Caerdydd Ganoloesol

Prifddinas Cymru

Map John Speed 1610. Mae map Speed o Gaerdydd yn dangos sawl agwedd o ddatblygiad y ddinas, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r nodweddion a ddisgrifir yn yr erthygl yma.

Map John Speed 1610. Mae map Speed o Gaerdydd yn dangos sawl agwedd o ddatblygiad y ddinas, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r nodweddion a ddisgrifir yn yr erthygl yma.

Wrth deithio o gwmpas prifddinas Cymru, mae'n hawdd anghofio i sylfeini'r ddinas fodern gael eu gosod sawl canrif yn ôl. Ffurfiwyd calon y ddinas yn y canoloesoedd, ac mae olion y cyfnod i'w gweld hyd heddiw, yn enwedig yng nghyffiniau'r castell.

Mae Caerdydd yn gorwedd yng nghanol tair afon, y Taf, yr El'i a'r Rhymni. Bu'r trigolion cyntaf yn rheoli masnach a symudiad ar hyd yr afonydd hyn, oedd yn golygu bod ganddynt bŵer dros ardal helaeth.

Caerdydd Rufeinig

Castell Caerdydd fel y byddai wedi bod yn y 14eg ganrif.

Castell Caerdydd fel y byddai wedi bod yn y 14eg ganrif. Mae rhan fewnol y banc canoloesol yn dal i sefyll ar dir y castell. Wrth edrych yn ofalus mae'r sylfeini ar gyfer y mur dwyreiniol canoloesol i'w weld o hyd ar ben y banc.

Y bobl gyntaf i fanteisio ar y lleoliad hwn oedd y Rhufeiniaid a sefydlodd gaer yma tua OC55-60. Cafodd y gaer ei hailadeiladu sawl gwaith nes i furiau carreg gymryd lle'r rhai pren ganol i ddiwedd y 3edd ganrif OC. Roedd y gaer anferth yma'n amddiffyn ei thrigolion nes i'r Rhufeiniaid adael Prydain tua OC 350-375.

Rhoddodd muriau carreg y gaer ffynhonnell deunydd adeiladu eithriadol o dda i genedlaethau'r dyfodol. Un peth arall a adawodd y Rhufeiniaid i ni oedd rhwydwaith o ffyrdd oedd yn cysylltu Caerdydd â llefydd cyfagos. Presenoldeb yr olion hyn ar leoliad oedd o werth naturiol eithriadol fu'n gyfrifol am ddenu adeiladwyr canoloesol diweddarach.

Y castell canoloesol

Tŵr Beauchamp, Castell Caerdydd.

Tŵr Beauchamp, Castell Caerdydd. Adeiladodd Richard Beauchamp, Iarll Warwick, y tŵr yma yn y 15fed ganrif i amddiffyn porth y gorllewin. Roedd y tyllau ar ben y tŵr yn gadael i'r milwyr ollwng cerrig neu dân ar ben unrhyw ymosodwyr. Ychwanegwyd y meindwr anghyffredin yn y 19eg ganrif.

Heddiw, mae olion Rhufeinig Caerdydd ar goll i raddau helaeth o dan y castell canoloesol. Daw gwreiddiau'r castell o ddiwedd y 11eg ganrif, adeg goresgyniad y Normaniaid ym Morgannwg. Dechreuodd Wiliam Goncwerwr y gwaith ar ôl dychwelyd o Dyddewi yn Sir Benfro ym 1081. Mae arysgrif ar ddarn arian a ffeindiwyd o fewn muriau'r castell yn cadarnhau hyn, ac yn awgrymu hwyrach bod William wedi sefydlu bathdy yn y castell.

Castell pren oedd ar y safle tan y 12fed ganrif pan adeiladodd Robert Consol, Dug Caerloyw, y castell carreg. Robert adeiladodd waliau gorllewinol a deheuol y Castell hefyd, gan adeiladu ar ben olion muriau'r gaer Rufeinig.

Tua dechrau'r 15fed ganrif, cafodd y castell, y dref a'r maestrefi eu dinistrio gan fyddin Owain Glyndŵr. Roedd y castell yn adfail nes iddo ddod i feddiant Richard Beauchamp, Iarll Warwick, ym 1423. Adnewyddodd Beauchamp yr amddiffynfeydd ac adeiladau'r castell, ac adeiladu'r ystafelloedd gorllewinol a'r tŵr wythochrog, sef tŵr Beauchamp.

Mae rhan helaeth o weddill y castell a'r muriau'n dyddio o'r 19eg ganrif, pan gyflogodd Ardalydd Bute ŵr o'r enw William Burges i adfer, ailwampio ac ailadeiladu'r safle.

Y dref ganoloesol

Mur y castell, Caerdydd.

Mur y castell, Caerdydd.

Adeiladwyd Neuadd Sir Caerdydd y tu fewn i furiau'r castell yn y 14eg neu'r 15fed ganrif. Roedd hi'n dal i gael ei defnyddio fel canolfan weinyddol y dref tan y 17eg ganrif.

Roedd y dref ganoloesol yn ymledu allan o Borth Ddeheuol y castell ar hyd y Stryd Fawr a Heol Eglwys Fair. Mae'n ddiddorol nodi bod y Stryd Fawr yn cyd-redeg â'r porth deheuol Rhufeinig yn hytrach na'r un canoloesol, sy'n awgrymu ei fod yn dyddio o gyfnod cynharach.

Mae'n debyg i'r dref ganoloesol ddatblygu mewn dwy ran. Roedd y rhan gyntaf mewn llecyn cymharol fach rhwng Working Street a Womanby (Hummanbye) Street a daw'r ddau enw o'r hen Norseg. Credir bod 'Hummanbye' yn dod o'r hen air Norseg 'Hundemanby' sy'n golygu 'ardal y bobl estron. Mae'r dystiolaeth yma'n awgrymu bod gwreiddiau ôl-Rufeinig Caerdydd yn rhagddyddio'r goncwest Normanaidd, ond mae angen rhagor o waith cyn y gellir cadarnhau hyn.

Yn ystod ail ran ei datblygiad ehangodd Caerdydd tua'r de eto. Wedyn cafodd ei chau i mewn a'i hamddiffyn gan lan a ffos, wedyn porth garreg yn y dwyrain. Afon Taf oedd yn amddiffyn y dref o'r gorllewin.

Bu'r Taf yn ddylanwad mawr ar siâp Caerdydd ganoloesol. Tan y 1840au, roedd yr afon yn ystumio'n araf tua'r de, o gyfeiriad muriau'r castell. Erbyn 1610, roedd yr afon wedi cyrraedd Hummanbye Street, ac roedd yn dechrau tarfu ar eglwys y Santes Fair. Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd yr eglwys wedi cael ei dinistrio'n llwyr, a heddiw dim ond enw'r eglwys sydd ar ôl fel enw stryd.

Dim ond dwy ran o'r muriau canoloesol sydd ar ôl, a'r ddwy i'r dwyrain o furiau'r castell. Mae'r cyntaf yn cynnal gwely blodau wrth ymyl mur y gaer Rufeinig, tra bod y darn mwy ar draws y ffordd y tu ôl i'r siopau. Cafodd rhan helaeth o hen sylfeini'r muriau eu dinistrio gan y canolfannau siopa anferth a lyncodd cymaint o lonydd canoloesol cul y ddinas.

Cafodd maestref gyntaf Caerdydd ei hadeiladu y tu allan i Borth y Dwyrain, Cokkerton Street, sef Heol y Frenhines erbyn heddiw (er bod yr enw Crockerherbtown Lane yn dal i aros yn y lôn gul y tu ôl i Heol y Frenhines). Mae'r enw'n awgrymu mai crochenwyr ('crockers') fyddai'n gweithio yn yr ardal. Roedd hi'n beth doeth cadw'r diwydiant allan o brif ran y dref am nad yw odynau ac adeiladau pren yn cyd-fyw'n hapus iawn!

Crefydd

Mur y dref ganoloesol, Caerdydd. Yn anffodus, dyma'r darn gorau o furiau tref Caerdydd sy'n dal i sefyll. Mae'r mur wedi ei guddio y tu ôl i'r siopau mawr ar Heol y Frenhines.

Mur y dref ganoloesol, Caerdydd. Yn anffodus, dyma'r darn gorau o furiau tref Caerdydd sy'n dal i sefyll. Mae'r mur wedi ei guddio y tu ôl i'r siopau mawr ar Heol y Frenhines.

Mae Eglwys Sant Ioan yn sefyll yng nghanol Caerdydd. Daw gwreiddiau'r eglwys o gyfnod cyn y 13eg ganrif. Mae'r gwaith maen cynharaf sy'n dal i sefyll yn dyddio o'r 13eg ganrif, ac ychwanegwyd y tŵr tua'r 1470au. Cafodd rhan helaeth o'r eglwys y gwelwn ni heddiw ei ailadeiladu yn ystod y 18fed ganrif.

Ar ben deheuol y dref ganoloesol roedd eglwys y Santes Fair, oedd yn gysylltiedig â Phriordy Benedictaidd y Santes Fair a sefydlwyd tua 1171. Cafodd mynachod y Priordy eu galw nôl i'w mam-eglwys, Abaty Tewkesbury, ym 1221, a dinistriwyd popeth ond yr eglwys ym 1607.

I'r dwyrain o'r castell roedd anheddiad y Brodyr Llwydion, ac yn y gorllewin roedd y Brodyr Duon. Sefydlwyd y ddau tua 1256-80. Bu'r mynachod yn rhan bwysig o fywyd Caerdydd tan y 1530au pan ddiddymodd Harri VIII eu mynachlogydd. Erbyn 1610, roedd o leiaf un o adeiladau'r Brodyr Duon yn adfail, a throwyd adeilad y Brodyr Llwydion yn blasty fel cartref teulu'r Herbert. Goroesodd adfeilion y plasty tan yr 20fed ganrif pan gawsant eu dymchwel i wneud lle ar gyfer maes parcio aml lawr a bloc swyddfeydd.

Darllen Cefndir

Olion Tŷ'r Brodyr Duon, Caerdydd, yng Nghae Cooper wrth ymyl y castell.

Olion Tŷ'r Brodyr Duon, Caerdydd, yng Nghae Cooper wrth ymyl y castell.

'Cardiff Castle excavations, 1974-1981' gan Peter Webster. Yn Morgannwg, cyf. 25, t201-11 (1981).

Cardiff Castle: its history and architecture by J. P. Grant. Cyhoeddwyd gan William Lewis (1923).

Medieval Town Plans gan B. P. Hindle. Cyhoeddwyd gan Shire Archaeology (1990).

The Cardiff Story. A history of the city from its earliest times to the present gan Dennis Morgan. Cyhoeddwyd gan Brown and Sons (1991). 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.