Un casgliad - 786,000 o gregyn - Catalogio a churadu Casgliad Cregyn Melvill-Tomlin

James Cosmo Melvill.

James Cosmo Melvill.

John Read le Brockton Tomlin.

John Read le Brockton Tomlin.

Conus gloriamaris.

Un o sbesimenau pwysicaf Melvill, Conus gloriamaris.

Placostylus from Layard.
Placostylws

o Layard

Pan dderbyniodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gasgliad Melvill-Tomlin o folysgiaid ym 1955, dim ond un casgliad mwy o'i fath yn y byd oedd mewn dwylo preifat.

Cychwynnwyd y casgliad gan James Melvill ym 1853 a'i drosglwyddo i John Tomlin ym 1919. Roedd ynddo sbesimenau o bob rhan o'r byd ac roedd yn cynnwys bron hanner yr holl rywogaethau o folysgiaid y gwyddai dyn amdanynt.

Cafodd dros fil o rywogaethau a oedd yn newydd i fyd gwyddoniaeth eu disgrifio a'u henwi gan Melvill. Daliodd Tomlin ati i ychwanegu sbesimenau newydd o bedwar ban byd tan ddiwedd ei oes ym 1954.

Pan fu farw Tomlin ym 1954, derbyniodd yr Amgueddfa y casgliad cyfan ynghyd â'i lyfrgell a'i bapurau.

Lle i gadw'r casgliad

Cyrhaeddodd y casgliad mewn cabinetau mahogani ond erbyn heddiw fe'i cedwir mewn system raciau symudol, mewn trefn safonol, systematig sy'n hwylus ar gyfer ymchwilwyr tacsonomig sy'n gweithio arno.

Gwaith dogfennu araf a maith

Erbyn heddiw, caiff sbesimenau eu dogfennu trwy roi manylion mewn cronfa ddata gyfrifiadurol ond, yn y gorffennol, roedd y wybodaeth yn cael ei hysgrifennu â llaw mewn cofrestrau mawr. Rhwng 1978 a 1994, bu staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr yn dilysu a labelu sbesimenau'r casgliad ac yn eu rhoi yn eu lle.

Yna, roedd y wybodaeth am y casgliadau'n cael ei chyhoeddi i dacsonomegwyr ym mhob rhan o'r byd fel y gallent hwy wneud rhagor o waith astudio. Pe bai'r broses wedi parhau fel hyn, byddai wedi cymryd 30 mlynedd arall i ddogfennu'r casgliad yn llawn.

Cronfa ddata gyfrifiadurol yn cwblhau'r rhestr 'gyntaf'

Ym 1995, prynwyd cronfa ddata gyfrifiadurol oedd yn golygu y gallai llawer o bobl gofnodi data ar yr un pryd. Ers hynny, bu dros ugain o staff a gwirfoddolwyr yn cofnodi'r casgliad.

Mae'r gwaith o restru'r casgliad, a gychwynnwyd ym 1978, wedi'i gwblhau erbyn hyn a gellir ateb unrhyw ymholiadau mewn munudau yn hytrach na mewn dyddiau neu wythnosau.

Dros ddwy flynedd ar hugain, ychwanegwyd dros 786,000 o gregyn i'r gronfa ddata.

Newydd i wyddoniaeth

Yn y casgliad hwn, ceir miloedd o sbesimenau pwysig iawn a elwir yn 'deipiau'. Roedd y sbesimenau hyn yn ddarganfyddiadau gwyddonol newydd pan gawsant eu casglu ac, fel rheol, cawsant eu disgrifio, eu darlunio a'u henwi gan y casglwr.

Yn achos llawer o hen gasgliadau, dim ond gwaith ditectif gan guraduron amgueddfeydd a thacsonomegwyr ym mhedwar ban byd a all helpu i ddilysu'r wybodaeth hon. Mae rhestr eiddo electronig yn gwneud y dasg yn haws o lawer oherwydd gall cronfa ddata gyfan fod ar gael i dacsonomegwyr ble bynnag y maent.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.