John Dillwyn Llewelyn — Arloeswr Ffotograffiaeth Cymru

Mark Etheridge

Ffotograffau Casgliad John Dillwyn Llewelyn yn Amgueddfa Cymru yw rhai o’r cynharaf a dynnwyd yng Nghymru erioed. Yn ogystal ag oddeutu 850 o brintiau ffotograffig (y rhan fwyaf ar bapur halen), mae yn y casgliad 230 negatif papur Caloteip, 160 negatif gwydr Colodion a rhai dogfennau ac offer ffotograffig. Mae yn y casgliad hefyd negatifau a phrintiau a dynnwyd gan y teulu Llewelyn a nifer o brintiau gan ffotograffwyr eraill a gasglwyd gan y teulu (gan gynnwys Calvert Richard Jones a Roger Fenton).

Gallwch weld yr holl luniau a negyddion o gasgliad John Dillwyn Llewelyn ar gatalog Casgliadau Arlein Amgueddfa Cymru.

John Dillwyn Llewelyn (1810 – 1882)

Ganwyd John Dillwyn Llewelyn yn The Willows, Abertawe ar 12 Ionawr 1810. Roedd y teulu yn byw bedair milltir i’r gogledd ar ystâd Penllergare ers 1817, a phan ddaeth i oed etifeddodd John yr ystâd o’i dad-cu ar ochr ei Fam a chymryd Llewelyn yn gyfenw ychwanegol. Ar yr ystâd yn y 1850au y tynnwyd nifer o’r ffotograffau yn y casgliad hwn.

Ar 18 Mehefin 1833 priododd John ag Emma Thomasina Talbot, merch ieuengaf Thomas Mansel Talbot o Margam a Penrice. Mae hyn yn nodedig gan taw cefnder cyntaf Emma oedd y ffotograffydd arloesol William Henry Fox Talbot – dyfeisiwr y broses negatif a fu, ym 1839, mewn cystadleuaeth â’r Ffrancwr Daguerre.

Bu farw ar 24 Awst 1882 yn ei gartref yn Llundain, Atherton Grange, ac mae wedi’i gladdu gyda’i wraig Emma ym Mhenllergare.

Negatif gwydr colodion o John Dillwyn Llewelyn, tua 1853

Negatif gwydr colodion o John Dillwyn Llewelyn, tua 1853

Negatif gwydr colodion yn dangos Tŷ Penllergare o’r de, 1858

Negatif gwydr colodion yn dangos Tŷ Penllergare o’r de, 1858

Gwyddonydd, Botanegydd a Seryddwr

Roedd ei deulu yn gyfoethog dros ben gyda’i dad, Lewis Weston Dillwyn, yn berchennog gweithfeydd Crochenwaith Cambrian yn Abertawe. Gallai John felly ganolbwyntio ar ei ddiddordeb ym maes gwyddoniaeth, botaneg a seryddiaeth heb boeni am ennill bywoliaeth.

Roedd yn wyddonydd amatur medrus ac yn aelod o Sefydliad Brenhinol De Cymru. Ar dir yr ystâd ym Mhenllergare fe adeiladodd arsyllfa (sy’n dal i sefyll heddiw) a tÅ· tegeirian.

Print papur halen yn dangos fâs rosynnau yn y cyntedd yn Nhŷ Penllergare, 1850au

Print papur halen yn dangos fâs rosynnau yn y cyntedd yn Nhŷ Penllergare, 1850au

Negatif papur caloteip o’r arsyllfa ym Mhenllergare, 1850au

Negatif papur caloteip o’r arsyllfa ym Mhenllergare, 1850au

Ffotograffydd Arloesol

Gyda’i ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth a chysylltiad teulu ei wraig â Fox Talbot, mae’n hawdd gweld sut y denwyd John at ffotograffiaeth o ddyddiau cyntaf y cyfrwng ym 1839. Prin oedd ei lwyddiant yn y dyddiau cynnar, gyda thechneg Talbot neu Daguerre. Aeth rhai o’r trafferthion technegol yn drech nag ef a trodd ei gefn ar ffotograffiaeth tan ddechrau’r 1850au. O’r ddegawd hon y daw mwyafrif casgliad Amgueddfa Cymru.

Fel un o sylfaenwyr Cymdeithas Ffotograffig Llundain (y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn ddiweddarach) mynychodd y cyfarfod cyntaf ym 1853. Dangosodd ei waith yn rheolaidd yn arddangosfeydd cynnar y Gymdeithas ac hefyd yn Dundee, arddangosfa Trysorau Celf Manceinion ac arddangosfa Paris 1855.

Roedd gan John ddawn o ddal ennyd mewn amser – tonnau, symud cymylau a stêm. Yn arddangosfa Paris ym 1855 dyfarnwyd medal arian iddo am gyfres o bedwar delwedd dan y teitl Motion: tonnau’n torri ym Mae Caswell; llong hwylio ar arfordir Caswell; y llong stêm JUNO yn chwythu stêm yn Nimbych y Pysgod; cymylau uwchlaw Ynys Catrin, Dinbych y Pysgod.

Negatif gwydr colodion o’r gyfres <em>Motion</em> yn dangos y llong stêm JUNO yn Nimbych y Pysgod, tua 1855

Negatif gwydr colodion o’r gyfres Motion yn dangos y llong stêm JUNO yn Nimbych y Pysgod, tua 1855

Negatif gwydr colodion yn dangos John gyda’i gamera caloteip ym 1853

Negatif gwydr colodion yn dangos John gyda’i gamera caloteip ym 1853

Tynnwyd y ffotograff hwn gan ddefnyddio’r broses Oxymel. Cafodd ei dynnu ar 15 Mawrth 1858 am 1pm, gyda’r plât wedi’i ddatguddio am 15 munud. Golygfa o Abertawe o St. Thomas, gyda llongau hwylio yn y cefndir.

Tynnwyd y ffotograff hwn gan ddefnyddio’r broses Oxymel. Cafodd ei dynnu ar 15 Mawrth 1858 am 1pm, gyda’r plât wedi’i ddatguddio am 15 munud. Golygfa o Abertawe o St. Thomas, gyda llongau hwylio yn y cefndir.

Dyfeisio’r Broses Oxymel

Ym 1856 dyfeisiodd y broses Oxymel, datblygiad o’r broses colodion oedd yn defnyddio toddiant asid asetig, dŵr a mêl i sefydlogi delweddau. Mantais hyn oedd y gallai negatif gwydr gael ei baratoi ymlaen llaw a’i ddatguddio yn y camera yn ôl y galw. Wedi hyn, doedd ffotograffwyr tirlun ddim yn gorfod cario labordai bychan a phabelli tywyll gyda nhw i bobman. Ym 1856 esboniodd yr Illustrated London News

“...y gallai’r platiau gael eu paratoi adref a’u cludo fesul bocs, a meddyliwch am hyn dwristiaid, wrth i chi deithio a tharo ar olygfa wych nid oes ond ffrwyno’r ceffylau, tynnu eich camera, ac mewn mater o funudau gellir cynhyrchu llun, gan law Natur ei hun, fyddai wedi cymryd oriau i’w fraslunio â llaw.”
Print papur halen yn dangos John gyda’r holl gyfarpar i greu negatif colodion

Print papur halen yn dangos John gyda’r holl gyfarpar i greu negatif colodion

Y ffotograff cyntaf o ddyn eira yng Nghymru? Tynnwyd y ffotograff oddeutu 1853/54 mwy na thebyg gan Mary Dillwyn neu Thereza Llewelyn.

Y ffotograff cyntaf o ddyn eira yng Nghymru? Tynnwyd y ffotograff oddeutu 1853/54 mwy na thebyg gan Mary Dillwyn neu Thereza Llewelyn.

Y Teulu Llewelyn

Cafodd John ac Emma saith o blant ond bu farw un pan yn blentyn. Mae’n debyg bod gan nifer o aelodau’r teulu ddiddordeb mewn ffotograffiaeth. Gwaith ei ferch Thereza yw nifer o’r ffotograffau yn y casgliad, ac rydyn ni’n gwybod i Thereza a’i Mam helpu i brintio rhai o’i ffotograffau. Roedd ei chwaer ieuengaf, Mary Dillwyn, hefyd yn amlwg yn y maes a caiff ei chyfri fel ffotograffydd benywaidd cyntaf Cymru.

Ffotograff yn dangos y plant Llewelyn yn cael picnic ar y Goppa ger Abertawe ym 1855. Un o gyfres o ffotograffau o’r plant a dynnwyd gan John ar 23 Medi bob blwyddyn – pen-blwydd ei wraig.

Ffotograff yn dangos y plant Llewelyn yn cael picnic ar y Goppa ger Abertawe ym 1855. Un o gyfres o ffotograffau o’r plant a dynnwyd gan John ar 23 Medi bob blwyddyn – pen-blwydd ei wraig.

Casgliad Ffotograffiaeth Hanesyddol

Darllen Pellach

Penllergare A Victoria Paradise gan Richard Morris, 1999.

The Photographer of Penllergare A Life of John Dillwyn Llewelyn 1810-1882 gan Noel Chanan, 2013.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Malcolm J. Hill CH,E F,I.C.E (resident of Penllergaer for 66 years )
16 Ebrill 2020, 18:15
Brilliant synopsis to send to my daughter in Sydney, Australia who was born in Penllergaer.