O dan yr paent yn yr ail ganrif ar pymtheg
O dan yr haenau o baent: yr ail ganrif ar bymtheg
Mae'r cynfas hwn yn dangos y deunyddiau a'r technegau cyffredin a ddatblygodd artistiaid yn yr Eidal yn ystod y Dadeni. Mae rhai ohonynt yn dal i gael eu defnyddio heddiw.
Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy
1. Cynfas estynedig
Dyma gynfas garw o liain. Caiff ei ymestyn yn dynn dros ffrâm bren a'i gadw yn ei le gyda hoelion metel. Drwy ddefnyddio cynfas, gallai arlunwyr greu peintiadau mwy. Mae'n rhatach, yn ysgafnach ac yn haws ei symud na phanel pren.
2. Seis glud wedi'i baratoi
Caiff haen denau o seis glud wedi'i wneud o groen anifeiliaid a d?r ei beintio ar y wyneb. Mae'n atal y cynfas rhag amsugno olew, a fyddai’n gwneud i'r paent preimio sychu a throi'n fregus.
3. Paent preimio olew a thanbeintio
Gwnaed y paent preimio tenau a hyblyg hwn o bigment coch wedi'i gymysgu ag olew. Mae'r paent preimio'n atal y cynfas rhag amsugno'r paent. Yma, mae'r arlunydd wedi tynnu braslun o'r dyluniad ar ben y paent preimio a thanbeintio rhai rhannau, fel yr awyr.
4. Haenau o baent olew
Gwnaed y darlun hwn drwy ddefnyddio paent olew. Fe welwch fod hyn yn caniatáu i arlunwyr ddefnyddio strociau brwsh mwy a chyfuno lliwiau. Mae'r goleubwyntio yn drwchus a di-draidd. Edrychwch sut mae'r paent preimio'n effeithio ar naws y peintiad, yn arbennig yn y cysgodion.
5. Peintio â farnais
Gadewir i'r paent olew sychu am o leiaf blwyddyn cyn brwsio haen denau o farnais clir arno. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, dechreuodd arlunwyr wneud farnais o resin coed wedi toddi mewn tyrpant. Mae'n amddiffyn arwynebedd y paent ac yn gwneud y lliwiau'n haws eu gweld.