Oesoedd Iâ a Phreswylwyr Ogofâu

Oes yr Iâ

Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yn yr ogof hon y ffeindiwyd yr olion dynol hynaf yng Nghymru, yn dyddio o oddeutu 230,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yn yr ogof hon y ffeindiwyd yr olion dynol hynaf yng Nghymru, yn dyddio o oddeutu 230,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r cyfnod Palaeolithig yn cyfateb i'r cyfnod a elwir yn aml yn 'Oes yr Iâ'. Dyma pryd yr oedd yr hinsawdd yn pendilio rhwng cyfnodau oer iawn (a elwir yn gyfnodau rhewlifol), adegau pan oedd Cymru gyfan dan orchudd o iâ, a chyfnodau cynnes (cyfnodau rhyngrewlifol), fel y cyfnod presennol. Yn ystod hinsoddau cyfnewidiol y cyfnod Palaeolithig yr esblygodd ein hynafiaid cynnar o'u gwreiddiau yn Affrica, ymfudo ar draws Ewrop ac Asia, a datblygu'n fodau dynol modern.

Yng Nghymru, daw'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth sydd gennym am fodolaeth cymunedau Palaeolithig o ogofâu. Mae'r rhain i'w canfod lle ceir calchfaen; er enghraifft, mewn rhannau o Sir Ddinbych, Bro Gŵyr a de Sir Benfro.

Daw'r dystioaeth sydd gennym am fodau dynol yng Nghymru o safle Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yma, mae cloddiadau wedi dwyn i'r amlwg weddillion ffurfiau cynnar pobl Neanderthalaidd, a oedd yn byw tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl.

Neanderthalaidd

Ogof Coygan (Sir Gaerfyrddin). Ni chafwyd hyd i weddillion dynol yma, dim ond llond dwrn o offer sy'n dangos y câi'r ogof ei defnyddio dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd.

Ogof Coygan (Sir Gaerfyrddin). Ni chafwyd hyd i weddillion dynol yma, dim ond llond dwrn o offer sy'n dangos y câi'r ogof ei defnyddio dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd.

Roedd pobl Neanderthalaidd yn helwyr ac mae eu hoffer yn dangos y bu'n rhaid iddynt fod yn agos i'w prae er mwyn ei ladd. Nodweddir sgerbydau Neanderthalaidd, a gloddiwyd ar hyd a lled Ewrop, gan nifer fawr o esgyrn toredig, sy'n awgrymu mai'r helwyr eu hunain a gâi eu hanafu'n wael yn aml wrth iddynt hela eu prae.

Gwnâi pobl Neanderthalaidd Ogof Pontnewydd offer drwy ddefnyddio cerrig lleol a gesglid yng nghyffiniau'r ogof; mae'r rhain yn cynnwys offeryn nodweddiadol a elwir yn naddyn Levallois. I greu'r rhain, paratoir darn mawr o garreg (a elwir yn graidd) drwy guro darnau oddi ar ei hymylon. Yna, caiff un naddyn Levallois ei fwrw oddi ar y craidd parod. Gellid defnyddio hwn naill ai fel offeryn torri neu, o'i gymhwyso ryw ychydig, fel crafell.

Offeryn carreg nodweddiadol arall a ddefnyddid gan bobl Neanderthalaidd oedd llawfwyell 'bout coupé' — llawfwyell o wneuthuriad da ac iddi ben gwastad yn hytrach nag un pigfain.

Lawfwyeill

Llawfwyeill 'bout coupé' (Ogof Coygan). Mae'r offer hyn yn nodweddiadol o dechnoleg Neanderthalaidd.

Llawfwyeill 'bout coupé' (Ogof Coygan). Mae'r offer hyn yn nodweddiadol o dechnoleg Neanderthalaidd.

Cafwyd hyd i lawfwyeill 'bout coupé' yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin, safle sydd bellach wedi'i ddinistrio gan waith cloddio mewn chwarel. Cafodd Ogof Coygan ei defnyddio fel gwylfan dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd rywbryd rhwng 60,000 a 40,000 o flynyddoedd yn ôl. Yna, bu'n ffau a ddefnyddid gan udfilod ar drothwy'r rhewlifiant diwethaf.

Mae'n bosibl mai'r dirywiad hwn yn yr hinsawdd yw'r rheswm am dranc y bobl Neanderthalaidd, a ddiflannodd oddi ar wyneb y Ddaear tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl.

Dynol modern

Yn 1823, darganfu William Buckland o Brifysgol Rhydychen sgerbwd yn yr ogof hon...

Yn 1823, darganfu William Buckland o Brifysgol Rhydychen sgerbwd yn yr ogof hon. Roedd yr esgyrn wedi'u staenio'n goch a gerllaw iddynt darganfuwyd breichledau a gleiniau cragen. Credai Buckland fod yr esgyrn yn weddillion gwraig, a oedd yn byw yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Bellach, mae gwyddoniaeth fodern wedi profi bod y ddamcaniaeth ddengar hon yn anghywir. Mewn gwirionedd, sgerbwd gŵr tua 25 oed ydoedd, a gladdwyd tua 26,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ymddangosodd bodau dynol modern, fel ninnau, am y tro cyntaf tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Nodir ein hymddangosiad gan y defnydd o fath newydd o offer cerrig a wnaed o lafnau tenau, hir a dorrwyd oddi ar flocyn o gallestr. Y llafnau hyn a ddaeth yn sylfaen offer a oedd yn llawer mwy amlddefnydd ar gyfer hela, torri cig ac amrediad ehangach o weithgareddau eraill na'r rheini a ddefnyddid gan y bobl Neanderthalaidd.

Datblygodd bodau dynol modern cynnar y gelfyddyd gyntaf hefyd. Mae paentiadau ogofâu o'r cyfnod hwn wedi goroesi yn Ffrainc a gogledd Sbaen — ardaloedd oedd y tu hwnt i derfynau'r rhewlifau. Ym Mhrydain, mae celfyddyd yr ogofâu yn brinnach o lawer, a'r unig enghraifft y gwyddys amdani hyd yma yw'r engrafiad o alpafr, o bosibl, yn un o ogofâu Creswell Crags (Swydd Nottingham).

Twll yr Afr — Gladdfa ddynol gynharaf ym Mhrydain

Mae gwaith cloddio a drefnwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi dangos bod pobl yn byw yn yr ogof hon tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl ac eto tua 12,500 o flynyddoedd yn ôl.

Mae gwaith cloddio a drefnwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi dangos bod pobl yn byw yn yr ogof hon tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl ac eto tua 12,500 o flynyddoedd yn ôl.

Yng Nghymru, ni ddarganfuwyd hyd yn oed un enghraifft o gelfyddyd yr ogofâu, hyd yma ond cafwyd hyd i esgyrn ysgythredig a cherfiedig. Efallai mai Twll yr Afr (Gŵyr) yw'r safle mwyaf arwyddocaol i ildio'r math yma o ddeunydd. Yn yr ogof hon y darganfuwyd y gladdfa ddynol gynharaf ym Mhrydain, sy'n dyddio o oddeutu 26,000 o flynyddoedd yn ôl.

Ymhlith yr ogofâu eraill a feddiannwyd gan bobl yn ystod cyfnod cynnar y rhewlifiant diwethaf ceir Cae Gwyn a Ffynnon Beuno (y ddwy yn Sir Ddinbych), ac Ogof Hoyles Mouth (Sir Benfro) a ddefnyddiwyd tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl. Wedi'r cyfnod cynnar hwn, ymestynnodd llenni iâ ar draws Cymru a rhwng 20,000 a 18,000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y rhewlifiant yn ei anterth, gorchuddiai'r iâ bobman ac eithrio rhannau mwyaf deheuol y wlad.

Mae'n bosibl y gallai pobl fod wedi goroesi'r hinsawdd oer yn y mannau lle nad oedd iâ yn gorchuddio'r tir, drwy ddefnyddio crwyn anifeiliaid a thanau i'w cadw'n gynnes. Ond roedd eu prae wedi hen ymfudo tua'r de, gan eu gadael heb fwyd, ac felly cawsant eu gorfodi i'w dilyn.

Tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl dechreuodd y llenni iâ araf encilio ac adfeddiannwyd Prydain gan bobl. Credir iddynt ddychwelyd tua 14,500 o flynyddoedd yn ôl, ond mae'r dystiolaeth gynharaf yng Nghymru, a ddaw o ogofâu fel Twll yr Afr a Hoyles Mouth, yn dyddio o oddeutu 12,500 o flynyddoedd yn ôl.

Ar ôl diwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf, tua 11,500 o flynyddoedd yn ôl, mae swmp y dystiolaeth am bresenoldeb pobl yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol ac yn newid o ran ei chymeriad. Defnyddir y dyddiad hwn i ddynodi diwedd y cyfnod Palaeolithig a dechrau'r Mesolithig.

Darllen Cefndir

Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales gan Stephen Green ac Elizabeth A. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1991). 

Background Reading

Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales by Stephen Green and Elizabeth A. Walker. Published by the National Museum of Wales (1991).

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Marc Haynes Staff Amgueddfa Cymru
15 Medi 2017, 11:59
Hi Derek,

I've been in touch with our online shop staff and unfortunately we don't have any copies of this book left in stock. There are, however, second-hand copies copies available from other online sellers, so I hope you succeed in getting yourself a copy.

Best wishes,

Marc
Digital Team
Derek Smithers
10 Medi 2017, 16:41
How do I obtain a copy of 'Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales' and how much would it cost.