Coedwigoedd glaw trofannol Cymru

Model cŵyr o côn o gnwpfwsoglau enfawr y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar.

Model cŵyr o côn o gnwpfwsoglau enfawr y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar.

Model cŵyr o darn o foncyff o gnwpfwsoglau enfawr y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar.

Model cŵyr o darn o foncyff o gnwpfwsoglau enfawr y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar.

fforestydd glo

Golygfa dros fforestydd glo'r Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar, yn dangos cnwpfwsoglau enfawr y corstir, a'r rhedyn bychain yn tyfu ger y dŵr

 Ffosil Lepidodentron aculaetum

Ffosil Lepidodentron aculaetum

Heddiw, mae coedwigoedd glaw yn gorchuddio rhan helaeth o'r trofannau a cheir capanau rhew mawr yn y pegynau. Dyma fel y bu, fwy neu lai, ers 3-4 miliwm o flynyddoedd ond ymhell, bell yn ôl, roedd pethau'n wahanol iawn.

Efallai bod 3-4 miliwn o flynyddoedd yn ymddangos yn amser hir i ni ond, o gofio bod hanes y Ddaear yn mynd yn ôl 4,700 miliwn o flynyddoedd, cyfnod cymharol fyr ydyw. Os awn yn ôl i gyfnodau daearegol pellach, er enghraifft pan oedd deinosoriaid yn crwydro'r Ddaear, roedd y sefyllfa'n wahanol iawn i'r hyn a welwn heddiw.

Dim ond mewn un cyfnod arall yn ein gorffennol daearegol y bu'r sefyllfa'n debyg i'r hyn a gawn heddiw, gyda rhew dros ardaloedd eang yn y pegynau a fforestydd glaw yn y trofannau — yn y cyfnod y mae daearegwyr yn ei alw'n Gyfnod Carbonifferaidd Diweddar, 300,000,000 o flynyddoedd yn ôl.

Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn y trofannau bellach gan ein bod wedi symud tua'r gogledd i ran fwy tymherus o'r byd. Ond 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru ar y cyhydedd ac roedd gwern-goedwigoedd trofannol iseldirol yn gorchuddio rhan fawr o'r tir.

Prif blanhigion y corstiroedd hynafol hyn oedd cnwpfwsoglau enfawr. Ceir cnwpfwsoglau heddiw ond rhai bychan iawn ydynt (a dyna pam y ceir 'mwsogl' yn eu henw), ond roedd y mathau hynafol hyn yn mesur hyd at 40 metr o daldra.

Er eu bod mor fawr, nid coed oeddent, oherwydd roedd eu bôn wedi'i wneud o stwff meddal, tebyg i gorc, nid pren. Roedd hyn yn golygu bod y planhigion yn gallu tyfu'n eithriadol o gyflym, gan gyrraedd eu llawn maint mewn cyn lleied â deng mlynedd.

Nid oedd y cnwpfwsoglau'n byw yn hir: byddent yn cyrraedd eu llawn maint, yn atgynhyrchu (â sborau, nid â hadau fel y rhan fwyaf o goed heddiw) ac yna'n marw.

Gan fod cymaint o olion planhigion marw ar y llawr, roedd y llaid a'r silt yr oeddent yn tyfu ynddo yn mynd yn asidig iawn gan olygu nad oedd y planhigion marw'n pydru mor gyflym. Felly, roedd haenen drwchus o fawn yn ffurfio a honno'n troi mewn amser yn lo — a hwnnw fu'n cael ei gloddio ym meysydd glo de a gogledd Cymru.

Y coedwigoedd trofannol Carbonifferaidd oedd un o'r 'sbyngau' cryfaf yn hanes y Ddaear o ran tynnu carbon o'r atmosffer a'i gladdu o dan y ddaear.

Trwy edrych ar y newid a fu ym maint y fforestydd hyn (ac felly faint o garbon yr oeddent yn ei dynnu o'r atmosffer) a'i gymharu â newidiadau ym maint y capanau rhew yn y pegynau, cawn syniad gwell o lawer o'r cysylltiad rhwng faint o garbon sydd yn yr atmosffer a thymheredd y byd.

Gwyddom am un cyfnod yn benodol pan welwyd y fforestydd a'r capan iâ yn crebachu tua'r un pryd.

Er mwyn deall y newidiadau hyn i'r byd yn iawn, mae'n bwysig ein bod yn deall pam a phryd y cafwyd newidiadau yn y fforestydd. I wneud hyn, mae angen edrych yn ofalus ar y newidiadau yn y llystyfiant fel y'i gwelir yn y cofnod ffosilau a'r newidiadau ym maint y fforestydd.

Y daearegwr arloesol o'r 19eg ganrif, Charles Lyell, a fathodd yr ymadrodd, 'y presennol yw'r allwedd i'r gorffennol'. Fodd bynnag, y neges a gawn o gofnod daearegol y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar yw mai'r gorffennol, o bosib, yw'r allwedd i ddeall y presennol.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.