Darganfod Môr Grwban Ffosil pwysig fu ar goll ers 150 o flynyddoedd

Cindy Howells

Ffotograff o Chaning Pearce [(c) Bristol City Museum & Art Gallery]

Ffotograff o Chaning Pearce [(c) Bristol City Museum & Art Gallery]

Y môr-grwban yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd � dim ond yn ddiweddar y datgelwyd ei wir bwysigrwydd

Y môr-grwban yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – dim ond yn ddiweddar y datgelwyd ei wir bwysigrwydd

Syr Richard Owen – un o sylfaenwyr yr Amgueddfa Hanes Natur Genedlaethol, Llundain a bathwr y gair 'deinosoriaid'

Syr Richard Owen – un o sylfaenwyr yr Amgueddfa Hanes Natur Genedlaethol, Llundain a bathwr y gair 'deinosoriaid'

Ym 1842 dyma'r naturiaethwr a'r palaeontolegydd enwog Syr Richard Owen yn disgrifio pedwar sbesimen crwban ffosil newydd ddaeth o Galchfaen Purbeck (Cyfnod Cretasaidd Is) Dorset. Cadwyd un o'r rhain yn Amgueddfa Hanes Natur Genedlaethol Llundain ers ei ganfod, ond roedd y tri arall mewn casgliadau preifat. Wedi 1842 dyma'r tri i bob pwrpas yn diflannu am 150 o flynyddoedd!

Daeth y Dr Andrew Milner o hyd i un o'r tri yn yr Amgueddfa Hanes Natur Genedlaethol rai blynyddoedd yn ôl tra'n astudio crwbanod môr ac ymlusgiaid eraill, ond roedd lleoliad y ddau arall yn ddirgelwch o hyd. Wedi ymchwil pellach, arweiniwyd Milner at Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a cafwyd cadarnhad bod môr grwban ffosil yn y casgliadau yn un o sbesimenau coll Owen.

Enw gwreiddiol y môr grwban ffosil hwn oedd  Chelone obovata, a'r perchennog oedd Joseph Chaning Pearce (1811-1847), fu'n ddoctor yng Nghaerfaddon cyn marw'n ifanc yn 37 oed. Adeiladodd un o'r casgliadau ffosil preifat mwyaf y tu hwnt i Lundain gan droi rhan o'i dŷ yn amgueddfa breifat. Wedi ei farwolaeth, cadwodd ei deulu'r amgueddfa fechan tan 1886, pan symudasant i Swydd Gaint. Chlywyd dim am y casgliad tan 1915, pan y prynwyd y rhan fwyaf ohono gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Bryste, ynghyd â'r catalog gwreiddiol.

Dyma Dr Milner yn chwilio casgliadau Amgueddfa Bryste ond doedd dim golwg o sbesimen Chaning Pierce, a cymrwyd yn ganiataol iddo gael ei ddinistrio ym 1940 pan laniodd bomiau tân ar neuadd arddangos yr Amgueddfa. Yn 2008 fodd bynnag, daeth o hyd i'r catalog llawysgrifen gwreiddiol, ac mae cofnod ar dudalen 32 – Fossil no.12 Chelone obovata – gyda nodyn mewn pensil – Sent to Cardiff Museum, 3rd March 1933.

Cysylltodd Dr Milner ag Adran Daeareg Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lle gwelwyd bod sbesimen cragen môr grwban Purbeck wedi cael ei gofrestru ym 1933, ond nid oedd gennym lawer o wybodaeth amdano. Mae'r sbesimen yn cael ei arddangos yn arddangosfa Esblygiad Cymru er 1993 ac wedi ei gadw'n dda iawn ac yn eithaf cyflawn.

Mae disgrifiad gwreiddiol Richard Owen ym 1842 yn galw'r môr grwban yn deipsbesimen y rhywogaeth Chelone obovata – sef y sbesimen y dylid cymharu pob esiampl arall ag ef.

Er nad oedd yno ddarluniau, roedd ei ddisgrifiad yn fanwl ac yn gywir iawn. Mae'r disgrifiad hwn yn cyfateb yn union i sbesimen Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a dyma'n bendant yr un sbesimen.

Dangosodd gwaith ymchwil diweddar bod y môr grwban bellach yn rhan o genws Hylaeochelys a rhywogaeth latiscutata. Mae'r sbesimen hwn o ddiddordeb hanesyddol sylweddol gan iddo gael ei gasglu cyn 1840 a gan taw Syr Richard Owen a'i disgrifiodd – y gŵr a fathodd y gair 'deinosor'.

Cyhoeddwyd manylion y darganfyddiad yn Morphology and Evolution in Turtles, dan olygyddiaeth D. B. Brinkman et al., yn y gyfres - Vertebrate Paleobiology and Paleoanthropology.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.