Commander Evans returns the flag to Scoutmaster T.W. Harvey on board the <em>Terra Nova</em> on 17 June 1913.
Commander Evans returns the flag to Scoutmaster T.W. Harvey on board the Terra Nova on 17 June 1913.
The flag being retrieved from the rubble of the scout hall in Wyverne Road, Cathays, Cardiff after the German bombing raid of 30 April 1941
The flag being retrieved from the rubble of the scout hall in Wyverne Road, Cathays, Cardiff after the German bombing raid of 30 April 1941

Pan ddychwelodd y Terra Nova, llong alldaith Antarctig Capten Scott, i borthladd Caerdydd ar 14 Mehefin 1913, roedd sawl baner yn chwifio arni. Yn ogystal â Lluman Wen ar ei starn, y ddraig goch ar y prif hwylbren ac arfbais Dinas Caerdydd ar yr hwylbren blaen, roedd baner arall tipyn llai hefyd yn cyhwfan ar flaen y llong. Baner fach werdd 4ydd Trŵp Sgowtiaid Caerdydd oedd hi, a aeth i'r Antarctig ac yn ôl.

Sefydlwyd 4ydd Trŵp Sgowtiaid (St Andrew) Caerdydd yn ardal Cathays yng Nghaerdydd ym mis Hydref 1908, prin bum mis wedi i sylfaenydd y mudiad Robert Baden-Powell gyhoeddi Scouting for boys. Er gwaetha'i deitl, dyma'r trŵp sgowtiaid cyntaf i'w sefydlu yng Nghymru.

Ym mis Mawrth 1910, archebodd eu harweinydd, T. W. Harvey, faner gan bencadlys y sgowtiaid yn Llundain, er mwyn ei chyflwyno i Scott ar gyfer ei alldaith arfaethedig i Begwn y De. Talodd chwe swllt amdani, a thair ceiniog i'w phostio, ac ar yr anfoneb a bostiwyd gyda'r taliad drwy archeb bost, ysgrifennodd "Urgent. For Captain Scott Terra Nova for South Pole" .

Cyflwynwyd y faner i'r alldaith ym mis Mehefin 1910, pan oedd y Terra Nova yng Nghaerdydd i lwytho glo a chyflenwadau eraill yn barod ar gyfer y fordaith fawr i'r Antarctig ar 15 Mehefin. Roedd yn un o sawl baner a gyflwynwyd i'r alldaith yng Nghaerdydd gyda chais i'w cludo i Begwn y De. Mae'n sicr i'r baneri gyrraedd caban cychwynnol yr alldaith yn Cape Evans, McMurdo Sound ym môr Ross, ond go brin yr aeth Scott â nhw bob cam i Begwn y De ei hun.

Ffurfiodd 4ydd sgowtiaid Caerdydd osgordd er anrhydedd ar ochr y cei yn Noc y Rhath pan ddychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ddydd Sadwrn 14 Mehefin 1913. Dridiau'n ddiweddarach, ar 17 Mehefin, ymgasglodd tua hanner cant o'r trŵp ar fwrdd y Terra Nova i wylio'r Comander Teddy Evans – a gymerodd yr awenau ar ôl i Scott farw – yn cyflwyno eu baner yn ôl i'w harweinydd T. W. Harvey. Wrth annerch y bechgyn, dywedodd Evans, "Well, boys, here's your flag, and I hope you will treasure it. It has been a long way. If you become such good soldiers as Captain Oates, you will be good men."

Ar ôl i'r faner ddychwelyd i ddwylo'r sgowtiaid, cafodd ei fframio a'i harddangos yn neuadd y sgowtiaid yn Wyverne Road Caerdydd tan 30 Ebrill 1941, pan gafodd yr adeilad ei ddinistrio gan ffrwydryn tir Almaenig a ollyngwyd yn ystod cyrch awyr. Wrth chwilio a chwalu drwy'r adfeilion wedyn, cafodd pawb gryn syndod o weld y faner yn un darn a ddim gwaeth. Nid dyna ddiwedd anturiaethau'r faner, fodd bynnag. Cafodd ei harddangos yn y cwt newydd, a losgodd i'r llawr maes o law, cyn symud i adeilad newydd arall yn Cathays a ddifrodwyd gan ddŵr ar ôl i'r peipiau fyrstio. Goroesi fu hanes y faner unwaith eto.

Bellach yn rhan o gasgliad tecstilau Amgueddfa Cymru, mae baner 4ydd trŵp sgowtiaid Caerdydd (St Andrew) wedi ailymuno â dwy faner arall oedd yn cyhwfan ar y Terra Nova pan ddychwelodd i Gaerdydd – y Lluman Wen a'r Ddraig Goch.

The flag of the 4th Cardiff Scout Troop
The flag of the 4th Cardiff Scout Troop

Boy Scouts Be Prepared

Mae'r faner wedi'i gwneud o ddau ddarn o frethyn gwlanog gwyrdd garw, gwehyddiad plaen, wedi'i gwnïo â pheiriant drwy'r canol gyda phwythau dwbl ag edau gotwm ddu. Mae'r ochrau wedi'u troi tu chwith a'u gwnïo â pheiriant gyda'r un edau ddu. Ar ganol y faner mae motiff fleur-de-lis melyn y Sgowtiaid wedi'i amlinellu â phaent brown a du. Mae'r brethyn gwyrdd wedi'i randorri a'r ymylon wedi'u troi am i mewn, gyda'r motiff wedi'i osod ar y tu blaen, a'r ymylon wedi'u plygu oddi tano a'u gwnïo â pheiriant gyda phwythau dwbl. Mae'r dechneg hon yn golygu bod modd gweld y motiff o'r ddwy ochr wrth chwifio'r faner, er mai dim ond o'r tu blaen y gellir gweld yr ysgrifen. O dan y fleur-de-lis, mae sgrôl, eto mewn gwlân melyn, â'r arwyddair BOY SCOUTS BE PREPARED wedi'i beintio mewn priflythrennau du. Mae enw'r trŵp wedi'i beintio'n wyn yn y gornel chwith isaf. Mae'n mesur 92.5 cm x 115cm, sy'n golygu mai dyma'r faner leiaf o blith baneri'r Terra Nova sydd yng nghasgliad yr Amgueddfa.

Mae ymyl y faner, a fyddai wedi bod yn nannedd y gwynt, wedi treulio cryn dipyn. Mae difrod fel hyn yn gyffredin ar faneri. Mae rhywfaint o farciau duon ar y tu blaen hefyd, ac er na wyddom yn union beth ydyw, mae'n debyg iawn i'r marciau sydd ar y ddwy faner arall o gasgliad y Terra Nova. Mae olion rhwd bach, tyllau pinnau a phwythau tacio hir yn awgrymu ei bod wedi'i harddangos ar fwrdd caled mewn ffrâm ar un adeg. Mae cryn dipyn o ddifrod golau ar y tu blaen hefyd. Yn anffodus, does dim modd gwrthwneud hyn, ond bydd deunyddiau ar gyfer cadwraeth yn helpu i gynnal strwythur ffisegol y faner.

Mae olion colli lliw, rhwygo a staenio yn ein helpu i ddeall sut cafodd y faner ei defnyddio, ei storio a'i harddangos yn ystod 103 o flynyddoedd o hanes. Ein nod yw diogelu cymaint ag sy'n bosib o wybodaeth am orffennol y faner.

Gadael sylw