Wedi rhewi mewn amser: y Casgliad Cenedlaethol o Adar yn Amgueddfa Cymru

Glas y Dorlan: un o'r sbesimenau newydd o adar wedi'u rhew-sychu

Glas y Dorlan: un o'r sbesimenau newydd o adar wedi'u rhew-sychu

Fireo llygatgoch: aderyn mudol prin o Ogledd America a laddwyd wrth daro goleudy Ynys Enlli

Fireo llygatgoch: aderyn mudol prin o Ogledd America a laddwyd wrth daro goleudy Ynys Enlli

Hutan: aderyn mudol sy'n brin yng Nghymru; lladdwyd wrth daro Goleudy Enlli

Hutan: aderyn mudol sy'n brin yng Nghymru; lladdwyd wrth daro Goleudy Enlli

Tylluan Glustiog: aderyn magu prin ac ymwelydd gaeaf â Chymru, a laddwyd gan gar

Tylluan Glustiog: aderyn magu prin ac ymwelydd gaeaf â Chymru, a laddwyd gan gar

Un o gasgliadau cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru nôl ym 1915 oedd casgliad Amgueddfa Caerdydd o adar. Roeddent yn cael eu dangos mewn casys, gyda'u nythod a'u hwyau mewn dioramâu bychain o'u cynefinoedd.

Bu'r casgliad hwn yn rhan bwysig o orielau'r Amgueddfa hyd at 1992. Dros y blynyddoedd, bu'r Amgueddfa'n ganolfan ar gyfer astudio llawer o adar, fel y Barcud - mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar (RSPB) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC).

Rhew-sychu

Erbyn heddiw, mae gan Amgueddfa Cymru gyfleusterau healeth i rew-sychu eitemau er mwyn eu cadw. Caiff sbesimenau eu rhewi mewn siambr wactod ar dymheredd o tua -20°C.

O dan yr amodau hyn, mae'r dŵr sydd wedi rhewi yn y sbesimen yn cael ei wthio allan fel anwedd yn hytrach na fel hylif. Mae hyn yn gadael y sbesimen yn hollol sych ac, yn bwysig, mae ei siâp a'i faint fwy neu lai'n union yr un peth ag oeddent pan oedd yn fyw.

Mae rhew-sychu yn ddull symlach o lawer na blingo - sef y dull traddodiadol o gadw'r rhan fwyaf o sbesimenau ar gyfer amgueddfeydd.

Gosodir yr adar mewn ffordd sy'n golygu y gellir archwilio manylion plu'r adenydd a'r gynffon. Mae hyn yn dangos oed a rhyw'r sbesimenau. Mae'r casgliad yn cael ei anelu at adarwyr y maes ac artistiaid fel ei gilydd ac mae'n ychwanegu at gasgliad presennol yr Amgueddfa o grwyn.

Ynys Enlli

Ynys Enlli, oddi ar Ben Llŷn, yn y gogledd yw prif ffynhonnell y sbesimenau ar gyfer y casgliad hwn.

Mae angen awyr glir ar adar sy'n mudo yn y nos er mwyn canfod eu ffordd. Os bydd yn gymylog neu'n niwlog gallant ddrysu a chânt eu denu at olau goleudy'r ynys.

Maent yn hedfan o gwmpas y golau neu i lawr pelydrau'r golau a chânt eu lladd wrth daro'r tŵr. Mae warden yr ynys yn chwilio o gwmpas gwaelod y tŵr bob bore ac mae'n casglu unrhyw adar marw ac yn eu rhewi cyn eu hanfon i'r Amgueddfa yng Nghaerdydd.

Rydym yn canolbwyntio ar adar o Brydain ond ceir hefyd rai rhywogaethau prin o rannau eraill o'r byd.

Mae'r adar hyn a sbesimenau eraill a gawn gan y cyhoedd yn cael eu harddangos neu eu defnyddio at ddibenion addysgol gan ennyn diddordeb pobl mewn adar a gwneud iddynt edrych yn fwy gofalus ar eu hamgylchoedd. Defnyddir y casgliad i dynnu sylw at fioamrywiaeth a materion amgylcheddol, yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o effeithiau newid hinsawdd a cholli cynefin ar adar sy'n mudo rhwng Prydain ac Affrica.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.