Tafodiaith Caernarfon

Nodweddion cyffredinol

Enghraifft o dafodiaith drefol arbennig yw hon. Daeth yn gyfarwydd i'r gweddill o'r wlad drwy gyfrwng adroddiadau'r Co Bach.

Er na ddigwyddant yn y darn hwn, geiriau a ddyfynnir yn aml pan grybwyllir y dafodiaith hon yw co 'dyn', niwc 'ceiniog', mag 'dimai', hog 'swllt', giaman 'cath', a strew 'aderyn y to'.

Wrth wrando ar y darn hwn gan Gareth Wyn Jones, sylwch ar:

    Yr eirfa nodweddiadol ogleddol sydd ganddo, e.e. cwffio, gennod, a hogia. Defnyddia'r u ogleddol yn gyson e.e. mynd, dyrnu a tu. Yn debyg i Mrs Hughes o Lannerch-y-medd, a sydd ganddo yn y sillaf olaf mewn geiriau fel adra 'adref', oddan 'oeddem' a petha 'pethau'. Y mynych ddefnydd o atodeiriau felly, ia a 'te .

Y recordiad

Enghraifft o dafodiaith tref Caernarfon - 'Iaith y Cofi'. Ganed Gareth Wyn Jones ym 1943 ac fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Oddan ni'n cal hop - hop, ia. Downsho, ia, yn Feed my lambs yn Ganarfon. Ag odd hogia Bangor yn dod i lawr ar nos Ferchar ag oddan ni'n cal fight dod cyn bus deg. Ar y Maes, 'elly ia, cyn i nw fynd adra. Ond… ym… oedd 'i'n mynd o ddrwg i waeth i ddeud y gwir, 'cos odd petha… oedd plismyn a bob peth, ia, ar nos Sadwrn yn gwatshad hogia Bangor yn mynd yn ôl 'lly am bo' hogia dre yn dyrnu nw felly.

Beth odd y Feed my lambs 'ma?

O Feed my lambs, wel…ym…church hall 'elly ia 'te. Ym... Ia, fel church hall odd 'i drost y ffor' i Ysgol Rad 'elly, ym…'te. A wedyn oddan ni yn cal hop yna ia, fel disgo ia. Disgo 'di o 'wan, ia. 'Te. Ag oddan ni'n mynd i fanno … ym… bob nos Ferchar os dwi'n cofio'n iawn. A nos Sadwn. I ddownsho, 'elly ia.

Pwy mor bell odd pobol yn dod i...

Oddan nw'm yn dod yn bell ichi, 'cos oddan nw... odd gynnon nw ofn dŵad i Gynarfon i ddeud y gwir. 'Mond hogia Fangor odd yn dŵad 'lly 'cos odd 'na lot o fights a peth felly.

Beth, ôs 'na enw drwg...?

Nag oes, nag oes! Pobol odd yn pigo anan ni 'elly ia. Wedyn odd raid i ni gwffio 'nôl 'te. O' lot o bobol o wlad yn dod i lawr ar nos Sadwn 'elly ia. Ag ... ym... wel wth gwrs, hogia Gynarfon yn mynd ar ôl gennod wlad, oddan, felly ia. Ag ym... a nhwtha ar ôl hogia Gynarfon am bo' ni'n well na hogia ... hogia wlad i ddeud y ... O ! Well i fi bidio deud peth... ffashwn bethau!

Dod yn ôl i Feed my lambs 'wan, pan 'ddan ni'n mynd i ddownsho i Feed my lambs. Ddoth ym... Richie Prichard Brothers felly ia. Prichard Brothers firm removals yn Gynarfon mawr i lawr yn Porth yr Aur, Ganarfon. Y ... a Richie yn dod — ddoth o yna i Feed my lambs i holi os o' 'na rŵun isho mynd i actio yn ffilm Inn of the Sixth Happiness felly ia. Ag, wel, odd 'i... o' 'na ddim ysgol. Adag holidays yr 'a ' odd hyn, ia. Ag... ym... oddan ni'n gorfod cyfarfod dwrnod wedyn, ym, chwech o' gloch yn bora, ar y Maes yn Ganarfon. I neidio i tu 'nôl i lorri Richie. Ag odd o'n mynd â ni i fyny i Beddgelart i actio yn y ffilm Inn of the Sixth Happiness ia. Ag ...ym... oddan ni'n câl two guineas a day. O' 'ny'n lot o bres adag hynny 'elly ia. Tua nineteen fifty seven os dwi'n cofio'n iawn ia. Ag oddan ni'n cal 'u bwyd 'efyd ia. A wedyn be' 'ddan ni'n neud, oen ni'n gorod gwisgo fyny fel Chinese felly ia, a rhedag efo gwn ar draws ochor y mynydd 'ma. Ag oddan nw'n ffilmio ni 'lly ia. Ag ym... oddan ni gyd yno. Pawb. 'Ogia Sgubor Goch i gyd a hogia mynd i Y .. YMCA yn Ganarfon 'elly ia.

Yr unig gyfla gesh i odd hwnna ia, ond mi ddaru nw films erill yn dre fel... ym... The Vikings. A dwi'm cofio hwnnw, on i 'chydig bach yn fengach adag hynny, ag ... ym... o' 'na lot o hogia Ganarfon ag un yn arbennig... Wil Napoleon 'te. Oedd o yn y ffilm yma 'te, fel Viking. Ag oddan nw allan yn y Menai Straits 'elly ia, a 'ddan nw 'di neud cwch Jôs Peilot i fyny fel llong Vikings ia. Ag ... ym... o' Wil 'di bod yn gwithio am ryw wythnos yn neud y ffilm The Vikings 'ma, ag odd o'n seinio dôl wsnos wedyn. Ag... ym... o' raid nw ofyn,

- Wel, 'dach chi 'di bod yn gwithio, Wil?

- Do, me' fo.

- Be' 'dach chi 'di bod yn neud?

- Actio yn ffilm The Vikings ia. Wel dwi isho newid papur dôl i ddeud film star 'wan.

Nodiadau

Cofi 'lly ia?

Cofi 'lly ia?

Feed my lambs

Hen neuadd eglwys yng Nghaernarfon a gymerodd ei henw oddi wrth yr adnod a osodwyd ar dalcen yr adeilad.

hogia Daw hog(yn) o'r Saesneg hogg 'anifail ifanc'; hogen neu hogan a ddywedir am ferch. Er ei bod yn ymddangos ar yr olwg gyntaf nad oes cysylltiad rhwng hogan a'r lluosog, gennod, pan gofiwn nad yw gennod yn ddim ond hogennod wedi colli'r sillaf gyntaf, daw'r berthynas yn glir.

nos Ferchar

Hyd at yn gymharol ddiweddar, nos Sadwrn bach oedd yr enw ar nos Fercher yng Nghaernarfon.

i nw 'iddynt'

Nid anghyffredin yw clywed i nw ar lafar yn hytrach na'r ffurf rediadol iddyn nw. Gellir priodoli i nw i rym cydweddiad: ar gyfer ffurfiau'r trydydd person yn unig y ceir ffurfiau rhediadol penodol ar gyfer yr arddodiad i (cf.i mi / fi, i ti, i ni, i chi ond iddo ef, iddi hi, ac iddyn nhw); nid annisgwyl, felly, yw cael bod i nw wedi ymuno â'r gyfres hwyaf.

Yn y De o yw'r arddodiad y tueddir i beidio â'i redeg a chlywir yno ffurfiau fel llawer o nw yn gyson; cf. dou o nw 'dau ohonynt'.

pob peth

Yn y Gogledd yn unig yr acennir yr elfennau pob peth ar wahân yn rheolaidd; popeth, popith, neu popath a geir fel arfer yn y De.

gwatshad 'gwylio'

O'r Saesneg watch (a'r terfyniad berfenwol -ad) y cafwyd y ffurf hon, wrth gwrs. Sylwer ar yr g- a dyfodd ar ddechrau'r gair, nodwedd a geir weithiau mewn geiriau sydd yn dechrau â llafariad neu ledlafariad. Geiriau eraill sydd yn dangos tuedd debyg i fagu g- yw gaddo, gallt, giâr a gwyneb.

odd gynnon nw ofn 'yr oedd arnynt ofn'

Nodwedd led gyffredin yn y Gogeldd yw defnyddio gan mewn cystrawen fel hon yn hytrach nag ar yr iaith safonol a rhai ardaloedd eraill. Yng Nghaernarfon dywedir, hefyd, ma gynno fi annwyd a ma gynno fi angan.

dŵad

Tueddir i gysylltu dŵad â'r Gogledd; y mae'r ffurf, fodd bynnag, yn gyffredin yn y De-orllewin hefyd: fe'i cofnodwyd, e.e. yn yr Hendy, y Ceinewydd, a Phenfro. Y ffurf mewn rhannau o Benfro yw dwâd. Ystyrir yn gyffredinol fod 'dyfod' yn dra ffurfiol ac mai 'dod' sydd yn briodol yn y rhan fwyaf o gyd-destunau. Y gwir, fodd bynnag, yw mai ffurfiau a ddatblygodd ar lafar o 'dyfod' yw'r holl rai a ddefnyddir gennym heddiw, gan gynnwys dod. Yn achos dŵad, y datblygiad tebygol oedd:

dyfod > dywod > dywad > dŵad

Gellir gweld yr un cyfnewidiadau mewn nifer o eiriau eraill, e.e. ceir y cam cyntaf, f > w yn taflu > tawlu; yr ail, sef wod > wad, yn cawod > cawad; a'r cam olaf, yw > ŵ yn llywath > llŵath.

Datblygiadau a ddilynodd drywydd arall a roes inni'r ffurf dod:

dyfod > dofod > dod

Camau tebyg a fu yn natblygiad cyfod > cofod > cod.

cwffio 'ymladd'

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, gan Oronwy Owen y cawn yr enghraifft ysgrifenedig gynharaf o'r ferf hon yn y Gymraeg: yn 1753 soniodd am 'feddwi, chware cardiau, a chwffio'. O'r Saesneg cuff, 'ergyd, dyrnod' (gair tebyg ei sŵn a'i sillafu ond gwahanol ei darddiad i enw'r Sais am lawes) y daeth y gair ac fe'i ceir drwy'r Gogledd.

gennod wlad

Y mae yng Nghaernarfon a'r cyffiniau ymwybyddiaeth ddofn o'r gwahaniaeth rhwng hogia dre (sef y bechgyn a fagwyd yng Nghaernarfon) a hogia wlad (y rhai o'r pentrefi oddi amgylch). O safbwynt ieithyddol, sylwer ar y modd yr hepgorir y fannod yo'r ymadroddion hyn.

ffashwn bethau 'y fath bethau'

Arwydd o ymwybyddiaeth y siaradwr ei fod yn cael ei recordio yw'r au yn hytrach na'r a ddisgwylieidig yn pethau.

holi os o' 'na rywun

Clywir ymadroddion tebyg ym mhob ardal erbyn heddiw ond dylanwad y Saesneg sydd yn cyfrif am yr os yn y cyd-destun hwn. Holi (a) oedd... a glywir amlaf gan y do hynaf, a hynny sydd yn briodol yn yr iaith safonol.

yn bora 'yn y bore'

Cyffredin trwy'r wlad yw hepgor y fannod mewn rhai ymadroddion penodol fel yn capel, yn tŷ, ac yn Gymraeg. Yr hyn a olygir, wrth gwrs, yw 'yn y capel', 'yn y tŷ', 'yn y Gymraeg': cadarnheir hynny yn achos yr enghraifft olaf (yr unig un i gynnwys enw benywaidd) gan y treiglad meddal. Ceir enghraifft arall o yn bora yn y recordiad o Fryn-crug ac enghreifftiau tebyg mewn darnau eraill, e.e. yn cornel, ar tu allan 'ar y tu allan'.

pres 'arian'

O'r Saesneg brass y benthyciwyd y gair hwn ac er ei fod ar arfer drwy'r wlad yn enw ar y metel, yn y Gogledd yn unig y'i defnyddir wrth gyfeirio at arian bath. Diddorol yw nodi sut y mae'r De a'r Gogledd wedi mabwysiadu enwau'r gwahanol fetelau 'arian' a 'pres' a ddefnyddir wrth wneud y darnau. Yng ngogledd Lloegr y defnyddir brass yn yr ystyr hon ac mae'r ffaith mai yng ngogledd Cymru y ceir y ffurf pres yn adlewyrchu dylanwad iaith y rhan honno o Loegr ar Gymraeg y Gogledd. Y gair deheuol, sef arian, yw'r un safonol; is-safonol yw brass y Saesneg a pres y Gymraeg.

gorod 'gorfod'

Ffurf gyffredin yn y Gogledd; ceir enghreifftiau eraill yn y recordiadau o'r Rhos a Bryn-crug. Ffurf arferol y De yw go(r)ffod (cf. Llansawel); clywir go(r)ffid hefyd yn y De-ddwyrain.

gwisgo fyny

Dylanwad y Saesneg sydd yn cyfrif am fyny yma; byddai gwisgo ar ei ben ei hun yn ddigonol.

mi ddaru nw films 'gwnaethant ffilmiau'

Sylwer ar y defnydd hwn o daru yn ferf sydd yn dynodi gweithred yn hytrach nag yn ferf gynorthwyol.

fengach 'iau'

Wil Napoleon

Un o gymeriadau Caernarforn; adroddir peth o'i hanes ef a'r ffilmio yn Annwyl Gyfeillion gan John Roberts Williams (1975).

cwch

Gair cyffredinol trwy'r wlad ac eithrio'r De-ddwyrain (sef, yn fras, yr ardal i'r dwyrain i afon Tywi,) lle y ceir bad.

Jôs 'Jones'

Ffurf gyffredin yn y Gogledd-orllewin. Ffurfiau llafar cyffredin eraill yn yr ardal nad oes iddynt hwythau statws swyddogol yw Ifas 'Evans', Robaitsh 'Roberts' a Wilias 'Williams'.

dwi isho

Cymharer y gystrawen wreiddiol ma 'na i isho gan Mrs Hughes o Lannerch-y-medd, sydd ddwy genhedlaeth yn hŷn na Gareth Wyn Jones.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.