Bu perthnasau i'r deinosoriaid yn nofio yn ne Cymru

Mae gan Amgueddfa Cymru sbesimenau da o anifeiliaid y môr o'r cyfnod cynhanesyddol. Roedd y rhain yn perthyn i'r deinosoriaid a buont yn nofio oddi ar arfordir de Cymru. Mae sbesimenau o Dorset yn dangos sut y bu môr rhwng y ddwy ardal slawer dydd.

Ailgread o bysgfadfall yn hela'i brae, tebyg i fôr-lawes

Ailgread o bysgfadfall yn hela'i brae, tebyg i fôr-lawes

Cymru Drofannol

Tua 210,000 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y rhan fechan o gramen y ddaear lle mae Cymru erbyn hyn ymhell i'r de o'i safle presennol. Credir ei bod tua gogledd y trofannau lle roedd y tir yn rhan o archgyfandir mawr o'r enw Pangaea. Roedd ein hinsawdd yn boeth ac yn llaith, ac roedd rhan helaeth o Gymru'n dir uchel llwm wed'i amgylchynu â fflatiau llaid anial. Roedd cyfres o lynnoedd mawr i'r de yn ymestyn ymhell i mewn i Ewrop.

Cymru'n boddi

Wrth i'r cyfandiroedd symud tua'r gogledd, roedd cramen y ddaear yn ymrannu ac, ar sawl achlysur, cododd lefel y môr a boddi'r tir. Wrth i'r moroedd ymledu, daeth y creaduriaid morol sydd erbyn hyn yn ffosilau yn y creigiau. Ymhlith y creaduriaid harddaf a mwyaf trawiadol roedd ymlusgiaid morol a elwid yn ichthyosoriaid, neu bysgfadfallod, sef cefndryd pell y deinosoriaid oedd yn byw ar y tir.

Erbyn 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, tua dechrau'r Cyfnod Jurasig mewn amser daearegol, roedd y môr yn gorchuddio de Cymru, gan ollwng blanced o laid a thywod calch mân. Ymhen amser, cafodd y rhain eu cywasgu'n haenau llorweddol o garreg laid a charreg galch sydd, erbyn hyn, yn ffurfio clogwyni ardal Larnog gan ymestyn tua'r gorllewin o'r Barri i Southerndown.

Ffosilau toreithiog

Nid yw olion ichthyosoriaid yn anghyffredin yn y creigiau hyn, er mai dannedd ac esgyrn yma a thraw a welir gan amlaf. Ar ôl i'r anifeiliaid farw, malwyd y sgerbydau gan y cerhyntau a'r tonnau. Ychydig iawn o sbesimenau mwy cyflawn y daethpwyd o hyd iddynt yn ne Cymru. Ar y llaw arall, mae creigiau o'r un oed yng Ngwlad yr Haf a Dorset wedi bod yn ffynhonnell gyfoethog o sgerbydau ichthyosoriaid cyflawn neu bron yn gyflawn ers amser maith.

Roedd môr y cyfnod Jurasig cynnar yn ymestyn o arfordir de Cymru, ar draws de-orllewin Lloegr a thu hwnt i ganol Ewrop. Yn y dyfroedd dyfnach, ymhellach o'r tir i'r de, roedd nerth y tonnau a'r cerhyntau arfordirol yn wannach. Felly, roedd y sgerbydau'n fwy tebygol o suddo i waelod y môr ac aros yno fwy neu lai'n gyfan. Serch hynny, peth cymharol brin yw dod o hyd i sgerbydau heddiw. Mae Amgueddfa Cymru'n lwcus iawn o gael nifer o sgerbydau ichthyosoriaid sydd bron yn gyflawn. Daethant o Lyme Regis yn Dorset, ac mae rhai o'r goreuon i'w gweld yn yr arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Gan fod môr di-dor rhwng de Cymru a Dorset 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gallwn ddefnyddio'r ffosilau hardd hyn i gyflwyno rhan o hannes ein hardal. Mae ffosilau Dorset yn perthyn i'r un rywogaeth a'r rhai a ganfuwyd yng nghlogwyni Morgannwg, a byddai'r anifeiliaid hyn yn gallu nofio'n rhydd rhwng y ddwy ardal.

Mae'r sbesimenau yn yr arddangosfa yn dangos ffurf lefn, hardd yr ichthyosoriaid. Roedd y siâp yn arbennig o addas ar gyfer nofio'n gyflym. Defnyddient gynffon fawr, fertigol i'w gyrru a phedair padl, fel esgyll, i'w llywio. Credir mai pysgod a môr-lewys oedd eu bwyd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.