John Stuart, 3ydd Iarll Bute (1713-1792): Bute's Botanical Tables

Heather Pardoe

Llun o'r Trydydd Iarll Bute

Llun o'r Trydydd Iarll Bute (atgynhyrchwyd o Temple of Flora (1807) gan Robert Thornton).

Copi <em>Botanical Tables</em> yr Amgueddfa.

Copi Botanical Tables yr Amgueddfa.

Yn 2013 rydym yn dathlu trichanmlwyddiant geni'r Trydydd Iarll Bute, ffigwr pwerus ym Mhrydain y ddeunawfed ganrif a oedd yn enwog fel gwleidydd ac fel botanegydd. Un o'i gyfraniadau mwyaf i fotaneg oedd llyfr o'r enw Botanical Tables. Mae Amgueddfa Cymru yn ffodus i berchen ar set gyflawn o'r gwaith prin a chywrain hwn.

Roedd John Stuart, 3ydd Iarll Bute (1713-1792), yn gyfaill mynwesol i Siôr III. Er yn gyndyn i wneud, aeth Bute yn wleidydd yn gynnar yn ei yrfa, a hynny yn dilyn anogaeth gan ei ffrind brenhinol. Ym mis Mai 1762, fe'i hetholwyd yn Brif Weinidog. Er hyn, profodd Bute yn arweinydd amhoblogaidd ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Mae'n rhaid ei fod wedi teimlo rhyddhad i encilio o fywyd cyhoeddus i'w dŷ yn Highcliffe, Hampshire, gan ymroi i'w ddiddordeb mewn botaneg yn ei lyfrgell fotanegol anferth.

System dacsonomaidd newydd Carl Linnaeus

Bu Bute yn gweithio ar lawer o gyhoeddiadau botanegol a bu'r tacsonomydd enwog o Sweden, Carl Linnaeus, yn ddylanwad mawr arno. Cyhoeddiad enwocaf Bute oedd Botanical Tables. Ei deitl llawn oedd; Botanical Tables containing the different familys of British Plants distinguished by a few obvious parts of Fructification rang'd in a Synoptical method. Cyhoeddwyd y tablau ym 1785 a'r bwriad oedd esbonio egwyddorion system dacsonomaidd newydd a dadleuol Linnaeus.

Roedd mwyafrif y darluniau yn y Botanical Tables gan yr arlunydd John Miller (1715-1790). Roedd yn dasg anferth, yn cynnwys dros 600 o ddarluniau o'r organau rhywiol wedi'u rhifo yn unol â system Linnaeus. Mae 9 cyfrol ym mhob set o dablau ac maent yn sôn am yr holl blanhigion sydd ym Mhrydain – gan gynnwys mwsoglau, glaswelltau, blodau a choed, ynghyd â chen, ffwng a gwymon – ac mae'n cynnwys darluniau manwl o bob planhigyn a restrwyd.

Argraffwyd deuddeg set o'r Botanical Tables gan yr Arglwydd Bute a thalodd £1,000 amdanynt o'i boced ei hun. Rhwymwyd y mwyafrif ohonynt mewn lledr croen llo gydag arfbais y teulu Bute yn y canol. Cafodd dwy set eu paratoi yn arbennig ar gyfer y teulu brenhinol a'u rhwymo mewn croen gafr coch gydag aur ar ymyl y tudalennau ond heb arfbais Bute.

Botaneg fel difyrrwch ffasiynol

Roedd Bute yn awyddus iawn i esbonio'r system dacsonomeg i fenywod, oherwydd teimlai fod y "rhan hyfryd hon o natur" yn addas ar gyfer y "rhyw deg"; gyda'u nawdd hwy, byddai botaneg yn dod yn ddifyrrwch ffasiynol ymhen dim o dro. Anrhydeddodd y dymuniad hwn gan gyflwyno saith cyfrol o'r Botanical Tables i fenywod:

  • Y Frenhines Charlotte (gwraig Brenin Siôr III)
  • Catherine II (Ymerodres Rwsia)
  • Duges Portland
  • Mrs Jane Barrington
  • Y Foneddiges Elizabeth (Betty) Mackenzie
  • Y Foneddiges Anne Ruthven
  • Y Foneddiges Jane Macartney.

Roedd y tair olaf yn perthyn iddo. Cadwodd Bute ddwy gyfrol ac anfonodd un gyfrol yr un at y botanegydd blaenllaw o Brydain a ddaeth yn Gadeirydd y Gymdeithas Frenhinol, Joseph Banks (1743-1829), y botanegydd blaenllaw o Ffrainc, George Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788) a chyfaill i Bute, Louis Dutens (1730-1812).

Mae casgliad Amgueddfa Cymru yn cynnwys darluniau a thablau rhydd a ystyrir yn frasluniau neu'n ddeunydd a oedd yn cael ei baratoi i'w gyhoeddi maes o law. Er hyn, ym 1994, prynodd yr Amgueddfa gopi cyflawn o'r Botanical Tables mewn arwerthiant llyfrau pwysig iawn o lyfrgell Beriah Botfield yn Christie's.

Wrth geisio darganfod pa rai o'r 12 set wreiddiol sydd ym meddiant yr Amgueddfa, mae ein hymchwilwyr wedi llwyddo i olrhain 10 ohonynt, ac mae modd cysylltu 7 o'r rheiny â'r sawl a'u derbyniodd yn wreiddiol.

Efallai, rhyw ddydd, y bydd rhywun yn dod o hyd i'r ddau sy'n weddill ar silff lychlyd mewn hen lyfrgell. Byddwn wedyn yn gwybod i sicrwydd lle mae pob copi.

Derbyniodd

Y sawl a dderbyniodd gopi o'r Botanical Tables:

  1. Y Frenhines Charlotte (gwraig Brenin Siôr III) [copi croen gafr coch wedi'i rwymo]
  2. Catherine II (Ymerodres Rwsia) [copi croen gafr coch wedi'i rwymo]
  3. Duges Portland
  4. Mrs Jane Barrington
  5. Y Foneddiges Elizabeth (Betty) Mackenzie, aelod o'r teulu
  6. Y Foneddiges Anne Ruthven, aelod o'r teulu
  7. Y Foneddiges Jane Macartney, aelod o'r teulu
  8. Syr Joseph Banks (1743-1829)
  9. George Louis Leclerc, Comte de Buffon (1707-1788)
  10. Louis Dutens (1730-1812)
  11. Cadwyd gan Drydydd Iarll Bute
  12. Cadwyd gan Drydydd Iarll Bute

Cyfeiriadau

Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. (gol) 2003. Catalogue of Botanical Prints and Drawings held by the National Museums & Galleries of Wales. Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, tud. 319.

Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. 2009. Bute's Botanical tables: dictated by Nature. Archives of natural history 36 (2): 277–298.

Lazarus, M. H. & Pardoe, H. S. (paratoi ar gyfer) Bute's Botanical Tables (1785). Luton Hoo. Cyhoeddiad Arbennig i ddathlu'r Trichanmlwyddiant.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.