A oes heddwch? Ailgydio wedi rhyfel Napoleon

O chwyldro i bersoniaid llengar

A oes heddwch? Nag oedd, yn ystod y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon [1803-1815] pan darfwyd ar batrwm Eisteddfodau’r Gwyneddigion. Bu’r awdurdodau yn amau rhai o Gymry Llundain oherwydd eu radicaliaeth. Roedd gan nifer o Gymry amlwg eu dydd oedd â chysylltiadau â’r Gwyneddigion – fel y Dr Richard Price a John Jones (Jac Glan Gors) – syniadau cryf iawn o blaid y Chwyldro yn Ffrainc. Yn wir, roedd yr awdurdodau yn Llundain wedi cynnal cyrch ar y Caradogion, chwaer gymdeithas i’r Gwyneddigion. Pan gafodd Gorsedd Beirdd Ynys Prydein ei chreu ym 1792 gan Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) roedd cryn amheuaeth felly ynglŷn â’i chysylltiadau bradwrus.

Pan ddaeth y rhyfel i ben ailgydiwyd yn y diddordebau Eisteddfodol, yn arbennig felly gan gwlwm o glerigwyr dan arweiniad Ifor Ceri (Y Parchedig John Jenkins, 1770-1829). Roedd yn un o’r ‘hen bersoniaid llengar,’ fel y gelwid y clerigwyr Anglicanaidd hynny oedd yn ymhyfrydu yn iaith a diwylliant Cymru. Dyma pryd y dechreuwyd meddwl o ddifrif am ailgydio yn y mudiad Eisteddfodol a chreu Eisteddfodau go iawn. Cynhaliwyd yr Eisteddfod daleithiol gyntaf ym 1819 yng Nghaerfyrddin.

Medal ar gyfer Eisteddfod y Bala, 1789

Medal Cymdeithas y Gwyneddigion ar gyfer Eisteddfod y Bala, 1789. Dylunydd y fedal oedd Augustus Duprê, Ysgythrwr Cyffredinol Arian Ffrainc i'r Cynulliad Cenedlaethol ym Mharis. Ym mlwyddyn y Chwyldro Ffrengig, roedd hwn yn gomisiwn nodedig.

Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819

Cleddyf Iolo Morganwg a ddefnyddiwyd yn seremoni 1819.

Iolo a’i rubannau a’i gleddyf

Roedd yr Eisteddfod yng Nghaerfyrddin ym 1819 yn hynod am mai hi oedd y gyntaf o ddeg o Eisteddfodau taleithiol a weddnewidiodd holl hanes y mudiad. Un o’r rhesymau pennaf dros hyn oedd yr Orsedd. Er iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf ar 21 Mehefin 1792 ar Primrose Hill yn Llundain doedd dim cysylltiad rhyngddi a’r Eisteddfod nes i Iolo Morganwg weld ei gyfle yng Nghaerfyrddin ym 1819.

Yn saithdeg oed, teithiodd bob cam o Ferthyr lle'r oedd yn aros ar y pryd. Wedi cyrraedd Caerfyrddin lluniodd gylch Gorsedd ar lawnt Gwesty’r Ivy Bush gyda mân gerrig o’i boced a dechrau urddo beirdd a derwyddon, gan roi rhubanau gwyn, glas a gwyrdd iddynt yn ôl eu gradd. Yn ystod seremoni’r cadeirio cyflwynwyd defod newydd wrth i’r beirdd sefyll o boptu’r gadair yn gweinio ac yn dadweinio cleddyf uwch ben y bardd buddugol. Mae’r cleddyf a ddefnyddiwyd gan Iolo yn ystod seremonïau’r flwyddyn honno i’w weld yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru o hyd.

Awdl i arwr Waterloo

Roedd Gwallter Mechain (un arall o’r ‘hen bersoniaid llengar’) yn dal i fod wrthi yn cystadlu ac yn ennill. Yn Eisteddfod Caerfyrddin enillodd y gadair am ei awdl farwnad i arwr mawr Caerfyrddin a maes Waterloo, Syr Tomos Picton. Gwobrwywyd y bardd â medal arian gydag ysgythriad o’r union gadair arni, a wnaed gan Hugh Hughes. Roedd yr arlunydd hwn newydd ddychwelyd i Gymru o Lundain, ac yr oedd ganddo gysylltiadau gyda nifer o fewn y mudiad eisteddfodol. Mae medalau fel y rhain yn siarad cyfrolau am y math o urddas roedd y Cymry yn ei chwennych i’w diwylliant o fewn y cyd-destun eisteddfodol.

Medal ar gyfer yr awdl orau, Caerfyrddin, 1819 (tu blaen)

Y 'Cadair Arian' a enillwyd gan Wallter Mechain yn eisteddfod Caerfyrddin, 1819 (tu blaen)

Cyngerdd er budd '<em>decayed harpists</em>', Caerfyrddin 1819

Cyngerdd er budd 'decayed harpists', Caerfyrddin 1819

Stumog a steil

Gydag amser fe ddaeth yr eisteddfodau taleithiol yn gyfarfodydd rhyfeddol o ffasiynol, lle gwelwyd dau ddiwylliant, y Gymraeg a’r Seisnig, yn dod benben â’i gilydd. Cafodd yr hen feirdd, a oedd yn ystyried eu hunain yn geidwaid yr hen draddodiad eisteddfodol, eu gyrru i'r cysgodion. Yn wir, galwodd Ifor Ceri’r eisteddfodau hyn yn 'Anglo-Italian farce', oherwydd yr artistes o Lundain a wahoddwyd i berfformio yno yn Saesneg.

Gwelwyd her y diwylliant Seisnig, sef diwylliant y cyngerdd, i’r diwylliant Cymraeg traddodiadol ar waith yng Nghaerfyrddin ym 1819, pan ddaeth y Parchedig John Bowen â chôr, rhan o’r Bath Harmonic Society, i’r Eisteddfod. Fe wnaeth y côr gynnal dau gyngerdd, y naill er budd gweddwon a phlant i offeiriaid a’r llall er budd “decayed harpists,” neu hen delynorion oedd wedi mynd yn rhy fusgrell i'w cynnal eu hunain. Tyrrodd parchusion tref Caerfyrddin a’r cylch i’r cyngherddau ffasiynol hyn. O’r foment honno dyma ddechrau’r frwydr yn yr Eisteddfod rhwng y ddau ddiwylliant.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.