Gleindorch Pen-y-bonc

Gleindorch Pen-y-bonc (Ynys Môn). Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig.

Gleindorch Pen-y-bonc (Ynys Môn). Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig.

Sero-radiograff o leindorch Pen-y-bonc. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig.

Sero-radiograff o leindorch Pen-y-bonc. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig.

Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (yr Alban). Llun: Helen Jackson ar gyfer Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban.

Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (yr Alban). Llun: Helen Jackson ar gyfer Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban.

Lwnwla aur o Swydd Kerry, Iwerddon. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig.

Lwnwla aur o Swydd Kerry, Iwerddon. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig.

Fel y gwyddom, roedd gan y Frenhines Fictoria gryn ddiddordeb mewn gemwaith muchudd (jet), ond mae hanes y defnydd a wnaed o'r garreg led-werthfawr hon yn hwy o lawer, fel y tystia gleindorch 4,000 o flynyddoedd oed o Ynys Môn.

Yn 1828 cafwyd hyd i fedd naddedig mewn craig ym Mhen-y-bonc, 3km (1.8 milltir) i'r gorllewin o Gaergybi, ym Môn. Gwaetha'r modd, anghyflawn yw cofnodion y darganfyddiad hwn ond roedd y bedd, yn ôl pob tebyg, tua 4,000 o flynyddoedd oed ac mae ymhlith y cyfoethocaf i ddod i'r amlwg hyd yma ym Môn.

Awgryma'r ffaith fod y torwyr beddau wedi mynd i'r drafferth o dorri'r bedd yn y graig mai person pwysig oedd yr ymadawedig. Ar ben hynny, yn ôl y sôn, cafwyd hyd i ddau freichdlws metel a chasgliad o leiniau du, gleiniau gwahanu a botymau yn y bedd. Mae'r Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (dangoswyd yn y llun) yn dangos yr enghraifft hon siâp gleindorch glain gwahanu cyflawn, ac mae'n dangos sut yr addurnwyd rhai o'r enghreifftiau gorau.

Gwaetha'r modd, collwyd y breichdlysau a rhai o'r gleiniau, yn ôl pob tebyg, yn fuan wedi'r darganfyddiad ond mae'r darnau sydd wedi goroesi wedi'u cadw bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa Brydeinig. Mae'r darnau hyn yn perthyn i leindorch o leiniau a gleiniau gwahanu ar ffurf cilgant. Fel rheol, ceir hyd i wrthrychau fel y rhain yn gysylltiedig â chladdfeydd merched.

Gwnaed y rhan fwyaf o leiniau a gleiniau gwahanu gleindorch Pen-y-bonc o lo cannwyl neu lignit (dau ddeunydd tebyg i lo sydd i'w canfod ledled Cymru). Fodd bynnag, gwnaed un glain ac un o'r botymau sydd wedi goroesi o fuchudd, deunydd sydd i'w gael yn Whitby (gogledd Swydd Efrog), 300km (186 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Fôn.

Pren ffosiledig ysgafn a meddal yw muchudd a ymffurfiodd o goed a dyfai 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Jwrasig. Fe'i ceir mewn rhai rhannau o Ewrop yn unig a ddioddefodd amodau daearegol arbennig. Y modd yr ymffurfiodd sy'n ei wneud yn wahanol i ddeunyddiau tebyg, fel lignit.

Dim ond rhannau o'r leindorch sydd wedi goroesi. Mae'n bosibl mai'r darnau yma yn unig a gladdwyd gan fod y gleindorchau muchudd a ddarganfyddir o'r Oes Efydd yn aml yn anghyflawn. Ar y llaw arall, efallai y gwnaed rhannau o'r leindorch o ddefnyddiau sydd wedi pydru ers hynny, neu y collwyd rhai darnau pan gafodd y gwrthrych ei gloddio.

Roedd cynhyrchu gleindorchau muchudd yn waith medrus. Câi edefynnau niferus y leindorch eu crogi drwy ddefnyddio gleiniau gwahanu y gwthiwyd y llinynnau trwy'r tyllau a duriwyd ynddynt. Mae'n debyg y gwnaed y gwaith manwl hyn drwy ddefnyddio dril bwa a darn o weiar efydd. Yn achos gleindorch Pen-y-bonc, cafodd rhai o'r tyllau eu turio ar eu hyd drwy'r gleiniau gwahanu. Ond er mwyn cynyddu nifer yr edefynnau ar un ochr i'r glain gwahanu, turiwyd tyllau drwy un pen er mwyn ei gwneud hi'n bosibl clymu llinynnau newydd i mewn.

Yn wahanol i nifer o emau, mae'n gynnes o'i gyffwrdd ac yn gymharol rwydd i'w weithio; yn ogystal, mae modd caboli muchudd yn loyw lân. Heddiw, mae'n ymdebygu i blastig sgleiniog ond yn ystod yr Oes Efydd mae'n siŵr y byddai arno olwg dieithr ac anarferol. Ar ben hynny, mae gan fuchudd briodoleddau electrostatig anarferol (pan gaiff ei rwbio mae'n atynnu gwallt a deunyddiau ysgafn eraill) a fyddai'n cael ei ystyried yn hudol, o bosibl, yn ystod y cyfnod cynhanesyddol ym Mhrydain.

Roedd y darnau o fuchudd yng ngleindorch Pen-y-bonc wedi'u treulio'n arw sy'n awgrymu eu bod yn eitemau a drysorwyd ac a gadwyd am flynyddoedd lawer. Ond roedd llai o ôl traul ar y rhannau hynny o'r leindorch a wnaed o ddeunyddiau lleol, sy'n awgrymu eu bod yn amnewidion mwy diweddar a gafodd eu gosod yn y leindorch er mwyn estyn oes trysor teuluol.

Roedd gwrthrychau a wnaed o fuchudd yn boblogaidd ledled Prydain yn ystod yr Oes Efydd Cynnar (2300-1500CC), ond wedi'r cyfnod hwn dirywiodd y defnydd ohono.

Mae'n eironig meddwl, tua'r adeg y darganfuwyd gleindorch fuchudd Pen-y-bonc yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diwydiant muchudd Whitby ar drothwy adfywiad, diolch i raddau helaeth i obsesiwn y Frenhines Fictoria â galarwisgoedd du yn dilyn marwolaeth y Tywysog Albert.

Lwnwla Aur

Mae lwnwlâu aur hefyd yn dyddio o'r Oes Efydd Cynnar ac yn aml caent eu harddurno mewn modd tebyg i leindorchau muchudd. Fodd bynnag, fel rheol ceir hyd i leindorchau muchudd mewn claddfeydd ond ni cheir hyd i lwnwlâu gyda'r meirw. Efallai fod muchudd yn awgrymu marwolaeth a bod aur yn cynrychioli bywyd ym meddyliau pobl 4,000 o flynyddoedd yn ôl.

Darllen Cefndir

'The Welsh 'jet set' in prehistory' gan Alison Sheridan a Mary Davis. Yn Prehistoric ritual and religion gan Alex Gibson a Derek Simpson, tt148-62. Sutton Publishing (1998).

'Investigating jet and jet-like artefacts from prehistoric Scotland: the National Museums of Scotland project' gan Alison Sheridan a Mary Davis. Yn Antiquity (2002), cyf. 26, tt812-25. 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.