Ffosil Ymlusgiad o Dde Cymru

Cindy Howells

Gweddillion yr ichthyosor ar ôl eu paratoi i'w harddangos

Gweddillion yr ichthyosor ar ôl eu paratoi i'w harddangos

Sbesimen gyda'r labeli yn dangos enwau'r esgyrn

Sbesimen gyda'r labeli yn dangos enwau'r esgyrn

Yn 2009, cafodd Adran Ddaeareg Amgueddfa Cymru sgerbwd ichthyosor newydd o Gymru, a ganfuwyd wedi'i gadw yng nghreigiau arfordir de Cymru.

Ddau gan miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn y cyfnod Jwrasig cynnar, roedd de ddwyrain Cymru wedi'i orchuddio â môr bas, cynnes, yn llawn bywyd. Un o'r prif ysglyfaethwyr yn y dyfroedd hyn oedd yr ichthyosor, ymlusgiad morol diflanedig, a oedd yn edrych fel dolffin. Gallai'r anifeiliaid hyn gyrraedd dros 15m o hyd, ac roeddent yn ymosod ar bysgod bychain ac anifeiliaid morol eraill megis amonitau a belemnitau.

Darganfuwyd y ffosil nifer o flynyddoedd yn ôl, yn y creigiau ym Mhenarth, ger Caerdydd a chafodd Amgueddfa Cymru ef i'w arddangos yn gyhoeddus. I baratoi'r sbesimen ar gyfer ei arddangos, roedd angen oriau o waith manwl, gofalus i dynnu'r graig a oedd yn gorchuddio'r esgyrn ymlusgiad.

Ffosiliau prin

Mae esgyrn a dannedd unigol ichthyosoriaid yn ffosilau cymharol gyffredin yn ne Cymru, Dorset, a Gwlad yr Haf, yn ogystal â rhannau o Ganolbarth Lloegr a Swydd Efrog, ond mae sgerbydau llawn neu bron yn llawn yn fwy prin. Mae'r sbesimen a ddarganfuwyd ym Mhenarth yn cynnwys rhan isaf y pen ac un o'i aelodau sy'n debyg i rwyf, yn ogystal â darn o'r ysgwydd a nifer o asennau.

Ar ôl iddo farw, claddwyd yr anifail yn y gwaddodion ar wely'r môr, gan ei achub rhag cael ei ysglyfaethu gan anifeiliaid eraill.

Bydd y sgerbwd hwn o gymorth i'n dealltwriaeth o fywyd Jwrasig yng Nghymru. I ddysgu mwy am ichthyosoriaid a bywyd yn y cyfnod Jwrasig, ewch i arddangosfa Esblygiad Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.