matt

Poster hysbysebu Cwmni Dodrefn Bryn-mawr.

Poster hysbysebu Cwmni Dodrefn Bryn-mawr.

Priodolwyd llwyddiant dodrefn Bryn-mawr yn bennaf i'w cynllunydd, Paul Matt. Bwrodd ei brentisiaeth dan ofal ei dad, saer dodrefn medrus, ond enillodd brofiad hefyd drwy weithio fel cynllunydd yn Llundain. Mae arddull syml dodrefn Bryn-mawr yn dangos yn gwbl glir y cafodd Matt ei ddylanwadu gan gelfi celfyddyd a chrefftau, a chynllunwyr fel Ambrose Heal a'r brodyr Russell.

Bu Paul Matt hefyd yn gyfrifol am gynllunio dodrefn oedd yn gymharol syml eu gwneuthuriad; gwaith a roddai ystyriaeth i'r ffaith fod y rhan fwyaf o'r gweithwyr yn ddi-grefft yn y blynyddoedd cynnar. Gwnaed hyn drwy fabwysiadu dull o osod paneli laminedig o bren haenog mewn fframwaith solet o bren. Roedd yn defnyddio pren derw wedi'i fewnforio'n bennaf ac yn ei gaboli â haen o gwyr clir gan roi pryd a gwedd ddirodres a diaddurn i'r celfi, nodweddion oedd yn gydnaws ag athroniaeth y Crynwyr.

Sgwâr Cavendish, Llundain

Siop adrannol David Morgan a agorodd yng Nghaerdydd ym 1879. Bu'r siop yn gefn mawr i Gwmni Dodrefn Bryn-mawr rhwng 1932 a 1940. Ar ôl masnachu am gyfnod o  125 o flynyddoedd, gwerthwyd David Morgan Cyf. yn 2004.

Siop adrannol David Morgan a agorodd yng Nghaerdydd ym 1879. Bu'r siop yn gefn mawr i Gwmni Dodrefn Bryn-mawr rhwng 1932 a 1940. Ar ôl masnachu am gyfnod o 125 o flynyddoedd, gwerthwyd David Morgan Cyf. yn 2004.

Yn ogystal â chynhyrchu dodrefn o'r ansawdd gorau, roedd y cwmni hefyd yn llwyddiannus wrth farchnata'r cynnyrch. Drwy ddefnyddio taflenni hysbysebu a chatalogau sgleiniog, pwysleisiwyd delfrydau dyngarol y cwmni, sef cynhyrchu celfi o'r ansawdd gorau o ran eu gwneuthuriad a'u cynllun, a darparu swyddi parhaol er budd y gymuned leol. Apeliodd y delfrydau hyn at ddosbarthiadau canol a phroffesiynol y 1930au megis athrawon felly aeth y cwmni ati i anelu ei gynnyrch at y garfan hon drwy geisio cadw pris y dodrefn o fewn eu cyrraedd. Gellid gweld dodrefn Bryn-mawr hefyd mewn arddangosfeydd a gynhaliwyd mewn siopau adrannol megis Browns yng Nghaer a siopau Lewis's yn Birmingham a Manceinion. Ym 1938 cafodd y cwmni gafael ar leoliad arddangos barhaol yn ardal ffasiynol Sgwâr Cavendish, Llundain. Agorwyd yr arddangosfa gan Mrs Neville Chamberlain a oedd hefyd yn un o noddwyr dodrefn Bryn-mawr.

Er i'r cwmni brofi cryn lwyddiant yn Lloegr, roedd hefyd yn awyddus i hyrwyddo dodrefn Bryn-mawr yng Nghymru. Bu David Morgan Cyf., siop adrannol adnabyddus yng Nghaerdydd, yn gefn i'r cwmni o'r dyddiau cynnar, gan roi lle iddo arddangos y cynnyrch yn rhad ac am ddim rhwng 1932 a 1940. Bu'r cwmni hefyd yn cynnal arddangosfeydd blynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cyhoeddi deunydd hysbysebu yn y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, câi'r celfi eu marchnata fel rhai Cymreig a cawsant eu henwi ar ôl enwau lleoedd yng Nghymru, megis cist Cwmbrân, bord Llanelli, seld Talgarth a chadair Cwm-du. Sicrhaodd hyn gefnogaeth ffyddlon ymhlith cylchoedd proffesiynol ac academaidd Cymru drwy gydol y 1930au.

Rhyfel

Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938 o Ffatri Bryn-mawr.

Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 1938 o Ffatri Bryn-mawr.

Ym 1936 ymadawodd Paul Matt â'r cwmni er mwyn trefnu gwaith arall ar gyfer y di-waith yn ne Cymru. Ei olynydd oedd ei gynorthwywr, Arthur Reynolds, a fu'n gyfrifol am rai newidiadau bach i'r cynlluniau ac am gynnwys mwy o gelfi pren cyll Ffrengig yn y casgliadau. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd ffatri hen waith Gwalia ei llosgi'n ulw a chodwyd adeilad newydd sbon gerllaw'r hen safle ym 1937. Er na chafodd hyn fawr o effaith ar y gwaith cynhyrchu, dirywiodd y gwerthiant yn araf ddiwedd y 1930au wrth i'r rhyfel agosáu. Wedi i'r rhyfel gychwyn roedd hi hefyd yn anodd mewnforio deunyddiau a gwaetha'r modd, yr unig ddewis oedd i gau ffatri Dodrefn Bryn-mawr ym 1940.

Darllen Cefndir

"Crafts and the Quakers" gan Gwen Lloyd Davies. Yn Planet, cyf. 51, tt.108-111 (Gorffennaf 1985).

"Utopian designer: Paul Matt and the Brynmawr Experiment", gan Roger Smith. Yn Furniture History, cyf. 23, tt.88-94 (1987).

"Philanthropic Furniture: Gregynog Hall, Powys" gan Lindsay Shen. Yn Furniture History, cyf. 31, tt.217-235 (1995).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.