Trillabedogion trofannol o'r Ynys Las rewedig

Lucy McCobb

Casglu ffosiliau yn yr eira. 1950.

Ffoto o'r Ynys Las o'r awyr: Casglwyd y ffosiliau o'r ardal a liwiwyd yn goch.

Ffosil o lygad mawr carolinit sef trillabedog a fu'n nofio drwy'r môr agored yn chwilio am fwyd.

Mae gan gynffon y trillabedog asidifforws asgwrn cefn trawiadol.

Mae casgliad eang yr Amgueddfa o ffosiliau'n cynnwys ffosiliau trillabedog o oes Ordofigaidd (470-490 miliwn o flynyddoedd yn ôl) o'r Ynys Las. Er bod y cyfandir erbyn hyn yn oer a rhewllyd nid felly y bu gynt.

Fforwyr Prydain yn y gogledd rhewllyd

Mae'r Ynys Las yn lle anodd iawn o ran astudio a chasglu ffosiliau. Mae'r rhan fwyaf ohoni'n aros dan rew drwy gydol y flwyddyn a dim ond ym misoedd yr haf ar yr arfordir mae modd mynd at gerrig brig yn hawdd.

Dechreuodd fforwyr deithio i archwilio daeareg yr Ynys Las yn hwyr yn y 19eg ganrif ac maent yn parhau hyd heddiw. Trefnwyd y teithiau hyn gan Arolwg Daearegol yr Ynys Las sydd wedi'i leoli yng Nghopenhagen.

Yn y 1990au cyflwynwyd i'r Amgueddfa gasgliad o drillabedogion o'r oes Gambriaidd ac Ordofigaidd o ganol dwyreiniol yr Ynys Las o deithiau 1950-4 gan y Dr John Cowie, gynt o Brifysgol Bryste a chydweithiwr, y Dr Peter Adams.

Yr Ynys Las yn crwydro'r byd

Heddiw rydym yn gyfarwydd â'r Ynys Las fel lle oer a rhewllyd ond nid felly y bu gynt. Mae'r platiau tectonig sy'n ffurfio lithosffer y ddaear wedi symud drwy gydol hanes. Mae daearegwyr wedi dangos bod yr Ynys Las yn ystod y cyfnod Ordofigaidd yn agos at y cyhydedd. Gyda gogledd America a Sbitsbergen roedd yn ffurfio cyfandir hynafol o'r enw Lawrensia.

Ar yr un adeg roedd Cymru yn bell i ffwrdd yn y lledredau deheuol, uchel, claear yn agos i gyfandir anferth Gondwana. Mae ffosiliau'r planhigion o'r moroedd bas Ordofigaidd o gwmpas Lawrensia a Gondwana yn wahanol iawn i'w gilydd ac nid oes yr un rhywogaeth o drillabedog yn gyffredin i'r Ynys Las a Chymru.

Ynys Las yn ystod y cyfnod Ordofigaidd yn agos at y cyhydedd

Trillabedogion trofannol yn newydd i wyddoniaeth

Mae trillabedogion Ordofigaidd yr Ynys Las wedi'u cadw mewn carreg galch a ymgasglodd ar lawr y moroedd twym, bas ac isdrofannol. Mae tua deugain o rywogaethau gwahanol wedi'u hadnabod yn ein casgliad o'r Ynys Las ac mae ambell un yn newydd i wyddoniaeth. Mae ymchwil wedi cadarnhau eu bod yn gyffredin i drillabedogion rhannau eraill o Lawrensia neu'n perthyn iddynt yn agos.

Mae nodweddion gwahanol rywogaethau trillabedog yn awgrymu sut roeddynt yn byw. Roedd y rhan fwyaf mwy na thebyg yn ddyfnderol (yn byw ar lawr y môr) ac yn bwyta sborion neu waddodion. Mae gan eraill nodweddion megis llygaid mawr iawn sy'n dangos eu bod yn gefnforol (nofwyr). Roedd y ffurfiau hyn yn eang eu dosbarthiad yn y cefnforoedd Ordofigaidd ac fe'u ceid mewn ardaloedd trofannol eraill ar wahân i Lawrensia.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.