Tafodiaith Llansawel, Dyfed

Nodweddion cyffredinol

'General Southern Welsh' oedd ymateb un person pan glywodd y darn hwn am y tro cyntaf! Mae'n siŵr y tynnem sawl nyth cacwn am ein pennau pe cytunem â dyfarniad o'r fath ond gellir cydymdeimlo â byrdwn y gosodiad: pan gofiwn am nodweddion hynod Penfro i'r gorllewin a Morgannwg i'r dwyrain y mae'r dafodiaith hon yn swnio'n fwy 'niwtral'.

Enghreifftiau o'r eirfa nodweddiadol ddeheuol yw bord, cwmpo, dala, dodi, ffilu, a mâs. Atodeiriau cyffredin yn y cylch yw chwel, chim(b)od, ac yndife.

Clymir acen y darn hwn â'r De-orllewin gan:

  • Yr e yn y sillaf olaf, e.e. bore, dechre 'dechrau', a bydde 'byddai'. Yr ow sydd yn mowr 'mawr', er bod aw yn yr un gair yn.
  • Colli h yn achlysurol yn unig, e.e. yd 'hyd', ond hyd, haul a helpu.
  • hw yn hwys 'chwys'.
  • ô yn ôd 'oed' (wêd a geid gan Miss John o Ben-caer, ac oid gan Mrs Evans o Flaenpennal).
  • â yn mâs 'maes', 'cae': (æ fain geid yn y De-ddwyrain).

Y recordiad

Enghraifft o dafodiaith Sir Gaerfyrddin. Ganed Mrs Martha Williams o Lansawel ym 1907. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Wel, weda i wthoch chi, och chi yn lladd y gwair i ddechre. Os gallech chi, a bod 'i'n sych, lladd e yn y bore. A fuodd yn nhad, odd 'dag e ddim — ddim lladdwr gwair a ceffyl yn dinnu e, a'dd e'n iwsho pladur i ladd y gwair 'ma. A bydde fe'n dechre yn y bore bach, lle bod yr haul yn dod a bydde fe'n lladd 'i 'unan wrth 'ny. Ond odd e'n gweud buodd e bwti neud gormod ryw ddyrnod, chimod. Goffo' fe orwedd lawr, yndife. Odd e... odd e wedi lladd gormod heb cal dim byd i ifed, a neud e yn y bore bach lle bod... fydde'n myn' 'nôl i odro, yndife, chimod. A wedyn ar ôl lladd y gwair 'na, och chi'n wasgaru e wedyn, a picwarch och chi'n galw 'i...

Bydde fe'n lladd ystod o hyd chi'n gwel'. Bydde ddim o'r gwair gyda'i gilydd a... ma ystod o hyd, a fydde raid cymysgu hwnna lan wedyn i'r haul cal gafel 'no fe, fel ma bôn y gwair yn cal 'i godi lan lle bydde fe... lipa, chwel', yndife. Reit, welar ôl bydde hwnnw wedi dod yn sych, byddech chi'n crynhoi e yn ystodion mowr wedyn, fel y ceffyl a'r cart yn dod wedyn, ne gambo, i godi fe fanna a myn' ag e i'r tŷ gwair... A felny wi'n cofio dou falle, dwy bicwarch yn codi gyda'i gilydd, a'r un odd ar... odd... druan â hwnnw, odd 'dag e waith i ddodi'r gwair yn fflat fel bod e'n dala i bido cwmpo, chwel yndife. A odd e'n waith caled... A bydde ryw... ffarm nesa atoch chi'n lladd nawr... A wedyn os bydde rywun yn gweud 'Alli di ddod fory?' 'Galla, galla. Ddŵa i a gewch chi ddod 'nôl aton ni drennydd. Fyddwn ni'n lladd drennydd.' 'Na le on ni'n myn' yn hwys mawr ffor' 'ny wedyn. Chimod, helpu'i gilydd...

[Peswch] On i'n cal ym mhen-blwydd yn... y ddouddegfed o Orffennaf a'n i'n meddwl 'na neis, bydd y gwair wedi dychre erbyn 'ny a fyddwn ni'n fishi, a... A os gelen ni gâl rw de mâs ar y câ 'da Mam wedyn. Bydde 'i'n do' mâs a pasged fowr a... A wedyn... odd bara menyn a'r jam a'r gagen a'r darten a'r llestri'n cal 'u dodi ar y llawr ar y... llien bord mowr wedyn. A 'na le on ni, ar y pelinie rown' felny wedyn. A odd stên fowr o de wedyn. A'r llâth a pethe. A bydde Nhad yn gweud 'Cofia bod ti'n dod a stên nawr, a bara cyrch a dŵr i ifed.' Pan 'dden nw a syched anyn nw yn gwitho wth y gwair, bydde hwn yn bôn y... bôn y clawdd. A bydde cwpan ne rwbeth ar 'i bwys e. On nw'n myn' i gal.., a cyrch, fel blawd cyrch yn y gwilod, a dŵr. A shiglo hwnnw nawr, odd hwnna nawr yn torri syched, chwel. O, odd e'n well.., odd ambell un yn cymysgu... ym... cwrw gwaith catre chimod. A'r stori on i'n gliwed am ym mrawd nawr, y trydydd, John odd 'i enw e. On nw'n colli John o hyd ychwel. On nw ffilu diall lle odd e, chwei. 'Le ma'r crwt 'na nawr 'te wedi mynd?' Odd John wedi hifed 'sbod e'n feddw yn cornel fan 'ny. Odd e 'di bo'n hifed yn y tshwc o 'yd o 'yd a Mam yn gwed 'Wel, wyt ti ddim... Os dim byd yn y shwc 'ma!' O! Odd e ddim yn gwbod, wir! A byti saith, wyth ôd, chwel. Wedi bod manny, a on nw'n gweud y stori 'ny bod e'n itha gwir, chwel, bode 'di ifed gormod, chwel. A cwrw gwaith catre odd e, chi'n gweld.

Nodiadau

bara cyrch a dŵr i yfed

bara cyrch a dŵr i yfed

y bore bach 'ar doriad y wawr'

bwti 'bron'
Ffurf nodweddiadol ddeheuol yw hon; amrywiadau Ilafar cyffredin eraill yw (o)beiti, (o)boiti, (o)byti ac (o)biti. Hynafol yw'r ffurf safonol gyfatebol, o beutu, sydd yn cynnwys yr un ellen peu ag a welir yn y beunydd 'bob dydd' a'r beunos bob nos' mwy cyfarwydd. 'Ar bob tu' neu 'ar bob ochr' oedd ystyr wreiddiol o beutu.

goffod 'gorfod'

picwarch 'fforch ac iddi goes hir a dwy ewin ar gyfer trafod gwair' O'r elfennau ig (o'r Saesneg pike) a fforch (benthyciad cynnar iawn o'r Lladin) y cyfansoddwyd y gair hwn.

ystod 'rhes o wair wedi ei dorri'
Y ffurf luosog yn yr ardal hon yw stodion; amrywiad amlach ei ddigwyddiad yw stode (neu stoda).

bydde ddim o'r gwair gyda'i gilydd

Berf orffennol arferiadol negyddol sydd yma. Y ffurf bresennol gyfatebol (a mwy cyfarwydd) fyddai simo'r gwair gyda'i gilydd. Heb wybodaeth am hanes yr iaith a ffurfiau tafodieithol eraill, anodd fyddai dirnad o ble y tarddodd simo (a'r llu amrywiadau eraill). Yn bydde ddim o... y mae'r elfennau'n amlwg ac mae'r ffurf, felly, yn ateg ddefnyddiol i gadarnhau'r tarddiad.

cymysgu lan

yn lipa
Nodwedd dafodieithol yw treiglo'r ll yn y cyd-destun hwn: yn llipa a ddisgwylid mewn arddull fwy ffurfiol. Gan fod pob cytsain dreigladwy ac eithrio ll a rh yn treiglo ar ôl yn (e.e. yn fach, yn gyflym, ond yn llawn, yn rhydd) datblygiad naturiol oedd estyn y treiglad i gynnwys ll a rh (mewn ardaloedd-rh).

Ceir datblygiad tebyg yn achos y fannod, y (+ enwau benywaidd unigol) a mor (+ ansoddeiriau) nad ydynt hwythau yn sbarduno treiglad ll a rhyn yr iaith safonol: cwbl naturiol yn y tafodieithoedd yw ffurfiau fel y lygoden 'y Ilygoden', y linell 'y ilinell', y raw 'y rhaw', mor lwyddiannus 'mor llwyddiannus', a mor rydd 'mor rhydd'.

gambo 'cerbyd ar gyfer cludo gwair'
Y mae'r gair yn gyffredin drwy'r De; o blith termau'r Gogledd a'r Canolbarth y mwyaf cyffredin yw trol yn y Gogledd (sydd hefyd yn cyfeirio at gerbyd ac ochrau iddo i gario llwythi trymion) a cert yn y Canolbarth. Digwydd cart yn gyffredinol yn y De yn enw ar y cerbyd i gario llwythi trwm. Fel y geiriau eraill, benthyciad yw gambo o'r Saesneg.

dŵa 'deuaf'

drennydd 'trennydd; y diwrnod ar ôl yfory'
Ffurf a glywir yn ddigon aml ar lafar; clywsom dradwy 'tradwy, y diwmod ar ôl trennydd' hefyd gan nifer o siaradwyr.

y ddouddegfed 'y deuddegfed'
Cyffredin yn y tafodieithoedd yw treiglo trefnolion wrth gyfeirio at ddyddiadau (cf. y ddegfed o Awst, y drydydd ar ddeg o'r mis). Y mae'n ddealledig mai at ddyddiau penodol y cyfeirir a chan mai gwrywaidd yw dydd anodd cynnig esboniad am y treiglad meddal (ond gweler trafodaeth yr Athro T. J. Morgan yn Y Treigladau a'u Cystrawen, tt.140-2, am ymgais i olrhain y datblygiad). Y deuddegfed, y degfed, y trydydd ar ddeg, ac yn y blaen, sydd yn gywir yn yr iaith safonol.

pasged
Wrth fenthyg basket i'r Gymraeg addaswyd ei gytseiniaid dechreuol a diweddol. Gan mai prin iawn yw t ddiweddol yn y Gymraeg (mae'r arddodiad at yn eithriad nodedig), tueddir i droi t ddiweddol yn d wrth fenthyg geiriau i'r iaith; enghreifftiau tebyg yw fioled 'violet', paced 'packet', a roced 'rocket'. Ceir tuedd, hefyd, i droi b y Saesneg yn p yn y Gymraeg ar ddechrau geiriau e.e. planced 'blanket', plocyn 'block', a potel 'bottle', ond ceir mwy o amrywio o ardal i ardal yn y cyd-destun hwn.

cagen 'teisen'
O'r Saesneg, wrth gwrs, y daeth cagen - a'r ffurfiau mwy cyfarwydd cacen, cacan - i'r Gymraeg. Er mai 'teisen' yw ystyr arferol cacen, rhwng afonydd Efyrnwy a Hafren fe'i defnyddir am 'felysion'. Os ymglywodd Cymry rhai ardaloedd â'r angen am fenthyg gair i gymryd lle teisen, diddorol nodi bod yn well gan ryw garfan o Saeson y gair Ffrangeg gâteau na'u cake brodorol! O ran ffurf y gair, cawn yn cagen enghraifft brin o droi c y Saesneg yn g yng nghanol gair.

pelinie 'penliniau'

stên 'jwg enamel fawr'

crwt 'bachgen ifanc'
Diddorol nodi bod Geiriadur Prifysgol Cymru yn cynnwys 'bachgen tua seithmlwydd neu wythmlwydd oed' yn ei ddiffiniad o crwt; dyna'n union dystiolaeth Mrs Williams.

hifed 'yfed'
Ffurf gyffredin yn Nyfed. Ffurfiau eraill a all gynnwys h ddechreuol neu beidio ar lafar yw enw a henw, ac efo a hefo.

shwc
Yn yr ardal hon gwahaniaethir rhwng shwc (llestr mawr tun i gario dir o'r pistyll i'r tŷ) a jwg (llestr o grochenwaith neu wydr at ddal llaeth ar y bwrdd). Amrywiad llai cyffredin ar shwc yw tshwc uchod.

Nid oes angen edrych ymhell cyn canfod nad oes rhithyn o wir yn yr honiad 'nad oes j yn yr iaith Gymraeg': y mae'r tafodieithoedd yn llawn enghreifftiau! Y Saesneg — a roes inni eiriau fel jam, jeli a jôc — yw'r ffynhonnell gyntaf a mwyaf toreithiog i j ond mae ffurfiau fel jengyd 'dihengyd, dianc',joddef 'dioddef', jogi 'diogi', cyjo 'cydio' a sgije 'esgidiau' sydd ar lafar mewn sawl man yn y De yn tystio i ddatblygiad y sain yn y Gymraeg ei hun (o'r cyfuniad di + llafariad). Llai cyffredin yw ffurfiau o'r fath yn y Gogledd, ond gellir nodi bod jawl 'diawl' ar lafar yn ardal y Rhos!

Er gwaethaf bodolaeth y ffurfiau a nodwyd, sain gymharol ddiweddar yw j yn y Gymraeg ac mewn benthyciadau cynnar tueddwyd i ddefnyddio sh neu tsh yn ei lle; enghraifft o gyfnewid j y Saesneg am tsh yn Gymraeg a welwn yn tshwg y siaradwraig hon. Ffurfiau tebyg yw tshacad 'siaced' a tshôc 'jôc', a gofnodwyd ddechrau'r ganrif ym Mangor, ac mae'r amrywiadau tshar, jar 'jar' a gofnodwyd yno yn tystio i'r modd y graddol dderbyniwyd j i'r Gymraeg.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.