Pen Penywyrlod: wyneb dyn 6,000 o flynyddoedd oed

Steve Burrow

Penglog prin o Oes y Cerrig

Mae penglog prin o Oes y Cerrig, a ddarganfuwyd mewn tomen gladdu ym Mhowys, wedi rhoi cyfle i wyddonwyr ail-greu wyneb dyn 6,000 o flynyddoedd oed, gan ddatgelu nad dyn ogof afrosgo mohono ond unigolyn digon tebyg o ran golwg i'r dyn modern.

Ym Mehefin 1972 ym Mhenywyrlod, ger Talgarth ym Mhowys, dechreuodd ffermwr gloddio blociau cerrig rhydd o dwmpath gwair yn un o'i gaeau. Roedd am ddefnyddio'r cerrig i greu seiliau caled ar gyfer buarth. Ymhen ychydig, daeth ar draws slabiau cerrig mwy yn leinio twll a oedd yn arwain yn ddyfnach i'r twmpath. Yn y siambr hon roedd pentyrrau o esgyrn dynol.

Tomen gladdu cynhanesyddol

Cysylltodd y ffermwr â Hubert Savory, archeolegydd o'r amgueddfa ac arbenigwr ar domenni claddu cynhanesyddol. Daeth Savory i weld y darganfyddiad newydd cyn gynted ag y gallai. Mae'n rhaid bod y darganfyddiad wedi ei synnu: roedd archeolegwyr wedi bod yn mapio tomenni claddu yn y rhan hon o Gymru am genedlaethau, ond dyma lle'r oedd yr enghraifft fwyaf, a'r gorau o ran cyflwr, ym Mhowys - roeddent wedi ei methu'n gyfan gwbl!

Dangosodd gwaith cloddio bod y domen yn fath o feddrod a ddefnyddiwyd tua 3,600 CC. Roedd yn cynnwys tomen garreg betryalog a oedd yn lletach ar yr ochr de-ddwyreiniol. Yma, roedd muriau'r domen yn crymu tuag i mewn i greu blaengwrt. Roedd nifer o siambrau, yr un fath â'r un a ddarganfuwyd gan y ffermwr, ar hyd ochrau'r domen.

Penglog gyflawn

Erbyn i'r gwaith cloddio ddod i ben, roedd gweddillion o leiaf chwech o bobl wedi cael eu darganfod yn y siambrau. Ond y prif ddarganfyddiad oedd penglog gyflawn - darganfyddiad anghyffredin iawn - a oedd yn perthyn i ddyn a fu farw yng nghanol ei ugeiniau.

Nid yw'r benglog yn dangos beth oedd achos ei farwolaeth, ond mae'n dweud ychydig am y dyn ei hun. Roedd ei ddannedd mewn cyflwr da, ond roedd esgyrn ei drwyn ychydig yn gam ac roedd yn dioddef o anhwylder ar groen ei ben. Roedd esgyrn ei benglog wedi methu ag asio yn gyfan gwbl - canlyniad cyflwr etifeddol na fyddai wedi peri unrhyw anghyfleustra iddo, ond a fyddai wedi golygu bod ganddo dalcen lletach nag oedd yn arferol a gên banylog.

Ail-greu'r wyneb

Fel penglog, mae stori'r dyn yn gorffen yma, ond yn 2005 comisiynwyd Caroline Wilkinson o Brifysgol Dundee i gynhyrchu ailgread fforensig o'i wyneb. Mae gwaith Caroline yn cynnwys cymryd cast plastr o'r benglog a gosod pinnau arno i ddangos dyfnder tebygol y cnawd mewn nifer o leoliadau allweddol. Mae'r dyfnderoedd hyn yn seiliedig ar wynebau pobl modern o hil debyg. Yna, mae'n defnyddio clai i adeiladu'r haenau o gyhyr, cyn ychwanegu'r croen a'r gwallt. Wrth gwrs, mae steil y gwallt a blew'r wyneb yn oddrychol.

Mae'r ffigwr a ddatgelwyd yn rhyfeddol. Nid dyn ogof afrosgo mohono; mae'r dyn 6,000 o flynyddoedd oed yn edrych mor fodern ag unrhyw un sy'n cerdded ar ein strydoedd ni heddiw. Er bod gan y bobl a adeiladodd y domen gladdu hon ac a gladdodd eu meirw mewn pentwr o esgyrn draddodiadau diwylliannol sy'n edrych yn rhyfedd i ni, mae ei ddelwedd yn dangos nad pobl gyntefig oedden nhw. Efallai ein bod yn wahanol, ond nid ydym yn well na nhw.

Erthygl gan:

Dr Steve Burrow, Cynhanesydd Cynnar, Adran Archaeoleg a Niwmismateg

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.