Crochenwaith Rhufeinig yng Nghymru

Odyn lestri Rufeinig yn Holt. Sefydlwyd yr odynau hyn gan yr 20fed Leng er mwyn cynhyrchu crochenwaith ar gyfer eu caer yng Nghaer.

Odyn lestri Rufeinig yn Holt. Sefydlwyd yr odynau hyn gan yr 20fed Leng er mwyn cynhyrchu crochenwaith ar gyfer eu caer yng Nghaer.

Llestri llathredig du. Cynhyrchwyd y crochenwaith yn wreiddiol gan lwyth y Durotriges yn Dorset ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth gan y fyddin Rufeinig a'r boblogaeth sifil ym Mhrydain.

Llestri llathredig du. Cynhyrchwyd y crochenwaith yn wreiddiol gan lwyth y Durotriges yn Dorset ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth gan y fyddin Rufeinig a'r boblogaeth sifil ym Mhrydain.

Dyma ddau Lestr Llwyd o dde Cymru a bowlen o'r un deunydd o Gaerllion. Datblygwyd Llestri Llwyd de Cymru yn ardal Brynbuga, ac roedd yn nodedig am ei jariau storio a chynwysyddion.

Dyma ddau Lestr Llwyd o dde Cymru a bowlen o'r un deunydd o Gaerllion. Datblygwyd Llestri Llwyd de Cymru yn ardal Brynbuga, ac roedd yn nodedig am ei jariau storio a chynwysyddion.

Casgliad o wahanol lestri y cafwyd hyd iddynt ar safle caer Rufeinig Brynbuga - costrel i ddal diod, jar storio, powlen ar gyfer cymysgu neu goginio, a chaead mawr a ddefnyddiwyd wrth goginio yn ôl pob tebyg.

Casgliad o wahanol lestri y cafwyd hyd iddynt ar safle caer Rufeinig Brynbuga - costrel i ddal diod, jar storio, powlen ar gyfer cymysgu neu goginio, a chaead mawr a ddefnyddiwyd wrth goginio yn ôl pob tebyg.

Daeth y Rhufeiniaid â nifer o bethau newydd i Gymru - ffyrdd, baddonau a threfi ymhlith sawl peth arall - ond gyda'r amlycaf o'r pethau newydd roedd crochenwaith wedi'i fasgynhyrchu.

Câi crochenwaith ei ddefnyddio yng Nghymru dros gyfnod o bedair mil o flynyddoedd cyn y goresgyniad Rhufeinig, ond ar hyd y blynyddoedd roedd yr hyn a gynhyrchwyd yn gynnyrch diwydiant ar raddfa fechan.

Can mlynedd wedi'r goresgyniad Rhufeinig roedd dwsinau o weithdai ym Mhrydain, oedd yn gwerthu eu cynnyrch ar hyd a lled y wlad. Roedd crochenwaith ar gael ym mhobman, ac roedd pawb bron yn ei ddefnyddio.

Un o'r grymoedd allweddol oedd yn gyfrifol am y newid hwn oedd y fyddin Rufeinig a'i heconomi. Defnyddiai'r llengoedd grochenwaith i storio a chludo nwyddau, megis bwyd, diod a defnyddiau crai eraill. Defnyddiwyd crochenwaith wrth goginio a gweini bwyd, ac ar gyfer adeiladu, plymio a gwneud toi. Mewn gair, roedd yn anhepgor.

Fodd bynnag, roedd y crochenwaith yn rhy drwm i'w gario dros bellter ac felly, wrth gyrraedd ardal newydd, byddai angen i'r llengoedd sicrhau ffynonellau newydd i ddiwallu eu hanghenion.

Yn ne Lloegr gallai'r fyddin fanteisio ar ddiwydiannau cynhyrchu crochenwaith datblygedig iawn, gweithdai a fedrai gynyddu eu cynnych er mwyn diwallu anghenion y farchnad newydd hon. Er enghraifft, datblygwyd llestri llathredig du, cynnyrch llwyth y Durotriges yn Dorset, i ddiwallu anghenion y fyddin, a chafwyd hyd i enghreifftiau a fewnforiwyd ar nifer o safleoedd yng Nghymru.

Fodd bynnag, nid oedd cludo crochenwaith i Gymru yn gwneud synnwyr economaidd. Yn ddelfrydol, roedd angen i'r fyddin ddod o hyd i gyflenwr lleol - gorchwyl oedd cryn dipyn yn anoddach oherwydd bod crochenwyr a chrochenwaith yn gymharol brin yng Nghymru.

Un o'r lleng-gaerau cyntaf yng Nghymru oedd yr un ym Mrynbuga (Sir Fynwy), a sefydlwyd rhwng OC55 a 60 gan yr Ugeinfed Leng, yn ôl pob tebyg. Yma, roedd y garsiwn yn ei gynnal ei hunan drwy gynhyrchu ei grochenwaith ei hunan, a thrwy fewnforio serameg o diriogaethau a orchfygwyd yn Lloegr ac ar y cyfandir.

Yng Nghaer, yn OC100, sefydlodd yr Ugeinfed Leng gaer arall. Unwaith eto, diwallodd y lleng y galw am grochenwaith drwy adeiladu rhes o grochendai diwydiannol, sylweddol eu maint, yn Holt (Wrecsam). Ceir odynau milwrol ar safleoedd caerau eraill yng Nghymru hefyd.

Er na allai crochenwyr o Gymry wasanaethu'r fyddin Rufeinig i ddechrau, dros y blynyddoedd datblygodd diwydiannau lleol i ddiwallu anghenion y farchnad enfawr hon. Yn ardal Brynbuga dechreuodd crochenwyr gynhyrchu jariau o fath arbennig a elwir yn 'Llestri Llwyd de Cymru'. Yn ogystal, cynhyrchwyd llestri coginio a gweini eraill ond bu'n rhaid i'r rhain gystadlu'n frwd â'r diwydiant cynhyrchu Llestri Llathredig Du yn ne Lloegr.

Nid y fyddin yn unig oedd yn elwa ar y diwydiannau newydd hyn. Bellach, roedd marchnad ar gyfer y niferoedd mawr o ddarnau o grochenwaith a gâi eu cynhyrchu yng Nghymru i'w chael ymhlith y boblogaeth sifil a'r brodorion hefyd. Ar safleoedd archaeolegol y cyfnod hwn ledled Cymru, mae presenoldeb crochenwaith Rhufeinig yn nodwedd ddiffiniol.

Er y byddai baddonau a filâu wedi aros yn bethau dieithr i nifer fawr o frodorion Prydain, daeth crochenwaith Rhufeinig yn elfen dderbyniol o'r goresgyniad ac yn arf cynnil yn y broses o Rufeineiddio Prydain.

Darllen Cefndir

A Pocket Guide: Roman Wales gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru a'r Western Mail (2001).

Report on the Excavations at Usk 1965-1976: The Roman Pottery, golygwyd gan W. H. Manning. Gwasg Prifysgol Cymru (1993).

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.