Darganfod T. Leigh: canfod peintiwr coll

Stephanie Roberts

Gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Concordia, Montreal, mae ymchwilwyr yn Amgueddfa Cymru wedi datgelu gwybodaeth newydd am fywyd a gwaith y peintiwr portreadau anadnabyddus, Thomas Leigh. Credir bellach bod dau beintiwr o'r enw Thomas Leigh — tad a mab — ond gobeithio y gellir darganfod mwy o baentiadau fydd yn gymorth i dynnu'r llen ar ddirgelwch bywyd y teulu hwn o beintwyr.

T. Leigh: yr enigma

Gall gwneud ymchwil i waith peintiwr anadnabyddus o'r 17eg ganrif fod yn dasg anodd. Weithiau, y gwaith a orffennwyd yw'r unig beth ar ôl o fywyd yr artist, ac felly oedd hi gyda Thomas Leigh.

Ym 1941, cyhoeddodd yr hanesydd celf Maurice Brockwell apêl am wybodaeth am y peintiwr 'di-nod' T. Leigh gan nodi; 'It is strange that we still know nothing about his origin, place and date of birth... marriage, and death,'.1

Dim ond trwy ei lofnod y gwyddid am Leigh ar y pryd, a hynny ar chwe phortread gan gynnwys un o Robert Davies o Wysane. Doedd dim sicrwydd beth oedd ei enw cyntaf hyd yn oed.

Mae nifer o bortreadau eraill gan Leigh wedi eu canfod ers hynny, gan ddod a'r cyfanswm i un deg tri.

Fig.1: Thomas Leigh, <em>Robert Davies III o Wysane</em>, 1643, NMW A 20

Fig.1: Thomas Leigh, Robert Davies III o Wysane, 1643, NMW A 20

Fig.2: Thomas Leigh, <em>Anne Davies</em>, 1643, NMW A 21

Fig.2: Thomas Leigh, Anne Davies, 1643, NMW A 21

Rhestr o bortreadau gan Thomas Leigh

    • Robert Davies o Wysane, 1643 (Amgueddfa Cymru, ffig.1)
    • Anne Davies o Wysane, 1643 (Amgueddfa Cymru, ffig.2)
    • Eleanor Mutton (Eyton yn ddiweddarach), 1643 (lleoliad anhysbys)
    • Robert Davies o Wysane, 1643 (casgliad preifat)
    • Anne Davies o Wysane, 1643 (casgliad preifat)
    • Eleanor Mutton, 1643 (casgliad preifat)
    • Margaret Lloyd o Esclus, 1643 (casgliad preifat)
    • Robert Ashley, c.1656 (Llyfrgell Middle Temple, Llundain)
    • Aston Cokayne, c.1635-40 (lleoliad anhysbys)
    • Boneddiges Anhysbys a elwir yn Iarlles Derby, 1634 (lleoliad anhysbys)
    • Thomas Heyton, 1634 (Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Trerice)
    • Isabel Heyton, 1634 (Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Trerice)
    • David, Iarll 1af Barrymore (lleoliad anhysbys)
Fig.3: Artist Prydeinig anhysbys, <em>Y Fonesig Mutton</em>, tua 1640, NMW A 3742

Fig.3: Artist Prydeinig anhysbys, Y Fonesig Mutton, tua 1640, NMW A 3742

Fig.4: Artist Prydeinig anhysbys, <em>Syr Peter Mutton</em>, 17eg ganrif, NMW A 3741

Fig.4: Artist Prydeinig anhysbys, Syr Peter Mutton, 17eg ganrif, NMW A 3741

Fig.5: Artist Prydeinig anhysbys, <em>Llanerch, Sir Ddinbych, Cymru</em>, c. 1667, Canolfan Celf Brydeinig Yale, Casgliad Paul Mellon B1976.7.115

Fig.5: Artist Prydeinig anhysbys, Llanerch, Sir Ddinbych, Cymru, c. 1667, Canolfan Celf Brydeinig Yale, Casgliad Paul Mellon B1976.7.115

Chwilio am beintiwr coll

Er mwyn canfod person 'coll' mae'n rhaid chwilio trwy doreth o ddogfennau a rhestrenni mewn archifau lleol, a gellir canfod pethau hynod.

Mae'r cyfeiriad cynharaf ato yn dangos bod Leigh yn Llundain ym 1613/14, lle cafodd ei wysio i'r llys ddwy waith: y tro cyntaf am ryddhau carcharor, a'r ail dro am ddadlau â chychwr!2 Mae'n debyg iddo adael Llundain am Gaer.

Cafwyd tro yng nghynffon y stori wedi darganfod dogfen yn archifau Caer. Ym 1642 cyflogodd y peintiwr Edward Bellen ddau jermon newydd: Thomas Leigh a'i fab.3 Awgrymai'r dystiolaeth newydd hon bod dau beintiwr o'r enw 'T. Leigh', tad a mab, a'u bod yn gweithio gyda'u gilydd am gyfnod.

Gwr o Gaer?

Yn ogystal â gweithio yn Swydd Gaer, mae'r dystiolaeth yn awgrymu eu bod yn hanu o'r sir yn wreiddiol. Efallai na fyddwn ni byth yn medru eu canfod fodd bynnag, gan fod bron i ugain Thomas Leigh wedi'u cofrestru yno yn y 17eg ganrif — a dyna'r rhai y gwyddon ni amdanynt!

Roedd cymuned fawr o beintwyr yn gweithio yng Nghaer yn y 17eg ganrif. Byddai'r rhan fwyaf yn peintio tai, arfbeisiau a herodrau, ond trodd rhai at bortreadau, gan ateb galw cynyddol gan y dosbarth uwch am botreadau i arddangos yn eu plastai yn y wlad.

Tramorwyr oedd nifer o'r peintwyr portreadau a weithiau ym Mhrydain yn ystod y cyfnod, a thrwy hyn fe gyflwynwyd arddulliau a thechnegau newydd a ddylanwadodd ar beintwyr Prydain. Ganwyd Cornelius Johnson i rieni o'r Iseldiroedd, ac mae'n debyg i'w naturoliaeth dawel ddylanwadu ar Leigh. Mae rhai yn credu iddo dderbyn hyfforddiant ganddo hyd yn oed.4

Portreadau'r teulu Davies

Mae dau bortread gan Thomas Leigh yn yr Amgueddfa — portread o Robert Davies o Wysane, a'i wraig Anne (ffigyrau 1a 2). Peintiwyd y ddau ym 1643 i'w harddangos yn Neuadd Llannerch, cartref rhieni Anne, Syr Peter Mutton a'i wraig (ffigyrau 3-5). Peintiodd Leigh bortread o chwaer Anne Eleanor hefyd, ond mae lleoliad presennol y llun yn anhysbys.

Roedd hi'n arferol i beintwyr gopïo portreadau ar gyfer gwahanol aelodau o'r teulu, ac fe beintiodd Thomas Leigh sawl fersiwn unfath i'w harddangos yn ystâd teulu Davies, Gwysane.

Wyddon ni ddim pam y comisiynodd y teulu Davies y grŵp hwn o bortreadau. Ddegawd ynghynt, priododd Robert ag Anne ‐ oedd yn 12 oed ar y pryd — gan uno ystadau Gwysane a Llannerch.

Allwch chi helpu?

Anaml y byddai peintwyr ar ddechrau'r 17eg ganrif yn llofnodi eu gwaith, ond mae'r Leighs wedi gadael dau lofnod gwahanol. Efallai taw llofnod y tad yw un a llofnod y mab yw'r llall, ond mae'n anodd profi hyn.

Dos dim dwywaith nad oes portreadau eraill gan Thomas Leigh sy'n dal heb eu darganfod. Ydych chi wedi gweld ei lofnod ar bortread sydd heb gael ei restru yma? Efallai taw dyna'r darn jig-so olaf, fydd yn datgelu'r cyfan am ddirgelwch bywyd y teulu hwn o beintwyr!

Llofnod 1

Llofnod 1

Llofnod 2

Llofnod 2

Llyfryddiaeth Bellach

Stephanie Roberts a Robert Tittler, 'Discovering 'T.Leigh': Tracking the elusive portrait painter through Stuart England and Wales', British Art Journal X1:2 (2010/11), tud.24-30

Nodiadau

  1. Maurice Brockwell, 'T.Leigh, Portrait-Painter, 1643', Notes&Queries rhif181 (Awst, 1941), tud.119
  2. 'Sessions, 1613: 28 and 30 June' and 'Sessions, 1614: 5 and 6 May', County of Middlesex. Calendar to the sessions records: new series, cyfrol1: 1612-14 (1935), tud. 117-154 a 400-452;
  3. Chester Archive MS G17/2, Minutes of the Company of Painters, Glaziers, Embroiderers and Stationers of Chester 1620-1836, unpagenated vide 1642
  4. J. D. Milner, 'Two English Portrait Painters', Burlington Magazine 29:165 (Rhagfyr. 1916), tud.374

Cysylltiadau

Prifysgol Concordia, Montreal

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.