Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams

Ceri Richards - The Pianist

NMW A(L) 606
Ceri Richards
The Pianist
1949
Pencil, indian ink and watercolour
38.2 x 56.2 cms
On loan from the Derek Williams Trust since 1984
© Estate of Ceri Richards. All rights reserved, DACS
2010

Josef Herman - Three Welsh Miners

NMW A(L) 561
Josef Herman
Three Welsh Miners
About 1966
Oil on canvas
66 x 51 cms
On loan from the Derek Williams Trust since 1984
Copyright of Artist's Estate

Ben Nicholson - (painting)

NMW A(L) 577
Ben Nicholson
1944-45 (Painting)
1944-45
pencil and watercolour on board
17.2 x 16.8 cms
On loan from the Derek Williams Trust since 1984 © Angela Verren Taunt 2010. All rights reserved, DACS.

Derek Mathias Tudor Williams F.R.I.C.S. (1929-1984) yw cymwynaswr mwyaf Amgueddfa Cymru ers Gwendoline a Margaret Davies.

Dyn diymhongar, preifat oedd Derek Williams, a weithiai fel syrfëwr siartredig yng Nghaerdydd a Phontypridd. Mwynhâi lawer o weithgareddau hamdden, gan gynnwys golff, opera, ffotograffiaeth, ond yn fwy na dim, casglu celfyddyd gyfoes oedd yn mynd â’i fryd. Cafodd foddhad aruthrol yn datblygu ei gasgliad a'i arddangos yn ei gartrefi niferus.

Mae'r casgliad yn cynnwys nifer fawr o weithiau gan arlunwyr neo-ramantaidd Prydeinig, gan gynnwys Ceri Richards, John Piper, David Jones a Keith Vaughan. I gefnogi'r rhain, ceir gweithiau gan arlunwyr eraill o'r un cyfnod, megis Lucian Freud, Josef Herman, Ivon Hitchens, Graham Sutherland, Ben Nicholson a Henry Moore.

Bu farw Derek Williams yn 1984, a galwai ei ewyllys am i'w gasgliad a gweddill ei ystâd gael eu cadw mewn ymddiriedolaeth, gan adael i'w ymddiriedolwyr ofalu am y gweithiau celf a'u harddangos yn gyhoeddus, ynghyd â chyfrannu at y gwaith o ehangu'r casgliad. Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Derek Williams gan ei ysgutorion ym 1992, a lluniwyd cytundeb ffurfiol rhyngddynt a'r Amgueddfa yn y flwyddyn ganlynol i gydweithio er mwyn cyflawni dymuniadau Derek Williams.

Ers hynny, bu casgliad yr Ymddiriedolaeth ar fenthyg hirdymor i'r Amgueddfa ac ychwanegwyd dros hanner cant o weithiau gyda mwy'n parhau i gael eu prynu bob blwyddyn. Nifer o luniau gan arlunwyr blaenllaw'r 1970au, 80au a'r 90au, gan gynnwys Michael Craig-Martin, Craigie Aitchison, Sean Scully a Howard Hodgkin yw nifer dda o'r ychwanegiadau newydd.

Caiff casgliad gwreiddiol Derek Williams ei ymestyn a'i gryfhau o hyd drwy brynu gweithiau pwysig gan arlunwyr canol yr ugeinfed ganrif, yn eu plith Ceri Richards, Henry Moore, John Minton ac Edward Burra. Dangoswyd diddordeb mewn celfyddyd gyfoes ryngwladol drwy brynu gweithiau'n gyson gan arlunwyr y gwelir eu gwaith yn Artes Mundi.

Nid yw Ymddiriedolaeth Derek Williams yn anghofio'r celfyddydau cymhwysol ac mae ganddi ddiddordeb byw yn y maes hwn. Prynodd unarddeg o weithiau celfyddyd gymhwysol dros yr un mlynedd ar bymtheg ddiwethaf, a chynorthwyodd yr Amgueddfa i brynu nifer o ddarnau celf, yn enwedig ym maes cerameg. Hefyd, mae gan yr Ymddiriedolaeth ddiddordeb mewn gwaith gan arlunwyr cyfoes Cymreig ac arlunwyr sy'n gweithio yng Nghymru, gan gynnwys prynu gwaith gan enillwyr Medal Aur yr Eisteddfod.

Mae haelioni a chefnogaeth mawr Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi arwain at alluogi yr Amgueddfa i brynu sawl darn o gelfyddyd ôl-1900 i'w chasgliad celfyddyd fodern, yn cynnwys David Hockney, Stanley Spencer a Pablo Picasso.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.