Sidanau o Loegr a wisgid yn Nhŷ Tredegar

Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow.

Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow.

Cot fer gŵr, yn dyddio o'r 1720au cynnar. Taffeta gwyn ac iddo batrwm les yw'r defnydd.

Cot fer gŵr, yn dyddio o'r 1720au cynnar. Taffeta gwyn ac iddo batrwm les yw'r defnydd.

Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725.

Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725.

Gŵn llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (gŵn ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed yn y 1720au

Gŵn llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (gŵn ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed yn y 1720au.

Gwisg sidan a phais a wnaed yn Lloegr tua 1745-47.

Gwisg sidan a phais a wnaed yn Lloegr tua 1745-47. Er i'r wisg gael ei hail-lunio, mae'r defnydd mewn cyflwr da. Ar gefndir o daffeta melyn ceir streipiau cannelé gwyn, a'r cyfan wedi'i frocedio â rhosod a luniwyd o edau sidan.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif bu teulu Morgan o Dŷ Tredegar yn gyfrifol am gasglu ynghyd gasgliad pwysig o ddillad sidan oedd yn tystio i'w cyfoeth a'u statws.

Yn ystod y 18g. gellid mesur safle cymdeithasol gŵr bonheddig ar sail ansawdd ei dŷ neu ei ddillad - mynegiant o statws oedd gwisgo sidan, les neu edau aur ddrudfawr. Byddai teuluoedd o Gymru'n prynu sidanau gweëdig, cynnyrch diwydiant sidan Spitalfields yn Llundain, ac yn ddod â nhw nôl i Gymru i ddodrefnu eu tai, i wneud dillad a gwneud argraff ar eu cymdogion.

Morganiaid Tŷ Tredegar, Arglwyddi Tredegar yn ddiweddarach, oedd yn un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru. Roedd ganddynt lenni sidan cyfoethog yn eu cartref, yn ôl y disgrifiad hwn a o restr a baratowyd ym 1698:

"4 green Silke Damask chequer curtains flowred with gold colour and lined with white chequer silke with double valiance, foot valiance, teaster and quilte imbroidred with Silke frings."

Yn yr un ystafell wely roedd pedair llen ffenestr o sidan caerog gwyn a saith clustog sidan a oedd yn cyd-fynd â chroglenni'r gwely. Roedd gorchuddion oren yn eu hamddiffyn nhw i gyd.

Yn ogystal, byddai'r Morganiaid yn gwisgo'r sidanau caerog gweëdig a'r sidanau eurbleth gwychaf a mwyaf ffasiynol. Mae rhai ohonynt, a gafwyd yn rhoddion gan Arglwydd Tredegar ym 1923, i'w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'r casgliad hwn yn cynnwys dillad sidan a wnaed yn Lloegr, ac mae'r mwyafrif yn dyddio o ganol y 18g.

Mae un wisg a phais o Ffrainc yn dyddio o gyfnod cynharaf cofnod 1698. Mae'n bosibl mai Martha Morgan oedd piau'r rhain. Roedd Martha'n wraig Thomas Morgan, aelod o deulu Mansel, Margam (a Phen-rhys yn ddiweddarach), ac un o deuluoedd cyfoethocaf y sir. Dilynwyd Thomas Morgan gan ei frawd, a ychwanegodd yn sylweddol at faint y stadau. Pan etifeddodd ei fab yntau, Syr William Morgan, yr eiddo ym 1719, roedd modd iddo fentro ar ffordd liwgar iawn o fyw.

Ym 1724 priododd Syr William â'r Foneddiges Rachel Cavendish, merch Dug Dyfnaint, a chanddi waddol o £20,000. Mae sawl dilledyn o Dŷ Tredegar yn dyddio o'r cyfnod rhwng 1720 a 1731, pan bu farw William. Mae pob un o'r gwisgoedd hyn yn cydweddu â chwaeth Syr William, oedd yn enwog am ei afradlonedd - ym 1725 gwariodd £37,418 - ac yn ôl pob tebyg prynoddd pob un o'r gwisgoedd yn Llundain.

Bu i'r Foneddiges Rachel fyw am hanner can mlynedd wedi marwolaeth ei gŵr, a threuliodd ei hamser yn gofalu am fuddiannau ei phlant. Pan fu farw ei hunig fab heb briodi ym 1763, fe gollodd hi frwydr yn y llysoedd ac etifeddodd ei brawd-yng-nghyfraith Thomas Morgan y stad. Mae'r rhan fwyaf o wisgoedd eraill Tredegar yn perthyn i'r cyfnod hwn ac yn ôl pob tebyg, y Foneddiges Rachel, neu Jane, wyres John Morgan (a aned ym 1731), a briododd ym 1758 ac a etifeddodd y stad yn ddiweddarach, oedd piau'r dillad hyn.

Gan nad oes un o sidanau Tredegar yn dyddio o'r cyfnod wedi marwolaeth y Foneddiges Rachel, mae'n demtasiwn credu fod y cyfan yn eiddo iddi hi ac iddynt gael eu rhoi i gadw wedi iddi farw. Yna, yn ystod y ganrif ddilynol, cawsant eu hailddarganfod gan y teulu a'u hystyried yn addas i'w defnyddio fel gwisgoedd ffansi.

Darllen Cefndir

"Social conditions at Tredegar House Newport in the 17th and 18th centuries", gan M.R. Apted. Yn Monmouthshire Antiquarian, cyf. 3:2, tt.124-54 (1972-3).

Tredegar House gan David Freeman. Cyhoeddwyd gan Adran Gweithgareddau Hamdden Casnewydd (1982, cyhoeddwyd argraffiad diwygiedig ym 1998).

Silk designs of the 18th century in the collection of the Victoria & Albert Museum gan Natalie Rothstein. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Victoria ac Albert (1990).

Woven Textile Design in Britain to 1750 gan Natalie Rothstein. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Victoria ac Albert (1994).

"A court mantua of c.1740 by Janet Arnold". Yn Costume (Journal of the Costume Society), cyf. 6, tt.48-52 (1972).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.