Natur amgueddfeydd: planhigion fasgwlar yn Amgueddfa Cymru

Groenlandia densa

Gwelwyd rhai rhywogaethau o ddiddordeb cadwraeth. Mae Groenlandia densa (Dyfrllys cyferbynddail) yn blanhigyn dyfrol sy'n diflannu, a'r llynnoedd addurnol yn Sain Ffagan, lle mae'n ffynnu, yw un o'r ychydig o safleoedd prin yng Nghymru lle mae'n tyfu o hyd. Nodir ei fod dan fygythiad ar y Rhestr Goch yng Nghymru (Dines 2008).

Rorippa islandica

Gwelwyd ychydig o Rorippa islandica (Berwr melyn gogleddol) ar dir gwastraff llaith yn y Ganolfan Gasgliadau yn Nantgarw. Mae'r rhywogaeth hon wedi bod yn lledaenu'n gyflym yn y De yn ystod y degawd diwethaf.

Catapodium rigidum subsp. majus

MaeCatapodium rigidum subsp. majus (Gwenithwellt caled) yn laswellt prin sydd wedi parhau i dyfu, er gwaethaf triniaeth chwynladdwyr, ar gobls Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ers o leiaf 1997.

Astudiaethau o rywogaethau o blanhigion fasgwlar yn wyth lleoliad Amgueddfa Cymru yn dangos pwysigrwydd diogelu ecosystemau bregus.

Mae deddfwriaeth ddiweddar, sef y "Ddyletswydd Bioamrywiaeth" (Adran 40 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006), yn ceisio codi proffil ac amlygrwydd bioamrywiaeth, gan nodi bod rhaid i bob awdurdod cyhoeddus, wrth gyflawni ei swyddogaethau, roi ystyriaeth i'r nod o warchod bioamrywiaeth, cyn belled ag y bo hynny'n gyson â'r gwaith o gyflawni'r swyddogaethau hynny yn briodol.

I ymateb i hyn, rydym yn cynnal arolygon bioamrywiaeth yn wyth lleoliad Amgueddfa Cymru. Y nod yw pennu pa rywogaethau sy'n bresennol fel y gellir cynnal a gwella bioamrywiaeth y safleoedd. Yn yr erthygl hon, rydym yn rhoi sylw i'r planhigion fasgwlar — blodau, rhedyn, coed ac ati.

Y dull

Cynhaliwyd yr arolygon yn 2008 a 2009. Cafodd pob rhywogaeth o blanhigion fasgwlar, ac eithrio rhywogaethau a gafodd eu plannu neu eu meithrin yn fwriadol, eu cofnodi gyda nodiadau ar eu mynychder a'u cynefinoedd.

Canlyniadau

Cofnodwyd 456 o rywogaethau i gyd; roedd 364 (80%) naill ai'n rhywogaethau brodorol neu'n rhywogaethau estron sydd wedi bod yma ers cyn y flwyddyn 1500, ac roedd 92 yn rhywogaethau estron sydd wedi'u cyflwyno ers 1500. Mae tua 1,400 o rywogaethau o blanhigion yng Nghymru sy'n frodorol neu sydd wedi bod yma ers 1500, ac eithrio rhywogaethau allweddol fel Hieracium, Taraxacum and Rubus (T. Dines (2008) A vascular plant Red Data List for Wales. Plantlife International, Llundain). Mae gan wyth lleoliad Amgueddfa Cymru 26% o fflora Cymru.

Roedd nifer y rhywogaethau ym mhob safle'n amrywio, yn rhannol oherwydd maint y safle a'r cynefinoedd (Tabl 1). Y safleoedd mwyaf cyfoethog oedd Sain Ffagan, sy'n cynnwys gerddi a choetir eang, a Big Pit, sy'n cynnwys tipiau glo a gweundir, adeiladau a glaswelltir. Y safleoedd â'r lleiaf o amrywiaeth oedd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, lle mae un ardd i bob pwrpas, ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, sy'n cynnwys glaswelltiroedd trefol yn bennaf.

Roedd niferoedd y rhywogaethau estron yn amrywio hefyd, gyda'r gyfran uchaf yn Sain Ffagan, lle'r oedd llawer o rywogaethau estron wedi cynefino o erddi, ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol dinas Caerdydd. Roedd gan Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis lawer llai o rywogaethau estron. Yr unig blâu estron difrifol oedd Jac y Neidiwr (Impatiens glandulifera) yn Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre a Sain Ffagan, a Chlymog Japan (Fallopia japonica) yn Sain Ffagan.

Mae 200 (45%) o'r rhywogaethau'n bresennol mewn un o'r safleoedd yn unig (Ffigur 1), ac mae diogelu'r rhain yn hollbwysig er mwyn cynnal bioamrywiaeth gyffredinol Amgueddfa Cymru. Y rheswm pennaf dros y nifer uchel o rywogaethau unigryw yn Big Pit yw presenoldeb gweundir a thipiau glo sydd â gwahanol fflora i'r safleoedd eraill, sydd ar yr iseldir yn bennaf. Roedd 16 o rywogaethau i'w gweld ym mhob un o'r wyth safle.

Roedd planhigion eraill o ddiddordeb yn cynnwys Cwcwll y mynach (Aconitum napellus), Pig-y-crëyr arfor (Erodium maritimum), Llysiau'r-bystwn llyfn (Erophila glabrescens), Gorfanhadlen eiddew (Orobanche hederae) a'r Llawredynen Gymreig (Polypodium cambricum). Ni welwyd Dyfrllys blewynnaidd (Potamogeton trichoides), a gofnodwyd mewn sawl un o lynnoedd Sain Ffagan ym 1992. Heblaw'r rhain, mae'r rhan fwyaf o'r planhigion a welwyd yn gymharol gyffredin ac i'w gweld yn eang yng Nghymru.

Cawsom ein synnu gan nifer y rhywogaethau o blanhigion a welwyd, hyd yn oed os oeddynt yn rhywogaethau cymharol gyffredin yn bennaf. Mae'r amrywiaeth yn Big Pit, Sain Ffagan ac Amgueddfa Wlân Cymru yn golygu y gellir defnyddio'r safleoedd hynny ar gyfer addysg. Bellach, gellir monitro a gofalu am y rhywogaethau mwyaf diddorol.

Ffigur 1. Mynychder nifer y lleoliadau lle y cofnodwyd pob rhywogaeth.

Ffigur 1. Mynychder nifer y lleoliadau lle y cofnodwyd pob rhywogaeth.

Crynodeb o'r holl leoliadau:

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.