Yr Amgueddfa'n cofnodi'r daeargryn mwyaf yn y DU ers 25 mlynedd

Sgan o seismograff Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sgan o seismograff Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cofnodwyd y siocdonnau gan seismomedr ger Casnewydd cyn eu trosglwyddo i seismograff yr Amgueddfa.

Mae seismograff yr Amgueddfa wedi cofnodi'r digwyddiad seismig mwyaf ar dir ers 1990.

Cofnodwyd y digwyddiad gan seismograff yr Amgueddfa am 00:57.14 GMT ar 27 Chwefror. Cadarnhawyd mai dyma'r daeargryn maint 5.2 a gofnodwyd gan Arolwg Daearegol Prydain. Canfuwyd yr uwchganolbwynt i'r gogledd o Market Rasen, Sir Lincoln am 00.56.47 GMT.

Cymerodd tonnau'r daeargryn gwta 27 eiliad i deithio'r 158 milltir rhwng Market Rasen a'r seismomedr, sydd ger Casnewydd. Mae hyn yn golygu bod y tonnau wedi teithio ar gyflymder o 5.85 milltir yr eiliad.

Dyma'r digwyddiad mwyaf ar y tir yn y DU ers y daeargryn maint 5.1 yn Bishops Castle ar ffin Cymru ar 2 Ebrill 1990.

Teimlwyd effeithiau digwyddiad Market Rasen cyn belled â Newcastle, Sir Efrog, Llundain, Cymbria, Canolbarth Lloegr, Norfolk a rhannau o Gymru. Cafwyd adroddiadau o ddifrod i doeon, waliau a simneiau o amgylch yr uwchganolbwynt, ac anafwyd dyn yn Wombwell ger Barnsley, de Sir Efrog, pan gwympodd gwaith maen ar ei ben.

Ôl-gryniad

Yn aml bydd daeargrynfeydd llai, neu ôl-gryniadau, yn dilyn daeargrynfeydd o'r maint hyn. Cofnodwyd daeargryn maint 1.8 yn yr ardal ychydig oriau'n unig ar ôl y prif ddigwyddiad.

Bydd angen ymchwiliad manwl i ganfod y strwythur daearegol oedd yn gyfrifol am y prif ddaeargryn. Mae'r Arolwg Daearegol eisoes wedi dangos i'r daeargryn ddigwydd tua 18km o dan y ddaear. Mae'n debygol felly ei fod wedi digwydd ar hyd ffawtlin mewn creigiau Gyn-Gambriaidd, fel y rhai sy'n gorwedd o dan y rhan fwyaf o Gymru.

Mae'n annhebygol fod yr union ffawtlin a achosodd y daeargryn yn agored ar yr arwyneb gan fod creigiau Paleosöig a Mesosöig iau (Carbonifferaidd, Triasig a Jwrasig, er enghraifft) yn gorchuddio'r creigiau Gyn-Gambriaidd yn ardal Market Rasen.

Y daeargryn maint 5.4 ym Mhen Llyn ar 19 Gorffennaf 1984 yw'r un mwyaf a gofnodwyd erioed ar y tir yn y DU.

Gwybodaeth o:

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.