Beddrodau Oes y Cerrig yn ne-ddwyrain Cymru

Blaengwrt a siambr Castell Carreg (Bro Morgannwg). Gellir ymweld â siambr y gofeb drawiadol hon a adeiladwyd yn null Cotswold-Severn heddiw. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Adluniad dychmygol o seremoni gladdu yng Nghastell Carreg, gan Alan Sorrell.

Plan o feddrod Gwernvale (Powys). Mae'r plan hwn o'r beddrod yn nodweddiadol o'r math Cotswold-Severn, ond yn yr achos hwn, nid oes modd cyrraedd y siambrau drwy'r blaengwrt, ond yn hytrach o ochrau'r beddrod.

Powlen o'r Tŷ-Isaf (Powys). 24.6cm (9.8 modfedd) mewn diamedr. Cafwyd hyd i'r bowlen syml hon mewn darnau ac mae'n fwy nodweddiadol o nwyddau claddu'r cyfnod.

Mae beddrodau'r Oes Cerrig yn gymharol gyffredin yng Nghymru. Mae'r henebion 6,000 oed hyn yn cynnwys un siambr neu fwy wedi eu hadeiladu o gerrig anferth (megalithau). Byddai'r rhain o dan orchudd o bridd neu gerrig yn wreiddiol, ond anaml iawn mae hyn yn goroesi.

Gwnaed llawer o'r beddrodau hyn yn ôl dyluniad cyffredin, ac yn ne-ddwyrain Cymru mae hyn yn aml ar ffurf twmpath trapesoid, gyda'r pen lletaf yn pwyntio tua'r dwyrain ac yn agor i flaengwrt. Mae llwybrau byrion yn arwain at y siambrau mewnol o'r blaengwrt neu ochrau'r twmpath.

Mae'r dyluniad hwn i'w weld ledled ardal y Cotswolds (Lloegr), ac ar lanau afon Hafren, a hyn sy'n gyfrifol am yr enw archaeolegol y beddrodau sef Cotswold-Severn.

Mae gwaith cloddio ar y beddrodau hyn fel yr un yn Gwernvale (Powys) wedi dangos bod rhai ohonynt wedi cael eu hadeiladu dros ben setliadau cynharach, gan awgrymu y bu'n bwysig claddu'r meirw ar dir a fu ym meddiant y byw yn ystod y cyfnod hwn.

Yn Pipton a'r Tŷ-Isaf (y ddau ym Mhowys), mae archaeolegwyr wedi darganfod bod rhai beddrodau wedi cael eu hadeiladu fesul tipyn, gan ymgorffori cofeb lai i un mwy o faint yn aml iawn.

Mae rhai o'r cofebion lle digwyddodd hyn yn anferth — er enghraifft, mae Penywyrlod, Talgarth (Powys), yn mesur 60m x 25m x 3m (65 x 27 x 3.2 llathen) i fyny — ac mae'n debygol mai bwriad y tai mawr hyn i'r meirwon oedd hawlio tir, gan bwysleisio i bobl oedd yn pasio bod y tir wedi'i feddiannu.

Ar ôl eu hadeiladu, byddai'r beddrodau Cotswold-Severn yn cael eu defnyddio am genedlaethau. Er enghraifft, cafodd cyrff eu claddu ym Mharc le Breos Cwm (Gŵyr) am dros bum can mlynedd. Mae'r safle yn rhoi cip i ni ar ddefodau claddu'r beddrodau hyn, ac mae'n debyg i rai cyrff gael eu cadw y tu allan i'r beddrod nes eu bod wedi pydru rhywfaint — arfer digon erchyll i ni heddiw, ond mae'n debyg iddi fod yn ran cyffredin o'r ddefod gladdu ar y pryd.

Adeg eu gadael, roedd y beddrodau Cotswold-Severn yn aml yn dal gweddillion nifer fawr o bobl. Ym Mharc le Breos Cwm, ffeindiodd archaeolegwyr dros 40 o gyrff, ac yn Nhŷ-Isaf a Castell Carreg (Bro Morgannwg) ffeindiwyd dros 30 a 50 yn ôl eu trefn.

Mae natur ddarniog y cyrff hyn yn awgrymu nad y gladdedigaeth unigol oedd yn bwysig i adeiladwyr y beddrodau, ond creu pentwr esgyrn teuluol.

Prin iawn yw'r nwyddau claddu a geir yn y beddrodau hyn — ychydig o botiau drylliedig a llond dwrn o offer fflint ar y mwyaf. Mae'n debygol y byddai'r seremoni i anrhydeddu'r meirwon yn digwydd y tu allan i'r siambrau eu hunain.

Mewn cyfuniad, y nwyddau claddu prin hyn, yr esgyrn a'r beddrodau eu hunain yw un o'r prif ffynonellau gwybodaeth am fywyd a marwolaeth yn ne-ddwyrain Cymru yn ystod y cyfnod anghysbell hwn.

Darllen Cefndir

The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006.

The megalithic chambered tombs of the Cotswold-Severn region by T. C. Darvill. Vorda Publications (1982).

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Austen Pinkerton
2 Mawrth 2021, 17:25
Hi,
We recently on a walk came across two very small stone 'burial chambers', two standing stones, and a straight row of 9 stones.
They were down Cott Lane, next to a small plantation wood, round the back of the Oakwood theme park, near Canaston Woods, which are between Narberth and Haverfordwest, just off the A40.
I cant find any reference to them anywhere on the internet, and they were completely unmarked. Do you know where I could find out about them or who to contact?
Look forward to your reply,

Austen Pinkerton

Y Ffermdy
Soneyford
Narberth
SA67 7NX