Gregynog: Celf a Cherddoriaeth i Gymru

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Gwendoline a Margaret Davies yn benderfynol o helpu pobl oedd wedi dioddef oherwydd y Rhyfel, ac i wneud beth bynnag oedd yn bosibl i wella eu hamodau byw.

Ym 1920 prynodd y ddwy Neuadd Gregynog a ddaeth yn gartref iddynt ym 1924. Roedd Gregynog yn encilfa dawel lle gellid croesawu ymwelwyr, ond eu gobaith oedd ei ddatblygu'n le prysur a phrydferth i'w rannu er budd eraill.

Cefnogodd y chwiorydd nifer o gynlluniau cymdeithasol, economaidd, addysgol a diwylliannol yng Nghymru yn ystod y 1920au a'r 1930au. Eu gobaith oedd y byddai'r cynadleddau a gynhaliwyd yng Ngregynog yn helpu i adeiladu Cymru newydd ar ôl y Rhyfel Mawr.

Ymwelwyr Gregynog

George Bernard Shaw a Thomas Jones yng Ngregynog

George Bernard Shaw a Thomas Jones yng Ngregynog. Casgliad preifat (yr Arglwydd Davies)

Roedd Gregynog yn fan cyfarfod i amrywiaeth eang o sefydliadau. Daeth addysgwyr, gwleidyddion, ac ymgyrchwyr heddwch a chyfiawnder cymdeithasol, oedd yn enwog yn genedlaethol a'n rhyngwladol i'r cynadleddau hyn.

Bu casgliad helaeth a thrawiadol y chwiorydd o weithiau celf yn hongian ar y waliau er mwyn i'r ymwelwyr niferus eu gweld a'u mwynhau. Wrth ysgrifennu llythyr adref ym 1938, dywedodd Mary Hackett, oedd yn ymweld o Awstralia 'A ddwedais i fod yr Ystafell Gerdd yn llawn lluniau amhrisiadwy, gweithiau Turner, Monet, Manet a sawl un arall.'

Yr ymwelydd mwyaf cyson oedd Thomas Jones. Fel Dirprwy Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn adnabod nifer o gymeriadau blaenllaw o fyd gwleidyddiaeth a'r celfyddydau. Roedd y dramodydd George Bernard Shaw a'r Prif Weinidog Stanley Baldwin ymysg y bobl a gafodd wahoddiad i Gregynog ganddo.

Y chwiorydd Davies a cherddoriaeth

Roedd cerddoriaeth yn rhan annatod o fywydau'r chwiorydd. Roedd y ddwy wedi cael addysg dda mewn cerddoriaeth ac roedd Gwendoline yn feiolinydd dawnus.

Roedd darpariaeth gerddorol yn fratiog yng Nghymru, a'r capel oedd unig gysylltiad y mwyafrif o bobl â cherddoriaeth. Er bod adrannau cerddoriaeth mewn tair o'r prifysgolion, roedd yna dueddiad i fod yn ynysig ac roedd safonau cyfansoddi offerynnol yn isel.

Roedd y chwiorydd yn perthyn i grŵp oedd â dymuniad i newid agweddau a mynediad at gerddoriaeth yng Nghymru. Roeddent yn gweithio o fewn grwpiau gweithgar a blaengar, fel Cymdeithas Canu Gwerin Cymru a Chlwb Cerddoriaeth y Brifysgol yn Aberystwyth.

Gŵyl Gregynog

Ystafell Gerdd Gregynog

Ystafell Gerdd Gregynog.Casgliad preifat (yr Arglwydd Davies)

Daeth oes aur gweithgarwch cerddorol Gregynog yn y 1930au, sef cyfnod Gŵyl Gerdd a Barddoniaeth Gregynog. Cynhaliwyd yr Ŵyl bob blwyddyn o 1933 hyd at 1938. Byddai'n para tri neu bedwar diwrnod, gyda chyngherddau yn yr Ystafell Gerdd 200 sedd. Cynhaliwyd casgliadau ar gyfer achosion lleol. Ystyriwyd bod yr elfen farddonol yr un mor bwysig â'r gerddoriaeth.

Yn ystod y 1930au, byddai'r gwyliau'n denu nifer o bwysigion y cyfnod, yn cynnwys y cyfansoddwyr Ralph Vaughan Williams, Edward Elgar a Gustav Holst, yr arweinydd Adrian Boult, y bardd Lascelles Abercrombie, a'r perfformwyr Jelly d'Arányi a'r Rothschild Quartet.

Diwedd cyfnod

Daeth oes aur gweithgarwch cerddorol Gregynog yn y 1930au. Daeth y gwyliau i ben ym 1939 pan drodd y chwiorydd eu sylw at ymdrech y rhyfel. Cafodd marwolaeth Walford Davies ym 1941, a Gwendoline ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym 1951, effaith ddofn ar fywyd cerddorol Gregynog. Er y soniwyd am gynlluniau i droi'r Neuadd yn ganolfan gerddoriaeth i Gymru, ni welwyd y cynlluniau hynny'n dwyn ffrwyth.

Pan benodwyd Ian Parrott yn Athro Cerdd Gregynog ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1954, atgyfododd ysbryd cerddorol y Neuadd trwy adfywio'r Ŵyl ym 1955. Cynhaliwyd gŵyl bob blwyddyn tan 1961 gan gadw'n weddol dynn at naws rhaglenni'r 1930au. Ym 1988, adfywiwyd yr Ŵyl unwaith eto, y tro hwn gan y tenor Anthony Rolfe Johnson. Mae'n parhau heddiw o dan gyfarwyddiaeth Dr Rhian Davies. Dyma dystiolaeth bendant o etifeddiaeth gerddorol y chwiorydd i Gymru.

Nodiadau ar y lluniau

Pierre-Auguste Renoir (1841 - 1919), La Parisienne
Pierre-Auguste Renoir

(1841–1919), La Parisienne, olew ar gynfas, 1874

Yn ôl Eirene White, roedd La Parisienne o waith Renoir yn 'hongian yn y cyntedd, gyferbyn â drws yr Ystafell Gerdd'. Mae'r Arglwydd Davies cyfredol yn cofio ymweld tua 1960 a gweld Moret o waith Sisley (yr oedd Margaret wedi ei brynu'r flwyddyn honno) ac Yn Bougival o waith Berthe Morisot yn yr ystafell groeso, gyda Madame Zborowska o waith Derain uwchben y lle tân.

Edouard Manet (1832-1883), Y Gwningen
Édouard Manet

(1832–1883), Y Gwningen, olew ar gynfas, 1881

Y bwriad gwreiddiol oedd cynnwys hwn fel rhan o gylch addurnol i'w weld o bell. Ar ôl marwolaeth Manet fe'i gwerthwyd i'r masnachwr Durand-Ruel. Prynodd Gwendoline y llun o'r Bernheim-Jeune am £1,000 ym 1917. Fe'i rhoddodd i hongian yn Ystafell Gerdd Gregynog wrth ymyl Effaith Eira yn Petit-Montrouge.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMWA 2466

Claude Monet (1840-1926), Lilïau Dŵr,
Claude Monet

(1840–1926), Lilïau Dŵr, olew ar gynfas, 1905

Cyflogodd Monet ddyn i ofalu am y llynnoedd yn Giverny lle'r oedd lilïau dŵr yn tyfu. Byddai'n gweithio bob dydd yn clirio'r llyn fel y gallai Monet beintio'r lilïau'n adlewyrchu yn y dŵr. Prynodd Gwendoline y gwaith hwn yng Ngorffennaf 1913. Roedd y ddwy chwaer yn hoffi garddio, a chrwyd llyn lilïau yng ngerddi Gregynog lle byddai Margaret yn mwynhau mynd i beintio.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2484

Vincent van Gogh (1853-1890), Glaw — Auvers
Vincent van Gogh

(1853–1890), Glaw – Auvers, olew ar gynfas, tua 1890

Ysgrifennodd van Gogh at ei frawd am 'y brain yn cylchu uwchben y caeau' oedd yn peri iddo deimlo'n drist ac yn unig. Printiau Japaneaidd ysbrydolodd y llinellau graffig trwm sy'n darlunio'r glaw. Peintiodd van Gogh y darn yma pan oedd yn aros yn Auvers ac yn cael triniaeth am iselder. Fe'i prynwyd gan Gwendoline ym 1920 am £2,020.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A2463

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.