I’r daearegwr, mae mapiau daearegol yn offer hanfodol. Maent yn dangos sut mae gwahanol fathau o greigiau’n cael eu dosbarthu ac i ba oes y maent yn perthyn. Dyma’r cam cyntaf wrth geisio deall daeareg lle, a’r allwedd wrth chwilio am ddeunyddiau crai. Heddiw, mae Prydain gyfan wedi’i mapio, yn bennaf drwy waith yr asiantaeth swyddogol, Arolwg Daearegol Prydain. Serch hynny, ddau gan mlynedd yn ôl, roedd daeareg yn wyddor newydd a’r Arolwg heb ei sefydlu. Roedd y chwyldro diwydiannol ar ei anterth a galw aruthrol am haearn, calchfaen a glo. Yna, byddai arolygwyr tir yn crwydro o le i le gan fanteisio ar drachwant ac anwybodaeth tirfeddianwyr, a oedd, wrth gwrs, yn awyddus i glywed bod glo ar eu tiroedd. Byddai’r arolygwyr yn eu perswadio i dalu am archwiliadau mewn mannau lle nad oedd unrhyw debygrwydd o ddod o hyd i lo.

Deallodd William Smith, arolygwr tir o Swydd Rhydychen, y byddai map yn dangos ble roedd gwahanol haenau o greigiau - y strata - yn dod i’r wyneb yn ddefnyddiol i dirfeddianwyr ac arolygwyr tir fel ei gilydd, nid dim ond er mwyn dangos lleoliad y glo, ond hefyd at ddibenion amaethyddiaeth, gan y byddai’n dangos y gwahanol greigiau ac yn sgil hynny, y gwahanol fathau o briddoedd. Bu wrthi’n ddyfal am oddeutu 15 mlynedd yn cwblhau’r gwaith.

Ganwyd Smith ar 23 Mawrth 1769 ym mhentref Churchill, yn ardal y Cotswolds, yn fab i’r gof lleol. Ni chafodd lawer o addysg ond yn ddeunaw oed cafodd brentisiaeth gan gwmni syrfewyr Edward Webb yn Stow-on-the-Wold. Roedd ganddo ddawn naturiol wrth fesur tir a thrin ffigurau a llygad dda wrth archwilio tirweddau. Ym 1791, anfonwyd Smith i archwilio a phrisio gweithfeydd glo ym meysydd glo Gwlad yr Haf i’r De o Gaerfaddon, ac ymhen dwy flynedd fe’i penodwyd i dirfesur y llwybr ar gyfer camlas newydd i gludo’r glo o’r gweithfeydd.

Darganfyddiadau

Yn ystod y chwe blynedd y bu Smith yn gweithio ar y Gamlas Lo yng Ngwlad yr Haf, darganfu ddwy ffaith sylfaenol. Wrth gloddio’r gamlas, roedd yn fforchio ac yn dilyn dau drywydd gwahanol ar hyd dau gwm cyfochrog. Gwelodd Smith fod yr haenau o greigiau yn dilyn yr un drefn yn y ddau gwm, a bod yr haenau o greigiau’n gogwyddo tuag at y de-ddwyrain bob tro. Wrth deithio’r wlad i archwilio camlesi eraill, sylweddolodd Smith fod strata de Lloegr bob amser yn dilyn trefn benodol a’u bod i gyd yn gogwyddo i’r un cyfeiriad. Darganfu hefyd fod gan bob strata o greigiau eu cyfres benodol o ffosilau hefyd; felly, o ganlyniad, gallai ddefnyddio’r ffosilau i ganfod ble’r oedd haen o graig yn gorwedd o fewn dilyniant strata penodol.

Sylweddolodd Smith ar unwaith y gallai ddefnyddio’r darganfyddiadau hyn at ddibenion ymarferol. Mae haenau glo yn digwydd yn yr un lle â haenau o gerrig llaid llwyd, ond mae’r creigiau hyn i’w gweld mewn llawer o fannau yn y dilyniant strata, ymhell o dan ac uwchben yr haenau glo. Trwy ddefnyddio ffosilau, gallai Smith bennu pa gerrig llaid llwyd oedd yn rhan o’r gwythiennau glo, ac oherwydd ei wybodaeth am y dilyniant strata gallai Smith lunio map yn dangos lleoliad y gwahanol greigiau ar yr wyneb a ble gellid dod o hyd i’r glo.

Pan eglurodd Smith ei waith i’w gyfeillion Joseph Townsend a Benjamin Richardson yng Nghaerfaddon ar 11 Mehefin 1799, mynnodd y ddau y dylai gyhoeddi ei ddarganfyddiadau er mwyn cael ei gydnabod amdanynt ac o bosibl ei wobrwyo. Y noson honno, aeth ati i arddweud trefn y strata wrth ei gyfeillion ac yn fuan roedd rhestrau mewn llawysgrifen o’r dilyniant o greigiau o’r glo i fyny at y calchfaen ar gael yn eang. Yn fuan wedyn, lluniodd Smith fap yn dangos y creigiau yn ardal Caerfaddon a map bychan yn dangos rhai o’r brigiadau creigiau ar draws Lloegr. Ym 1801 cyhoeddodd brosbectws o’r gwaith mawr roedd yn bwriadu ei lunio ar y strata yng Nghymru a Lloegr.

Yn ystod y pymtheng mlynedd nesaf, teithiodd Smith i bob cwr o’r wlad, gan weithio ar gomisiynau fel arolygwr tir a draenio tir. Wrth deithio, byddai’n nodi’r tirweddau a’r creigiau ac o dipyn i beth yn casglu’r holl wybodaeth angenrheidiol er mwyn llunio’i fap.

Cyhoeddu'r Map

O’r diwedd, cyhoeddwyd y map ddiwedd 1815 gan John Cary, un o’r prif wneuthurwyr mapiau yn Llundain. Yn ddi-os, roedd y gwaith A Delineation of the Strata of England and Wales, with part of Scotland yn gampwaith. Graddfa’r map oedd pum milltir i’r fodfedd, felly roedd yn enfawr, dros wyth troedfedd o hyd a chwe throedfedd o led. Roedd wedi’i liwio â llaw (proses ddrud iawn). Ei bris oedd 5 gini am fap ar bymtheng dalen, yn ogystal â mynegfap a Memoir ategol. Ond er bod Memoir Smith yn rhestru bod mwy na 400 wedi tanysgrifio i’w fap, nid oedd llawer wedi talu amdano ymlaen llaw. Hefyd, gan fod cymaint o amser wedi mynd heibio cyn cwblhau’r map, roedd rhai o’r tanysgrifwyr wedi marw erbyn i’r gwaith gael ei gyhoeddi. Ni allwn fod yn sicr, ond credir mai dim ond tua 350 o fapiau gafodd eu gwerthu.

Yn ystod blynyddoedd cynhyrchu’r map, roedd Smith yn parhau i’w newid wrth i wybodaeth newydd am ddosbarthiad strata ddod i law. Rydym yn gwybod am o leiaf bum gwahanol rifyn o’r map.

Ymhen pum mlynedd, cafodd map Smith ei ddisodli gan fap a oedd i raddau yn fwy manwl, ac a luniwyd ar y cyd gan aelodau Cymdeithas Ddaearegol Llundain dan oruchwyliaeth y Llywydd cyntaf, George Bellas Greenough. Ugain mlynedd ar ôl cyhoeddi map cyntaf Smith, daeth mapio daearegol manwl yn rhan o gylch gwaith asiantaeth newydd a ariannwyd gan y llywodraeth, sef Arolwg Daearegol Prydain.

Serch hynny, mae map lliwgar a chain Smith yn parhau yn eicon ym maes daeareg ac yn ôl y farn, dyma’r gwir fap daearegol cyntaf o unrhyw wlad yn y byd. Mae’n hynod hefyd oherwydd mai gwaith un dyn ydyw, a aeth ati ar ei ben ei hun i fapio dros 175,000 cilomedr sgwâr o Brydain.

Heddiw, mae cryn alw amdano ymhlith casglwyr mapiau ac mae’r pris amdano’n uchel hefyd. Mae un ar werth yn Llundain ar hyn o bryd am dros £90,000. Mae ymchwil ar waith i nifer y copïau sy’n dal i fodoli, sy’n debygol o fod oddeutu 150. Mae adran ddaeareg Amgueddfa Cymru mewn sefyllfa unigryw gan fod ganddi naw copi cyflawn a rhannol o’r map, sy’n fwy nag unrhyw sefydliad yn y byd, diolch i weledigaeth ein swyddogion cyntaf, Frederick J. North, Douglas A. Bassett a Michael G. Bassett. Llwyddodd North yn arbennig i sefydlu casgliad o fapiau ac archifau yn yr adran ddaeareg sydd gyda’r gorau yn y wlad, ac mae ei ddilynwyr wedi datblygu’r casgliad ymhellach. Amgueddfa Cymru yw’r unig le yn y byd lle gellir archwilio bron pob un o’r gwahanol rifynnau o’r map ochr yn ochr.

Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl yn Earth Heritage.

Gadael sylw