Medal Albert a enillwyd yng Nghaerdydd 1919

Walter Cleall, enillydd Medal Albert. Hawlfraint y llun Kenneth Williams.

Walter Cleall, enillydd Medal Albert. Hawlfraint y llun Kenneth Williams.

Medal Albert (wyneb).

Medal Albert (wyneb).

Y Gwesty Brenhinol, Caerdydd (tynnwyd y llun yn 2003).

Y Gwesty Brenhinol, Caerdydd (tynnwyd y llun yn 2003).

Ym 1919 enillodd Walter Cleall Fedal Albert am ddewrder am achub bywyd Winnie Jones o dŷn yn y Gwesty Brenhinol, Caerdydd.

Yn ystod prynhawn 11 Awst 1919, cafodd Winnie Jones, morwyn ystafell nad oedd ar ddyletswydd ar y pryd, ei hun yn gaeth yn ei hystafell ar 6ed llawr y Gwesty Brenhinol oedd ar dân. Ni allai ysgolion y Frigad Dân ei chyrraedd. Roedd torf wedi ymgynnull a rhedodd dau ŵr - Tom Hill a Walter Cleall - i mewn i'r gwesty i geisio ei hachub.

Rywsut neu'i gilydd, llwyddodd Cleall i gyrraedd y 6ed llawr, ond er mwyn cyrraedd y ferch bu'n rhaid iddo dorri ffenest a throedio ar hyd parapet cul bron i 30m (100 troedfedd) uwchlaw Stryd Wood. Cariodd y ferch nôl yr un ffordd ac wrth i'r ddau ymadael â'r ystafell, dymchwelodd y to. Aed â'r ferch a'i hachubwr yn anymwybodol i'r ysbyty.

Bu bargyfreithiwr o Lundain, oedd yn digwydd bod yng Nghaerdydd y diwrnod hwnnw, yn dyst i'r digwyddiad. Yn ddi-oed, ysgrifennodd at yr Ysgrifennydd Cartref (bargyfreithiwr arall) ac ymhen deudydd roedd y Swyddfa Gartref yn archwilio p'un ai a ddylid gwobrwyo dewrder Cleall. Y mis Mawrth dilynol, arwisgwyd Cleall â Medal Albert gan y Brenin, prif wobrwy dewrder sifil Prydain bryd hynny.

Dyfarnwyd Medal Albert am y tro cyntaf ym 1866 am ddewrder wrth achub bywyd ar y môr. Ym 1877, cafodd yr amodau eu hymestyn i gynnwys digwyddiadau ar y tir, yn dilyn achubiaeth ddramatig pump o lowyr a fu'n gaeth dan ddaear dros gyfnod o naw diwrnod yng nglofa Tynewydd yng Nghwm Rhondda. Mewn dim o dro, câi'r medal ei galw yn 'Groes Victoria Sifil'. Pan grëwyd Croes Siôr ym 1940, nid oedd angen Medal Albert mwyach, ac eithrio ar gyfer ambell wobrwy ar ôl marwolaeth, ac ym 1971 fe'i diddymwyd. Gwahoddwyd ei deiliaid a oedd ar dir y byw i'w chyfnewid am Groes Siôr. Roedd Walter Cleall yn un o bump a ddewisodd gyflwyno eu medalau gwreiddiol i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Darllen Cefndir

For Those in Peril, gan Edward Besly. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2004).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.