Tafodiaith Llanymawddwy, Maldwyn

Nodweddion cyffredinol

Naws ogleddol sydd i’r rhan fwyaf o’r geiriau a ddefnyddir yn y darn hwn, e.e. ers talwm, stalwyn a ’wan ‘rwan’. Mae stingodd, ar y llaw arall, yn arwydd pendant mai o’r Canolbarth y daw Mrs Ann Jones (gweler y nodyn isod).

Os nad yw’r eirfa yn y darn yn cynnig nifer fawr o ganllawiau ar gyfer lleoli’r dafodiaith, mae’r seiniau yn ein galluogi i fwrw amcan gweddol bendant ynglŷn ag ardal magu Mrs Jones:

1 Mae Llanymawddwy yn nhiriogaeth yr ae fain; clywir y sain mewn nifer o eiriau, er enghraifft: giaet ‘gât’ a llaeuth ‘llaeth’. Fel y gwelir oddi wrth Fap 12, mae llain eang ar draws y Canolbarth lle y ceir ae. Fodd bynnag:

2 Rhennir tiriogaeth yr ae yn ogledd a de yn ôl y defnydd a wneir o’r u ogleddol (Map 11), a’i rhannu drachefn o’r gorllewin i’r dwyrain yn ôl y defnydd o a yn y sillaf olaf (Map 13).

Yng ngogledd tiriogaeth yr ae y mae Llanymawddwy, ac felly y mae Mrs Jones yn defnyddio u yn y cyd-destunau gogleddol arferol, fel yn . Nodwedd arall sydd yn ei chlymu â’r Gogledd yw’r ch yn chwech. Ar y llaw arall, mae’r e mewn geiriau fel nosweth ‘noswaith’, rhywbeth, a cogie ‘cogiau’ yn nodwedd ar Ddyffryn Dyfi ac ochr ddwyreiniol ardal ae.

Y Recordiad

Enghraifft o dafodiaith ardal Llanymawddwy yng Nghanolbarth Cymru. Ganed Mrs Ann Jones, y siaradwraig, ym 1914. Fe'i recordiwyd gan yr Uned Ymchwil Ieithyddol Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Fydde ’na ryw rafins ofnadwy ’ddeutu’r tŷ ar nosweth cyn priodas, yn’ bydde, cogie o gwmpas yn trio gneud rywbeth i stopio’r wraig ifanc fynd ffwr’ i’r briodas yn y bore yndê. Oedd, o, ma’n dal o hyd — o’ ’na briodas ’rochor arall ’ma ’leni, fûm i yn y briodas yn y Fairbourne Hotel ond o’ ’na rafins mawr ’na trw’r nos. On nw ’di gollwn y sgratsh defed lawr i’r ffor’, a’r hen gogie’n cel sbort. On i’n clŵed nw wthi, dal ati. Ond bydde es talwm ’run peth, a rhoi rw...

/Cwinten./ Ie, cwinten, cadw cwinten. Dach chi’n gwbod be’ ’di rhoi rw. ..O, fûm i’n dal cwinten. Blode, a ’di rhoi nw ar ryw gortyn fel ’na, a’dd un bob pen, a wedyn fydde’r briodas yn dŵad wedyn fydde’r plant, pw bynnag fydde efo’r, efo’r gwinten, fydden yn cel pres, fydde raid i’r gŵr ifanc fod genno fo bres yn ’i boced, ceinioge oedden nw’r amser ‘ynny yndê, fwyaf ichi. Ond odd ceniog yn lot yr amser ’ny yndoedd ’i? Ag os gaech chi chwech, fel on i’n deu’ ’thoch chi, och chi’n ciel lot, ond oeddech chi. Ond fydde cwinten bob amser amser priodas, yntê. O bydde. O fydde ’na ryw neud a saethu mawr amser priodas. Saethu ofnadwy yn bydde? O bydde, ’dde ’na saethu ofnadwy wddoch chi amser, nos... dwrnod y briodas, yntê. Amser y ferch yma’n priodi yn Llanymowddu, yn yr eglwys Llanymowddu, o’ ’na saethu mawr wth giaet yr eglwys. Oedd, i fyny i’r gwynt, yndê, i’r awyr. O oedd.

Ag oen nw’n rhoi rhw, on nw yn rhoi rhyw fwgwd ar y ffor’, llusgo coed ne rwbeth i stopio’r ’raig a’r gŵr ifanc fynd ffwr’ ’te. ’Yna fel oedd yr amser ’ynny yntê, dach chi’n dyallt. ’Yna fo, mae o rwbath yn debyg o hyd yndydi’n dal ffor’ yma hefyd, ryw hogie neud drwg, yntê a... /Ma’r gwinten wedi gorffen./ Ma’r gwinten wedi gorffen es talwm. Os neb yn dal cwinten ’ŵan, ‘te. O, fydden yn cadw, yn dal cwinten, o’ hynny ryw draddodiad, yntê.

Wel o’ ’na lawer o helynt es talwm, hen bobol wedi meddwi yn y Red Lion, a phelly, ar amser y ffair, yntê. Ag oe’ ’na ryw hen ddyn, ag oedd o’n dod â stalwyn i’r ffair i adfyteisho’r stalwyn, yntê. Ag o’r hen ddyn yn eger ofnadwy am gwrw. Ag oddo ’di bod yn y Red Lion, ag oedd o ar... ar gefn... yn arwen y ceff... y stalwyn oedd o, ag oe’ ’na, oe’ ’na stondin yn gwerthu tuns godro a potie llaeuth. A... odd o ’di meddwi cymad mi baciodd y stalwyn i ganol y llestri a’r tuns. Ag o’r hen ddynes yn gyddeiriog o’i cho’. (Dech chi’n gwbod be’ ’di bod gyddeiriog o’ch co’ — o’i go’?) A fynte’n chwerthin am ’i phen ’i. Dwy fel swn i’n ’i weld o heddiw. Yr hen foi ’ydi dal ’i’n ofnadwy yn y ffair, ’tê. O, o’ ’na fobol, on nw’n dod yma, o dros y Bwlch o’r Bala ffor’ ’na i’r ffair, ag o Lanerfyl ago bob man i’r ffair. On ma ’i ’di gorffen es talwm, wedi gorffen es ta... [Colsyn yn syrthio o’r tân.] Nae, peidiwch â poeni, pidiwch â poeni, ma’n olreit ngwaeshi. Bydden nw’n dod yma o bob man i’r ffiria. Agos doe’ ’na’m llawer o’m byd arall ar fod, yn naeg oedd, ond — gwatsha fagio hwn [Mr Jones yn mynd i godi’r colsyn] — ond ffeirie, naeg oedd. ’Na fo. A ffair glangua wedyn, o’ honno, o’ honno’m gimin ffair cweit, nag oedd.

Ond oen nw m..., on nw’m mynd â gwartheg a pethe felly liawr i gwerthu lawr i’r Dinas, ond odden nw. Ond don nw’m yn gwerthu llawer o ddefed.

Porthmyn odd yn dŵad o gwmpas i brynu defed, ydach chi’n dyallt, yndê, porthmyn, brynu defed. A wedyn fydden yn mynd â helfeydd o ddefed dros y Bwlch am Gorwen, Rhuthun, ffor’ ’na. Milodd, milodd, ohonyn nw’n mynd — llond y ffor’, yndê, yr amser ’ny, yntê. Dyna fo. Ond ddôth y sêls a wedyn ’na orffen am y... am y porthmyn yntê, yn prynu, ie.

A wedyn fydde ’na bobol yn cer... gennyn nw fobol, be’ galwch chi bobol sydd yn gyrru’r... /Drofars./ ...drofars, yntê, mynd â’r defed, yntê. O bydde. Fûm i’n mynd efo nw lawer gwaith i’r ysgol, pan oedden ni’n mynd yn blant i’r ysgol, licio ce’ mynd efo nw a chel ceniog am aros mewn tylle yn y stingodd — dwi ’di deu’ ’thoch chi am y stingodd — am aros yn y tylle, dach chi’n gwbod. O, odden ni’n enjoio cel mynd efo nw. Ond ar ôl mynd i’r ysgol oedden ni’n cel gwers reit ddae gen yr hen schoolmaster, bo’ ni’n hwyr dod i’r ysgol.

— Wel ble buoch chi?
— Wel fuon yn brysur iawn yn helpu’r drofars efo’r defed.

A ’na fo, mi dawelodd i lawr wedyn, yntê. Ond fydden nw’n mynd â milodd dros y Bwlch, yn’ bydden nw.

Nodweddion cyffredinol

cogie'n cel gwers reit ddoe

cogie'n cel gwers reit ddoe

rafins ‘sŵn, stŵr’

Gair benthyg o’r Saesneg ravings. Sylwer sut y mae ng y Saesneg yn cael ei chynrychioli gan n yn y Gymraeg. Mae’n bosibl mai n a glywodd y Cymry a fenthyciodd y gair hwn gyntaf, er mai ng a ddywedai’r Saeson. Posibilrwydd arall, a mwy tebygol, yw mai o dafodiaith Saesneg lle y ceir -in yn hytrach nag -ing y benthyciwyd y gair hwn. Ceir nifer o eiriau tebyg wedi eu benthyg o’r Saesneg, e.e.

Saesneg Cymraeg
fairing fferin, ffeirin
lining
leinin
pudding
pwdin

fûm i

Sylwer ar ffurf y ferf! Dyma’r ffurf ‘safonol’, wrth gwrs, yn digwydd yn gwbl naturiol ar lafar.
hen gogie ‘bechgyn, llafniau ifainc’

Defnyddir yr ymadrodd old cock ynddigon cyffredin mewn rhai mathau o Saesneg, fel rheol gan ddyn yn cyfarch dyn arall; o’r cock hwn y benthyciwyd còg.

es talwm ‘ers llawer dydd’

Yn y Gogledd yn unig y ceir talwm, ffurf ar talm ‘ysbaid o amser, cyfnod’. Sylwer mai w, yn hytrach na’r a ddisgwyliedig, yw’r llafariad rhwng elfennau’r clwm lm.

cwinten

Ceid y gwinten yn Nyfed hefyd, eithr nid â blodau y gorchuddid y rhaff yno ond a drain. Am fanylion pellach ynglŷn â’r arfer, gweler Trefor M Owen (1959): Welsh Folk Customs a Rhiannon Ifans (1983): Sêrs a Rybana. O’r Ffrangeg — drwy’r Saesneg — y daeth y gair i’r Gymraeg.

pres

dyallt ‘deall’

Hen ffurf yw dyall, a gofnodwyd gyntaf yn 1346; yn wir, hon yw’r ffurf gynharaf sydd gennym ar y berfenw. Nodwedd led gyffredin yw i t dyfu ar lafar ar ôl rhai seiniau, yn arbennig ar ôl ll ac s; enghreifftiau eraill yw:

bwyall bwyallt
ffals ffalst
tunnell tunnellt

a phelly

Cywasgiad o a pheth felly. Mewn ardaloedd gogleddol eraill clywir y ffurf debyg a ballu.

stalwyn

Benthycair o’r Saesneg stallion a geir yn y Gogledd; march yw gair y De.

eger ‘digywilydd’

O ffurf gynnar ar y Saesneg eager ycafwyd y gair hwn y mae ei ystyr yn amrywio o fan i fan. Rhai o’r ystyron mwyaf cyffredin yw: ‘poenus’, e.e. dyrnod egar (Y Gogledd-orllewin); ‘oer, gerwin’, e.e. diwrnod egar (Y Gogledd-orllewin); ‘awyddus’, e.e. mân nw’n edrych ymlaen yn eger at ych gweld chi (Y Gogledd-ddwyrain); a ‘digywilydd, haerllug’, e.e. sharad yn eger (Cyffredinol yn y De). Deheuwr, mae’n siŵr, a fathodd y term roc ecer, i gyfateb i punk rock y Sais.

fobol

Yn yr ardal hon, fel mewn Ilawer man arall, mae bobol yn cystadlu â pobol yn ffurf gysefin, ddidreiglad; trwy dreiglo bobol y cafwyd fobol. Ceir rhai ffurfiau treigledig eraill fel bont, fegin, fenyw, ferch, ford a gegin yn ymsefydlu’n ffurfiau cysefin yn y tafodieithoedd.

ngwaeshi ‘fy ngwas i’

Ffurfiau eraill yn y Gogledd yw was, wasi, washi.

agos ‘achos’

Ffurf gyffredin yn y tafodieithoedd.
gwatsha ‘gwylia’
bagio ‘sathru ar, sefyll ar’
clangua ‘calangaeaf’
stingodd ‘gwrychoedd, perthi’
Ffurf luosog shetin, gair nodweddiadol o’r Canolbarth a gogledd Ceredigion. Ffurf luosog arall yn yr ardal yw stingie; yng ngogledd Ceredigion y ffurf luosog yw shetynne.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Beryl Jenkins
28 Ionawr 2019, 19:47
Gwych. Nabod Ann Jones - Ann Boncynfydde ni yn ei galw. Atgofion hyfryd. Cofio gneud cwinten ar gyfer priodas.