Tafodiaith Llansannan, Gorllewin Clwyd

Nodweddion cyffredinol

Fel y ddau gyntaf, iaith ogleddol sydd gan Sam Davies hefyd, a’r u yn amlwg yn ei lafar. Ond yn wahanol i’r ddau o Wynedd, o ardal ‘swnio’r e’ y daw Mr Davies: sylwer ar enwe ‘enwau’, echel ‘echel’, a bydde ‘byddai’.

Er mai tafodiaith-e sydd gan drigolion Llansannan i bob diben, ceir yno ambell enghraifft o a hefyd. Yn y darn hwn, e.e., cawn bydda ‘byddai’ ac ista ‘eistedd’. Gan mai cymharol fyr yw’r enghraifft, nid hawdd bob amser yw gwybod a oes perthynas rhwng cael a yn y sillaf olaf ac unrhyw nodweddion eraill. Gellir, fodd bynnag, gyfeirio at un patrwm arwyddocaol, sef mai yng nghyd-destun a arall y ceir a’r sillaf olaf yn arni. Mewn tair enghraifft, o flaen a arall y cawn a yn y sillaf olaf: petha ar drol, ista ar y crab, a bacha arni; mewn dwy arall ceir bod a yn rhagflaenu’r sillaf olaf: gadal ‘gadael’, a hofygafana ‘ofergarfanau’. Yr hyn a welwn, felly, yw tuedd i e yn y sillaf olaf gymathu at a sydd yn ei dilyn neu yn ei rhagflaenu.

Un o’r rhesymau dros ddewis y darn hwn yw’r cyfoeth termau technegol sydd ynddo ar gyfer rhannau’r drol a gêr y ceffyl, e.e. camogie, both, edin, bocs echel, crab, brân, hofygafana, strodur, cefndres, a sgilbren.

Y recordiad

Enghraifft o dafodiaith Llansannan, Sir Ddinbych. Ganed Samuel Davies ym 1911. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ew! Dwy ‘di bod yn cysidro hefo... euddwn i’n cysidro hyd ‘nod yn ‘ngwely neithiwr am enwe sydd ar betha ar drol. A dwy ‘di methu’n glir â cofio un enw, a fedra’ im cofio chwaith. Gymaint o wahanol enwe sy ar ddefnyddie mewn trol geffyl ‘ndê.

Dach chi’n cofio rhei onyn nw?

Ydw... Wel cymwch chi’r olwyn i gochwyn, yndê. /Ia, ia./ Y cylch, y camogie /ia/, y both /ia/, yr edin /ia/, a’r bocs echel /A!/ i gymyd o’r ddwy olwyn, o olwyn i olwyn /ia, ia/. Wel ma ‘ne... yn y... yn y drol wedyn, ma ‘ne fel ‘den ni’n deud... y crab ar ben blaen, ar drows pen blaen y drol.

Fydda... fydda’r ciartar yn amal iawn adeg ‘onno, dudwch bod o’n mynd i rwle, ‘uda’ i bod o’n mynd i’r felin efo’r gaseg a’r drol. Wel y rên, ag ista ar y crab yndê. A’i ddwy droed fel hyn ar y shafft yndê. Crab byddan nw’n galw hwnnw. /0 ia ia, ia./ Wel y frân, i godi’r drol i fyny pen fydde’n cario tail. Fydde ‘ne rw bishyn bach o huarn fel ‘yn a tylle yno fo felne, a wedyn gaech chi godi y pin fel byddech chi’r tail yn mynd yn... i godi hwnne ‘ndê. Y din bren, fel bydden n’n deud, o’ reid tynnu honno yn gynta, yndodd i, ar draws tu ‘nôl.

Ar draws tu ’nôl?

Tu ‘nôl. O, ie./ O dan y shafftie o boptu o‘ ‘ne ddau... wel, dau ychdwr
yma fel ‘yn, debig iawn i ddau goes brws. Dau dwm fydden ni’n alw o. Twm. O dan y shafftie. /Ie. / A wedyn, os byddech chi... dduda’ i bo’ chi’n... yn dadfachu ar ganol dydd efo llwyth o wair, fyddech chi’n dadfachu’r ceffyl, a gadal y drol ar y ddau dwm ‘ma, a wedyn fydde honno’n cadw’r drol yn ‘run ychdwr ag oedd ‘i wth y ceffyl yndê. A wedyn
25 o’ ‘ne rwbeth i roi ar y drol i gario cnwd — hofygafana eudden ni’n galw ‘i.

Pethe i estyn y...?

le. Dene fo.

O! ’Na beth och chi’n galw nw, ie?

Dene be’ chi’n galw hwnnw. A ‘ma ‘ne wedyn ar hyd top yr ochor y drol,
ar rw shâp, fel rw dop llong, ond fedra’ i... Doedd o ddim ond ‘w bishyn o bren, dudwch bod i’n deud rw ddwy fodfedd a hanner. A fedra’ i yn ‘y myw einios â cofio be’ ‘di enw o. A dwy fod yn gwbod yn iawn be’ ‘di enw o, ‘de... Oedd o ar hyd top yr ochor i gryfhau a ‘dyn y pinne sgriws ‘ma’n mynd wedyn i’r ochre’r drol yndê. Ond am ‘u cofio’u henwe nw! A dwy’n
gwbod yn iawn bod ‘ne enwe arnyn nw ‘ndê.
... Gêr y ceffyl wedyn, ‘de. /Ie./ Bobol bach! ‘Ne chi’m byd ‘blaw y siwt odd gen y ceffyl isho’i roi wth y drol. Fydden ni’n ‘i alw o y strodur.

Ar ’i gefn o, ie?

le. A wedyn, o’ ‘ne y din dres eudden ni’n galw ‘i. Tshaen — pad yn mynd
rownd y ceffyl, a dwy tshaen yn dod i’r shafftie. O’ ‘ne ddwy arall mynd o’r mwnci i’r drol. Fel bydden ni yn deud, pytie tsheini fydden ni’ngalw rhini adeg ‘no. /O ie./ O’ ‘ne beliband. /O shafft i shafft, ia?/ Ia, o dan dor y ceffyl. /A ie. le, ie./ Ym... y ffrwyn. Yr enwe odd ar y ffrwyn. Yr awen... A ‘dyn y bit, trw geg y ceffyl...
O’n ofynnol i geffyl gwaith wastad teg, dene fo... am geffyl shoe dene fo, dôs ne’m byd, ond o’ reid i geffyl llwyth gâl... y... y... clustie fel hyn i’w ffrwyn wastad teg yndê. /O ie./ On’ be ‘i, basa ceffyl yn gweld ‘i lwyth tu ‘nôl ne gweld y gwaith ‘sech chi’n neud, mi alle ‘i chymid ‘i’n syth. Fel odd o ‘di cal ‘i gau nad odd o’n gweld dim byd ond o’i flaen, ‘de.

Fydde gêr troi yn beth gwahanol eto?

O’ honno yn gêr gwahanol eto. Wel y prif beth am ‘onno... dyne’r... y... eudden ni’n galw honno y cefndres.

A! Fel pad ar ’i...

Dyne fo. Dim ond pad drost y cefn, a bacha arni, a dwy tshaen o’r mwnci hyd i’r sgildreni bach, fel bydden ni’n deud. /Be’ odden nw?/ Suldremi bach. Felne bydden ni... O’ ‘ne dair sgilbren i droi. Un sgilbren fawr, a’i chanol ‘i’n bachu wrth yr ared, a... yn bob pen i’r silbren fawr o’ ‘ne ddau... fel hook fel ‘dan ni’n deud. Wel bachu... y ddwy sgilbren bach yn rheini i bob ceffyl.

Nodiadau

ewne ar betha ar drol

trol

Gair y Gogledd yw hwn yn cyfateb i cart y De, sef cerbyd dwy olwyn i gludo llwythi trymion fel tail. Term dwyrain y Canolbarth am gerbyd o’r fath yw trwmbel, gair a geir yng Nghlwyd hefyd — yn y ffurf twmbrel — ond ei fod yn cyfeirio yno at gorff y drol yn hytrach nag at y cerbyd cyfan.

cochwyn ‘cychwyn’

Dylanwad yr ch sydd yn bennaf cyfrifol am droi’r y yn o yn y gair hwn; gair arall sydd yn adlewyrchu’r un broses yw Llanrhochwyn, ffurf lafar ar Llanrhychwyn yng Ngwynedd.

camogie

Gweler LGW (tt.376-7) am ddosbarthiad daearyddol y term hwn a’i gyfystyron; termau technegol eraill y cyfeirir atynt yn y darn ac y ceir gwybodaeth amdanynt yn LGW yw both (tt.382-3), echel (tt.378-9), a tinbren (tt.12O-1).

dwy droed

Gair y mae ei genedl yn amrywio o’r De i’r Gogledd. Yn ôl y patrwm cyffredinol, yr hyn a ddisgwylid gan siaradwr o’r Gogledd fyddai dau droed; mae’r enghraifft hon, fodd bynnag, yn awgrymu bod y sefyllfa yn gymhlethach nag a dybir.

Y DROL
byrdde
tinbren/tincar
twmbrel
crab
brân
shafft
cylch haearn
both
aden
camog

y frân

Ni all y rhan fwyaf ohonom alw brân ar ddim ond aderyn, eithr fel y tystia’r enghraifft hon, yr oedd i’r gair ddefnydd helaethach lawer mewn dyddiau a fu. Yn y cyd-destun hwn cyfeirir at yr hyn y byddid yn debyg o alw ratchet arno heddiw; bu hefyd yn derm am ran o aradr ac am grib neu fwrdd bysedd crwth.

dau goes brws

Yn y De bydd coes yn fenywaidd yn ddiwahân; yn y Gogledd gall y genedl amrywio yn ôl yr ystyr. Benywaidd yw coes gogleddwr hefyd ond wrth gyfeirio at wrthrychau fel coes bwrdd a coes brws, mae tuedd i’r enw fod yn wrywaidd. Dylid nodi, fodd bynnag, nad oes llwyr gysondeb ynglŷn â hyn.

GÊR TROL

carrai ên
corn mwnci
carwden
strodur
tindres cengel
beliband
pwt tshaen/ tynaid
mwnci
colar
awen/ rêns
ffrwyn/ masg

hofygafana

Gair ‘dwyieithog’ yw hwn yn cynnwys y Saesneg over a’r Gymraeg carfanau. Bu over yn elfen ddigon cynhyrchiol yn y Gogledd ar un cyfnod: geiriau eraill a gofnodwyd yn ardal Bangor yn ei chynnwys yw ofardyfu ‘gordyfu’, ofargodi ‘gorgodi (am fara)’, ac ofarweithio ‘gorweithio’.

tor ‘y man y tu ôl i goesau blaen anifail’

Y mae Mr Davies newydd sôn am y rhan o’r harnais sydd yn mynd o dan y dor, sef y beliband, gair benthyg amlwg, a ddisodlodd tordres. Dyma’r elfen a geir mewn cyfansoddeiriau fel torsythu a torheulo (neu, fel y dywed y deheuwr, bolaheulo).

Ar wahân i’r enghreifftiau uchod, a all fod braidd yn ffurfiol i’r deheuwr, mae’n debyg mai am yr ymadrodd tor y (l)law ‘cledr y llaw’ y byddai’r rhan fwyaf o ddeheuwyr yn meddwl pe soniai rhywun wrthynt am tor.
Mewn cyd-destun arall, cawn fod tor i’w gael yn helaeth drwy’r wlad: rhai o’r geiriau mwyaf cyffredin am gasgliad o foch bach yw torllwyth (yn y Gogledd), torred (yn y De-orllewin) a tor (yn y De-ddwyrain).

rheid ‘rhaid’

Sylwer sut y ceir ei yn y gair hwn yn cyfateb i’r ai safonol. Enghraifft debyg, sydd yn gyffredin yn y Gogledd a rhannau o’r De-orllewin yw rhei ‘rhai’. Yn y ffurf iair ‘ieir’ yn nwyrain Morgannwg ceir y gwrthwyneb: ai ar lafar yn cyfateb i ei safonol.

cefndres

Y gair Saesneg trace yw’r ail elfen yn y term hwn: fe’i ceir mewn sawl gair sydd yn cyfeirio at rannau o’r harnais sydd yn cysylltu’r ceffyl â’r hyn y mae’n ei dynnu: cefndres, tindres, a tordres.

sgildreni

Bechid ceffylau gwedd wrth ddau bren traws neu sgilbrenni bach. Cydiai’r rhain yn y sgilbren fawr, a chysylltai honno â’r aradr. Wrth geisio cofio’r ffurf luosog, mae Mr Davies wedi cymysgu rhywfaint rhwng sgilbren a suldrem ‘swp o ŷd heb ei rwymo’.

Yr enw ar y rhan hon o’r gêr aredig mewn rhannau eraill o’r wlad yw tinbren, gair sydd yn cyfeirio at ran o’r drol yn yr ardal hon.

sgilbren bach

Y mae sgilbren yn enw benywaidd yn yr ardal hon – cf. sgilbren fawr (ll.56) – ond nid gwall ar ran Sam Davies yw peidio â threiglo bach. Yn hytrach, un o’r hynodion ieithyddol anodd eu hesbonio hynny a welwn yma: anaml iawn y treiglir bach o gwbl yn y Gogledd pan fo’n goleddfu enw benywaidd. Cwbl naturiol i Ogleddwr, felly, yw dweud dynas bach, hogan bach, shop bach, ac yn y blaen. Ceir enw lle sydd yn pwysleisio’r gwahaniaeth yn hyn o beth: Eglwys-fach sydd yng Ngheredigion ond Eglwys-bach yng Nghlwyd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.