Caerdydd, 1678

Dyma un o’r delweddau cynharaf o Gymru i gael ei darlunio ‘yn y fan a’r lle’. Cafodd ei braslunio gan Francis Place ym 1678 fel dwy olygfa wahanol, ac mae Amgueddfa Cymru wedi sganio’r ddau fraslun yn ddigidol a’u glynu at ei gilydd fel y gallwn weld am y tro cyntaf yr olygfa unigryw hon o Caerdydd fel ag yr oedd ym 1678.

Disgrifiadau lleoliadau:

Map John Speed 1610. Mae map Speed o Gaerdydd yn dangos sawl agwedd o ddatblygiad y ddinas, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r nodweddion a ddisgrifir yn yr erthygl yma.

Map John Speed 1610. Mae map Speed o Gaerdydd yn dangos sawl agwedd o ddatblygiad y ddinas, gan gynnwys y rhan fwyaf o'r nodweddion a ddisgrifir yn yr erthygl yma.

  1. Castell Caerdydd

    Tua dechrau'r 15fed ganrif, cafodd y castell, y dref a'r maestrefi eu dinistrio gan fyddin Owain Glyndŵr. Roedd y castell yn adfail nes iddo ddod i feddiant Richard Beauchamp, Iarll Warwick, ym 1423. Adnewyddodd Beauchamp yr amddiffynfeydd ac adeiladau'r castell, ac adeiladu'r ystafelloedd gorllewinol a'r tŵr wythochrog, sef tŵr Beauchamp.

  2. Eglwys Sant Ioan

    Mae Eglwys Sant Ioan yn sefyll yng nghanol Caerdydd. Daw gwreiddiau'r eglwys o gyfnod cyn y 13eg ganrif. Mae'r gwaith maen cynharaf sy'n dal i sefyll yn dyddio o'r 13eg ganrif, ac ychwanegwyd y tŵr tua'r 1470au. Cafodd rhan helaeth o'r eglwys y gwelwn ni heddiw ei ailadeiladu yn ystod y 18fed ganrif.

  3. Mur y castell Caerdydd

    Castell pren oedd ar y safle tan y 12fed ganrif pan adeiladodd Robert Consol, Dug Caerloyw, y castell carreg. Robert adeiladodd waliau gorllewinol a deheuol y Castell hefyd, gan adeiladu ar ben olion muriau'r gaer Rufeinig.

  4. Tŵr Beauchamp

    Adeiladodd y tŵr yn y 15fed ganrif i amddiffyn porth y gorllewin. Roedd y tyllau ar ben y tŵr yn gadael i'r milwyr ollwng cerrig neu dân ar ben unrhyw ymosodwyr. Ychwanegwyd y meindwr anghyffredin yn y 19eg ganrif.

  5. Yr cei

    Bu'r afon Taf yn ddylanwad mawr ar siâp Caerdydd ganoloesol. Tan y 1840au, roedd yr afon yn ystumio'n araf tua'r de, o gyfeiriad muriau'r castell. Erbyn 1610, roedd yr afon wedi cyrraedd Hummanbye [Womanby] Street.

  6. Caerdydd ganoloesol

    Roedd y dref ganoloesol yn ymledu allan o Borth Ddeheuol y castell ar hyd y Stryd Fawr a Heol Eglwys Fair. Mae'n ddiddorol nodi bod y Stryd Fawr yn cyd-redeg â'r porth deheuol Rhufeinig yn hytrach na'r un canoloesol, sy'n awgrymu ei fod yn dyddio o gyfnod cynharach.

    Mae'n debyg i'r dref ganoloesol ddatblygu mewn dwy ran. Roedd y rhan gyntaf mewn llecyn cymharol fach rhwng Working Street a Womanby (Hummanbye) Street a daw'r ddau enw o'r hen Norseg. Credir bod 'Hummanbye' yn dod o'r hen air Norseg 'Hundemanby' sy'n golygu 'ardal y bobl estron. Yn ystod ail ran ei datblygiad ehangodd Caerdydd tua'r de eto. Wedyn cafodd ei chau i mewn a'i hamddiffyn gan lan a ffos, wedyn porth garreg yn y dwyrain. Afon Taf oedd yn amddiffyn y dref o'r gorllewin.

  7. Eglwys Santes Fair

    Ar ben deheuol y dref ganoloesol roedd eglwys y Santes Fair. Erbyn 1610, roedd roedd yr afon yn ystumio'n araf ac roedd yn dechrau tarfu ar eglwys y Santes Fair. Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd yr eglwys wedi cael ei dinistrio'n llwyr, a heddiw dim ond enw'r eglwys sydd ar ôl fel enw stryd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.