Darlun gan Sisley o arfordir de Cymru.

La falaise a Penarth, le soir, marée basse gan Alfred Sisley
La falaise a Penarth, le soir, marée basse

gan Alfred Sisley

Yr olygfa o'r un man heddiw

Yr olygfa o'r un man heddiw

Arddangosfa gyntaf yr Argraffiadwyr

Ganed Alfred Sisley ym Mharis ym 1839 i rieni o Brydain a daeth yn un o brif aelodau'r cylch o arlunwyr ifanc a oedd yn gwrthwynebu'r gelfyddyd draddodiadol oedd yn cael ei dysgu yn yr Académie Ffrengig. Ym 1874, cynhaliodd y grŵp hwn y sioe sydd wedi cael yr enw o fod yn 'Arddangosfa gyntaf yr Argraffiadwyr'. Roedd gan Sisley luniau mewn tair o'r saith sioe nesaf a drefnwyd gan yr Argraffiadwyr rhwng 1876 a 1886.

Ni chafodd gymaint o lwyddiant â'i gyfeillion Monet, Renoir a Pissarro ac, ym 1882, enciliodd i dref fechan Moret-sur-Loing ger Fontainebleau, lle bu'n gweithio am weddill ei yrfa. Bu farw yno ym 1899.

Lluniau Sisley o dde Cymru

Yn yr haf 1897, daeth Sisley ar ymweliad â de Cymru, gan aros yn 4 Clive Place, Penarth. Ar 5 Awst, priodwyd ef ag Eugenié Lescouezec yn Neuadd y Dref, Caerdydd.

Roedd Sisley wrth ei fodd ym Mhenarth. Ar 16 Gorffennaf ysgrifennodd [cyfieithiad] "Rwy wedi bod yma ers wythnos ... Mae'r wlad yn bert iawn ac mae gweld y llongau mawr yn hwylio yn ôl a blaen i Gaerdydd yn wych ... Wn i ddim am ba hyd yr arhosaf ym Mhenarth. Rwy'n gysurus iawn yma, mewn 'tŷ lodjin' gyda phobl ddymunol iawn. Mae'r hinsawdd yn fwyn iawn ac, yn wir, bu'n rhy dwym dros y dyddiau diwethaf, yn enwedig nawr wrth i mi ysgrifennu hwn. Rwy'n gobeithio gwneud defnydd da o'r hyn a welaf o'm cwmpas a mynd yn ôl i Moret tua mis Hydref".

Tynnodd Sisley rhyw 19 o ddarluniau olew o Benarth a Bae Langland ger Abertawe (lle'r arhosodd o 15 Awst tan nes iddo fynd yn ôl i Moret ar 1 Hydref). Y rhain oedd ei unig forluniau ac maent yn cyfleu ynni a chyffro darganfyddiad newydd. Mae morluniau Penarth yn fwy atmosfferig na lluniau Langland sy'n dal gwres mawr a golau Penrhyn Gŵyr yn effeithiol iawn.

Gwyddom o ble y tynnwyd chwech o luniau Penarth. Mae un yn dangos coeden ar ymyl y clogwyn a llongau a phier Penarth yn y cefndir. Mae dau'n dangos yr olygfa tua'r gogledd i fyny Môr Hafren ac mae tri'n dangos yr olygfa tua'r de yn edrych ar hyd ymyl y clogwyn i gyfeiriad Larnog. Un o'r golygfeydd hyn tua'r de yw La falaise a Penarth.

Mae goleuni'r hwyr yn dod i mewn ar ogwydd llym o'r gorllewin gan daflu cysgod porffor golau o'r clogwyn serth dros y traeth oddi isod. Mae'r môr ar drai ac mae creigiau Trwyn Ranny a Thrwyn Larnog i'w gweld yn glir.

Ar 4 Hydref 1897, dyma a ddywedwyd mewn erthygl ym mhapur Ffrangegr Le Journal [cyfieithiad]: "Daeth y meistr Argraffiadol â chyfres o forluniau penigamp o Benarth a Bae Langland. Ynddynt, mae awyrgylch rhyfedd y dirwedd honno, sy'n ardal ddieithr i arlunwyr, yn cael ei gyfleu â chelfyddyd sydd mor hudolus ag ydyw o bersonol."

Mae gweledigaeth Sisley'n arwydd o newid sylfaenol yn y ffordd o ddehongli tirwedd Cymru ac mae'r ffordd newydd hon yn disodli dull Rhamantaidd Turner a'i olynwyr. Agorodd Sisley a'i gyd-Argraffiadwyr ffordd newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf, a arweiniwyd gan yr arlunwyr o Gymry, Augustus John a James Dickson Innes.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.