Arswyd y Moroedd Silwraidd

Yr ewrypterid o Fforest Clud (x1.5)

Yr ewrypterid o Fforest Clud (x1.5)

anifail cyfan yn yr ailgread

y sbesimen mewn perthynas â'r anifail cyfan yn yr ailgread

Mae'r sbesimen bach o ardal Woolhope

Mae'r sbesimen bach o ardal Woolhope (x3.5). Sylwch fod tarian y pen wedi'i symud i'r chwith.

Mae pobl yn dod â nifer fawr o sbesimenau i'r Adran Ddaeareg bob blwyddyn gan obeithio y gallwn ddweud beth ydynt. Gan amlaf, ffosilau neu fwynau cyffredin yw'r rhain ond, o bryd i'w gilydd, mae rhywun yn dod â rhywbeth anghyffredin. Dyna a ddigwyddodd ym mis Rhagfyr 1989 pan ddaeth Mr Stephen Jenkins o Aberhonddu â ffosil rhyfedd ei olwg y daeth o hyd iddo ar ochr lôn trwy Fforest Clud.

Anifail mawr tebyg i sgorpion

I ddechrau roedd yn edrych fel gên pysgodyn a nifer o ddannedd main o wahanol faint ond, ar ôl ei archwilio'n ofalus, gwelwyd nad dyna ydoedd. Yn y diwedd, llwyddwyd i ganfod beth oedd y ffosil mewn gwirionedd — hanner pinsiwrn anifail y dŵr, tebyg i sgorpion, oedd wedi darfod â bod, o'r enw ewrypterid. Un peth trawiadol am y sbesimen hwn yw ei faint - 64mm (2.5 modfedd) o hyd, sy'n dangos bod yr anifail cyfan tua 70cm (27 modfedd) o hyd. Mae'r creigiau lle canfuwyd y ffosil ym Maesyfed yn perthyn i Gyfres Llwydlo yn y System Silwraidd — tua 420 miliwn oed.

Er bod ewrypteridau yn edrych yn debyg i sgorpionau, nid ydynt yn perthyn yn agos iddynt, er eu bod yn perthyn i'r un grŵp cyffredinol o arthropodau — anifeiliaid di-asgwrn-cefn â choesau cymalog, sy'n cynnwys corynnod, crancod, cimychiaid a phryfetach.

Roedd yr ewrypteridau'n ffynnu o tua 480 miliwn o flynyddoedd yn ôl tan iddynt ddarfod â bod 250,000,000 o flynyddoedd yn ôl. Gwelir y rhan fwyaf o'u ffosilau mewn creigiau a ddyddodwyd mewn dŵr croyw neu ddŵr lled hallt; dim ond ychydig, yn cynnwys sbesimen Fforest Clud, sy'n dod o greigiau morol. Mae'n bosib bod y sbesimen wedi'i olchi allan i'r môr o ddyfroedd basach a oedd i'r dwyrain o Fforest Clud.

Cewri cigysol y môr

Mae'r pinsiwrn yn perthyn i math o ewrypterid o'r enw Pterygotus, a oedd yn gallu nofio'n dda. Wyddon ni ddim yn iawn beth yr oedd yn ei fwyta, ond mae'n debyg bod ei ddeiet yn cynnwys pysgod cyntefig. Mae'r sbesimenau mwyaf y gwyddom amdanynt o rannau eraill o'r byd yn mesur bron 3m (10 troedfedd) o hyd, a'r rhain yw'r arthropodau mwyaf y gwyddom amdanynt. Nid yw'r sbesimen yn Amgueddfa Cymru cweit mor fawr â hynny! Nid oedd y rhan fwyaf o ewrypteridau'n tyfu mor fawr.

Trwy gyd-ddigwyddiad, ychydig ar ôl i'r pinsiwrn ddod i'r Amgueddfa, cawsom ewrypterid arall — y 'corff' y tro hwn. Daeth hwn o greigiau Silwraidd ychydig yn iau (400 miliwn oed) a oedd yn y golwg ger Woolhope (Swydd Henffordd). Fe'i casglwyd gan Dr Paul Selden, o Brifysgol Manceinion gynt, ac roedd yn mesur dim ond 0.9cm (0.3 modfedd) o hyd. Credir mai ffosil creadur ifanc ydyw ac y gallai'r anifail yn ei lawn dwf fod tua 10cm (4 modfedd) o hyd.

Erbyn hyn, mae'r ddau sbesimen yng nghasgliadau'r Amgueddfa, diolch i haelioni'r casglwyr. Dros y blynyddoedd, mae'r cyhoedd a chydweithwyr academaidd wedi cyfoethogi ein casgliadau yn gyson ac mae rhoddion fel hyn yn ffynhonnell bwysig o ddefnyddiau i ni. Wyddoch chi byth beth fydd yn cyrraedd yfory...

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.