Baner Gymreig Capten Scott

Elen Phillips

Y Terra Nova yn gadael Caerdydd ar 15 Mehefin 1910. Mae'r Ddraig Goch yn cyhwfan o'r hwylbren canol, tra bod y Lluman Gwyn yn cyhwfan o'r tryfer canol. Gwelir baner Dinas Caerdydd ar yr hwylbren blaen.

Baner y ddraig Goch a gynhyrchwyd gan Howell & Co ac a gyflwynwyd i Alldaith Capten Scott i Antarctica.

Hysbyseb llawn tudalen ar gyfer James Howell & Co. a welwyd yn rhaglen Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909. Cyhoeddwyd gan y Great Western Railway Co.

Mae nifer o faneri Draig Goch yng nghasgliad tecstilau Amgueddfa Cymru. Roedd y mwyafrif yn cyhwfan yn wreiddiol uwchlaw adeiladau dinesig ac mae un wedi cael ei hedfan yn y gofod hyd yn oed! Mae cysylltiad rhwng yr esiampl fwyaf a hynaf yn y casgliad â thaith feiddgar arall — Alldaith Antarctig Brydeinig Capten Robert Falcon Scott 1910–13.

Dangoswyd y faner hon mewn cinio ffarwel a gynhaliwyd er anrhydedd i Capten Scott a'i swyddogion yng Nghaerdydd ar 13 Mehefin 1910, ac a hedfanodd ar fwrdd y Terra Nova wrth i'r llong hwylio o Gaerdydd ac ar ei dychweliad ym 1913.

Ar ddydd Gŵyl Dewi 1911 a 1912, codwyd y faner uwchlaw caban pencadlys Scott yn yr Antarctig.

Mae wedi'i gwneud o ddefnydd gwlanen garw gyda selfeisiau ar yr ymylon uchaf ac isaf ac yn mesur 3.45m x 1.83m. Torrwyd y motiff draig o ddefnydd gwahanol a'i wnio â pheiriant i'r ffabrig cefndir gwyrdd a gwyn. Mae manylion — fel y crafangau, y tafod a'r llygaid — wedi'u paentio arni â phaent du gwyn.

James Howell & Co. o Gaerdydd

Wyddon ni ddim pwy bwythodd neu liwiodd y faner, ond rydyn ni'n gwybod taw cwmni James Howell & Co yng Nghaerdydd a'i cynhyrchodd, yn yr adran wisgoedd mwy na thebyg.

Cyhoeddwyd mewn cinio a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 1909 er anrhydedd i'r Is-gapten E. R. G. R. Evans, aelod o alldaith Scott, bod Howell wedi cynnig cynhyrchu baner Draig Goch fawr iddo ei chludo i Begwn y De. Roedd Evans wedi rhoi'r gorau i drefnu Alldaith Antarctig Gymreig ei hun ac wedi ymuno â Scott fel ei ddirprwy.

Bu Evans yn hynod ddylanwadol yn hyrwyddo a chasglu nawdd i'r alldaith, a hynny'n bennaf drwy olygydd y Western Mail, Willie Davies — gwraig Davies gafodd y syniad o gyflwyno baner Cymru i'r alldaith.

Caerdydd yn 'un o ddinasoedd mwyaf mentrus yr Ymerodraeth'

Estynnodd trigolion Caerdydd groeso cynnes i'r Alldaith Antarctig Brydeinig — mwy nag unrhyw ardal arall o bosibl. Wedi ennill statws dinas ym 1905, roedd arweinwyr dinesig Caerdydd wrthi'n ceisio ei hailfrandio. Yng ngeiriau Clerc y Dref, J. L. Wheatley, roeddent am hyrwyddo Caerdydd 'fel un o ddinasoedd mwyaf mentrus yr Ymerodraeth'.

Roedd cael ei chysylltu'n agos â mordaith Scott i Antarctica — un o'r cyffindiroedd mawr olaf — yn brawf o'r hyder dinesig newydd hwn.

Un o ffigurau blaenllaw cymuned fusnes Caerdydd oedd James Howell. Sefydlwyd ei siop adrannol, James Howell & Co, ym 1865 fel siop ddillad fechan ar Yr Aes ac erbyn dechrau'r ganrif roedd yn un o'r mwyaf o'i bath yng Nghymru. Does dim syndod fod James Howell yn teimlo cymhelliad i gyfrannu at fenter Scott mewn rhyw fodd ac yntau â hanes o 'noddi' digwyddiadau dinesig yng Nghaerdydd. Yn nechrau 1909, darparodd un o'i adeiladau ar Stryd Wharton i Basiant Cenedlaethol Cymru yn rhad ac am ddim.

Cerdyn post i goffau Pasiant Cenedlaethol Cymru, 1909

Ardalyddes Biwt fel 'Dame Wales' ym Mhasiant Cenedlaethol Cymru, Gorffennaf 1909.

Yn haf 1914, cynhaliodd yr Amgueddfa arddangosfa dros dro o luniau dyfrlliw a brasluniau Edward Wilson o'r Antarctig. Wilson oedd Prif Wydonydd yr alldaith a bu farw gydag ef ar y daith yn ôl o Begwn y De ym 1912. Cynhaliwyd yr arddangosfa yn Neuadd y Ddinas gan fod adeilad yr Amgueddfa heb ei gwblhau ar y pryd.

Pasiant Cenedlaethol Cymru

I bob pwrpas, cyfle i fawrion cymdeithas ail-greu golygfeydd o hanes arwrol Cymru oedd y Pasiant Cenedlaethol. Roedd angen 40,000 o wisgoedd ar drefnwyr y pasiant a cyflogwyd tîm o 800 o fenywod. Sefydlodd y menywod gweithdy yn Stryd Wharton am chwe mis. Fel un o noddwyr y Pasiant byddai Howell hefyd wedi darparu gwneuthurwyr gwisgoedd proffesiynol o'i weithlu ei hun. Yn wir, mae gwisg eiconig 'Dame Wales' o olygfa agoriadol y Pasiant ar 16 Gorffennaf 1909 wedi ei chreu mewn modd tebyg iawn i faner y Terra Nova. Mae gan y ddwy addurn gosod ar lun motiff draig goch, mewn dyluniad naïf. Gyda'r ddwy wedi'u creu ychydig fisoedd ar wahân yn un o weithdai James Howell & Co, ai'r un dwylo a'u pwythodd ys gwn i?

Draig Goch y 1890au

Mae'r ddraig ar faner y Terra Nova yn amlwg yn wahanol i'r faner bresennol. Mae'n fwy talsyth, dragon segreant yn hytrach na dragon passant. Roedd yr arddull hwn yn gyffredin yn y 1890au a dechrau'r 1900au a gellir ei weld, mewn ffurfiau amrywiol, ar gadeiriau eisteddfodol y cyfnod a llu o arwyddluniau cenedlaethol eraill. Mae'n siŵr taw o ffynonellau tebyg y gweithiodd gwneuthurwyr dillad Howell wrth greu draig y Terra Nova.

Safoni Baner Cymru

Ym 1910, ysgrifennodd yr Eisteddfod Genedlaethol at yr Amgueddfa yn gofyn am gymorth gyda ffurf y ddraig: 'Rydym yn awyddus i gael ffurf y ddyfais mor gywir a phosibl'. Cawsant ateb gan guradur: 'Gresynaf nad oes gennym sbesimen dilys o'r anifail yn yr Amgueddfa Genedlaethol'. Trosglwyddwyd y llythyr i Mr Thomas Henry Thomas, awdurdod cydnabyddedig ar faterion o'r fath, a fu wrthi ers blynyddoedd yn ceisio cysoni ffurf y ddraig Gymreig. Mae ei frasluniau a'i bapurau bellach wedi eu cadw yn yr Amgueddfa.

Torri'r faner yn gofroddion

Pan ddychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ym Mehefin 1913, gyda'r ddraig goch yn cyhwfan o'r mast, nododd y Western Mail ei bod 'dipyn yn llai na pan y codwyd hi am y tro cyntaf dair mlynedd yn ôl. Tra bod y Terra Nova wedi'i hangori yn Lyttleton, Seland Newydd, rhoddwyd caniatâd i gynrychiolwyr y cymdeithasau Cymreig yno i dorri darnau o'r faner a'u cadw fel cofroddion o'r alldaith.'

Mewn cinio yn y Royal Hotel ar 16 Mehefin 1913 i ddathlu dychweliad yr alldaith i Gaerdydd, cyhoeddodd Teddy Evans y byddai'r faner yn cael ei rhoi i'r Eisteddfod Genedlaethol. Yn dilyn y dathlu fodd bynnag, doedd neb yn siŵr iawn beth wnaeth Evans â'r faner. Roedd yn credu ei fod wedi ei rhoi i'r Arglwydd Faer, ond cafodd ei chanfod yn y Royal Hotel bedwar mis yn ddiweddarach!

Geirfa

Dragon passant

Yn wynebu ac yn cerdded i ochr chwith y gwyliwr gydag un goes flaen wedi'i chodi

Dragon segreant

Yn sefyll ar ei throed

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.