Celc arian Llanfaches

Yn 2006, daeth un o'r casgliadau gorau o geiniogau arian o Brydain Rufeinig yr ail ganrif i'r wyneb ger Llanfaches, Casnewydd.

Darganfuwyd celc o 599 denarii arian wedi'u cuddio mewn llestr coginio a wnaed yn lleol. Maen nhw'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru bellach.

Saif Llanfaches rhwng caer yr ail lynges Awgwstaidd yng Nghaerllion a phencadlys y llwythi lleol, Venta Silurum, yng Nghaerwent.

Mae'r 599 denarii arian, sy'n dangos Ymerawdwyr Rhufeinig fel Hadrian a Nero, yn dyddio'n ôl i OC 160, a chyhoeddwyd eu bod yn drysor ym mis Gorffennaf 2007.

Y Denarius, neu Denarii (lluosog), yw'r darn arian Rhufeinig enwocaf, mwy na thebyg. Dyma'r llythyren 'd' a oedd yn rhan o hen system arian '£-s-d' Prydain. Roedd 1 denarius rywbeth tebyg i gyflog diwrnod ar y pryd, i weithiwr cyffredin (meddyliwch am ddameg y winllan yn y Beibl) neu lengfilwr Rhufeinig. Roedd y denarius, felly, yn ddarn gwerthfawr o arian.

Byddai 600 denarii yn swm aruthrol - tybed faint o amser fyddai hi'n ei gymryd i chi gynilo gwerth dwy flynedd o gyflog gros, tybed?

Cliciwch ar y mân-luniau isod i bori trwy ddetholiad o'r celc arian.

Pegasus

Pennau

Yn wahanol i'n darnau arian ni heddiw - sydd ag un llywodraethwr yn unig arnynt ac ychydig iawn o gynlluniau gwahanol - roedd arian bath ymerodraeth Rhufain yr ail ganrif yn llawn amrywiaeth: mae celc Llanfaches yn cynnwys ceiniogau â llun 12 ymerawdwr gwahanol a phedair o'u gwragedd neu gariadon.

Cynffonnau

Roedd dwsinau o gynlluniau gwahanol ar gefnau'r ceiniogau - a oedd fel cronicl o amcanion, gwerthoedd a llwyddiannau ymerodrol (i'r rhai a oedd yn ddigon brwd neu lythrennog hyd yn oed, i'w deall). Roeddynt yn cynnwys: hanes a chwedloniaeth, yr ymerawdwr a'i orchestion, y fyddin, yr ymerodraeth, duwiau Rhufeinig, ymgnawdoliad o gysyniadau haniaethol, a'r byd naturiol hyd yn oed.

Felly, dyma gyfle i ddod i adnabod y llywodraethwyr Rhufeinig, eu gwragedd a'u cariadon yn well, a deall y negeseuon y tu ôl i rai o'r ceiniogau mwyaf diddorol yn y casgliad.

Y cyd-destun ehangach

Mae'n ymddangos mai arian wedi'i gynilo oedd celc Llanfaches (yn hytrach nag arian nad oedd mewn defnydd ar y pryd) - felly ai rhan o gynilion gorfodol a dewisol ychwanegol milwr Rhufeinig oedden nhw? Neu gynilion yn sgil oes o fasnachu yn nhref gyfagos Caerwent? Beth bynnag oedden nhw, roedd cyflog milwrol yn hollbwysig i wasgaru'r arian bath newydd; mae wyth celc o gyfnod Antoninus Pius (138-61 OC) wedi'u darganfod yma yng Nghymru, a chelc Llanfaches yw'r mwyaf o bell ffordd.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Trefor Price
22 Mawrth 2018, 12:04
Good morning. I am interested in finding out if any Roman coins have ever been found in North Wales. I have searched on line but most seem to be from South Wales or from England. If you know of any could you direct me to a photo of the type of design that may have been used. Thank you for any information you can provide.
Diolch yn Fawr,
Trefor