Lwnwla Llanllyfni

Lwnwla Llanllyfni.

Lwnwla Llanllyfni. Mae'n pwyso 185.4g (6.5 owns) ac yn mesur 24cm (9.5 modfedd) ar ei draws. Yn ôl pob tebyg crëwyd yr addurn hwn ar lun cilgant gan grefftwr a'i morthwyliodd yn fedrus o un ingot ar ffurf rhoden. Yna, ychwanegwyd yr addurniadau cymhleth o linellau igam-ogam, llinellau a dotiau drwy ddefnyddio offeryn pigfain a phwnsh copor neu efydd. Mae'r cynlluniau hyn yn debyg iawn i'r rhai a ddefnyddiwyd i addurno crochenwaith a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Adluniad o ferch yn gwisgo lwnwla aur o Lanllyfni

Adluniad o ferch yn gwisgo lwnwla aur o Lanllyfni, ( tua'r flwyddyn 2000CC).
Aur oedd un o'r metelau cyntaf i gael ei ddefnyddio yng Nghymru, ynghyd â chopr ac aloeon megis efydd. Mae defnyddio aur ar gyfer gemwaith ac addurniadau wedi bod yn thema gyson ers y cyfnodau cynnar.

Y gwrthrych trawiadol hwn yw un o'r arteffactau aur cynharaf i'w ddarganfod yng Nghymru ac mae'n dyddio o ddechrau'r Oes Efydd (2400-2000CC).

Fe'i darganfuwyd tua 1869 ar dir fferm Llecheiddior-uchaf, ger Dolbenmaen, ychydig filltiroedd o Lanllyfni (Gwynedd). Sylwodd gwas ffarm oedd allan yn saethu ar yr hyn a dybiai oedd deilen lawryf, felen yn gwthio allan o'r mawn. Gan nad oedd yn rhy siŵr ai dyna a welodd, dychwelodd i'r safle yn ddiweddarach, gan ddatgladdu'r gwrthrych aur hwn ar lun cilgant.

Oherwydd ei ffurf gilgantaidd fe'u gelwir yn lwnwla (Yn Lladin, luna = lleuad). Cafwyd hyd i wrthrychau tebyg i hwn yn yr Alban, Cernyw, gogledd-orllewin Ffrainc, ac Iwerddon lle y daethpwyd o hyd i oddeutu 90 o enghreifftiau.

Fel rheol, ceir hyd i lwnwlâu mewn mannau anghysbell, ymhell o aneddiadau hynafol, ac yn fynych fe'u darganfyddir yn ddamweiniol, megis yr enghraifft o Lanllyfni.

Yn ôl un awgrym, y bwriad oedd eu gwisgo fel dwyfronegau, ond mae'r ffaith nad oes ôl traul ar yr aur yn awgrymu na chawsant eu defnyddio fawr ddim. Mae'n bosibl eu bod yn symbol offeiriad neu'n wrthrychau a gâi eu defnyddio yn ystod defodau cymuned.

Mae'n bosibl y gwnaed lwnwla Llanllyfni o aur o Gymru, o faes aur Dolgellau, er enghraifft, neu o Ddolaucothi i'r gogledd-orllewin o Lanymddyfri, ond mae rhai'n amau ei fod yn un o'r defnyddiau crai a gâi ei fasnachu a'i fewnforio o Iwerddon.

Darllen Cefndir

'Bronze Age gold in Britain' gan J. P. Northover. Yn Prehistoric gold in Europe gan G. Morteani a J. P. Northover. Cyhoeddwyd gan Kluwer (1993).

Bronze Age goldwork of the British Isles gan J. J. Taylor. Gwasg Prifysgol Caergrawnt (1980).

'Objects mostly of prehistoric date discovered near Beddgelert and near Brynkir station' gan W. J. Hemp. Yn Proceedings of the Society of Antiquaries of London, ail gyfres, cyf. 1, tt166-83 (1918).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.