Traddodiad Radical: Caerdydd a Chelf Cyfoes

Mae gwobr gelf ryngwladol fwyaf Prydain, Artes Mundi, yn dirwyn i ben ar ddiwedd mis Chwefror yng Nghaerdydd. Wrth i ni ddathlu gwobrwyo John Akomfrah fel ennillydd y wobr o £40,000, dyma olwg yn ôl ar draddodiad celf radical ac anarferol prifddinas Cymru:

Y Chwiorydd Davies - Casglu Golau

Roedd Gwendolene Davies a Mary Davies yn chwiorydd o gefndir Methodistaidd, a adeiladodd gasgliad o gelf beiddgar ar ddechrau'r 20ed ganrif, yn defnyddio etifeddiaeth o'r diwydiant glo. Erbyn heddiw, mae'r gweithiau a brynwyd ganddynt yn edrych yn barchus iawn i'n llygaid ni: lilis gan Monet, môrluniau Fenis, portreadau o'r dosbarth canol Ffrengig. Ddim fel hynny fuodd hi erioed: ym 1874, disgrifiodd newyddiadurwyr waith yr argraffiadwyr fel hyn: "Smear a panel with grey, plonk some black and yellow lines across it, and the enlightened few, the visionaries, exclaim: Isn't that ... perfect ..?".

Roedd y chwiorydd yn rhai o gasglwyr cynharaf yr argraffiadwyr ym Mhrydain, a fe roddwyd y casgliad yn rodd i bobl Cymru rhwng 1951-63 - yn creu egin y casgliad cenedlaethol sy'n cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd heddiw.

Yn ogystal â'r argraffiadwyr, cewch weld weithiau gan artistiaid oedd yn ymateb i newidiadau mawr yn Ewrop ar droad yr 20ed ganrif. Agorodd y chwiorydd eu drysau i artistiaid oedd ar ffo - fel yr rhai oedd yn cyrchu lloches wedi ymosodiad ar Wlad Belg yn 1914. Ers hynny, mae'r amgueddfa wedi casglu gwaith gan David Jones, Paul Nash a nifer o artistiaid eraill a ymatebodd ar ganfas i'w profiadau yn y Rhyfeloedd Byd.

 

Pont Charing Cross, Claude Monet, 1902

Cymru Yfory - Dyfodol Celf (ym 1969)

Erbyn canol yr ugeinfed ganrif, roedd artistiaid beiddgar y ganrif gynt - fel Monet - yn ddigon parchus. Wedi'r Ail Ryfel Byd, roedd cenhedlaeth newydd o artistiaid yn awyddus i arbrofi gyda thechnegau newydd - perfformio, 'happenings' a chelf pop.

Plannwyd un o hadau cynnar celf perfformio yn Abertawe, dan ofal yr artist perfformio ifanc Ifor Davies, oedd hefyd yn defnyddio ffilm, ffrwydradau a thân yn ei waith. Y llynedd, daeth Ifor, sydd 'nawr yn 80 oed, i edrych yn ôl ar ei waith a chyfraniad Cymru i draddodiad celf perfformio.

Daeth Theatr Reardon Smith yr Amgueddfa yn gartref i'r 'happening' cyntaf yng Nghymru, yn ogystal a gweithiau perfformiad gan artistiaid rhyngwladol fel Yoko Ono. Yn hytrach na pherfformio yn y cnawd, danfonodd Ono lun mawr ohoni'i hun i'r amgueddfa mewn tacsi o Lundain.

Wrth i artistiaid ddefnyddio technegau a deunyddiau newydd - fel feinyl, gwastraff wedi'i ailgylchu a pherspex - dechreuodd yr amgueddfa gasglu ac adlewyrchu'r newid byd yn ei sioe 'Cymru Yfory' ym 1969. Gwahoddwyd artistiaid i ddychmygu 'Cymru'r Dyfodol' - gwlad â dyfodol llewyrchus, diwydiannau llwyddiannus a llwyth o go-go boots.

 

Cartref i Gelf Cyfoes

Parhau mae ymroddiad Amgueddfa Genedlaethol Cymru at arddangos celf heddiw, ynghyd â chelf hanesyddol. Mae'r Oriel Colwinston yn arddangos gweithiau gan bobl sy'n ymateb i'r byd sydd ohoni heddiw - o uchelseinydd aur deuddeg troedfedd; gosodwaith o fwsog o gasgliad yr amgueddfa; tirluniau wedi'u hysbrydoli gan drip asid enwog Allan Ginsberg ym mryniau Brycheiniog. Yn fwyaf diweddar, fe arddangoswyd portreadau dirdynnol Shimon Attie o drigolion Aberfan heddiw, i goffàu hanner can mlwyddiant trychineb yn y pentre.

Mae curaduron yr amgueddfa yn rhan o draddodiad o gasglu ac arddangos radical - yn annog ymwelwyr i falu teiliau porslen yn yr arddangosfa 'Bregus?' a hyd yn oed yn ymuno i chwarae offerynnau yn ystod celf perfformio chwareus Ifor Davies.

Mae Artes Mundi yn cadw cysylltiadau'r amgueddfa ag ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol yn fyw. Mae'r gystadleuaeth yn dod ag artistiaid o led-led y byd i Gaerdydd - a'n ein hannog i edrych ar faterion byd-eang drwy lygaid artistiaid beiddgar.

Arddangosir celf sy'n ymateb i'r byd o'n cwmpas, sy'n holi cwestiynau dwys a chwareus am y 'status quo'. Mae'r casgliad cenedlaethol, a gaiff ei arddangos yn yr un orielau, yn ein hatgoffa bod lilis dwr Monet yn feiddgar ac anarferol, ar un adeg.

Gallwch glywed rhagor am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn yr Amgueddfa drwy danysgrifio i'w newyddlen.

Trwy gydol Artes Mundi, bydd tywyswyr cyfeillgar ar gael os fyddwch yn dymuno taith o amgylch yr arddangosfa. Dewch i weld Artes Mundi cyn i'r sioe ddod i ben ar y 25ain o Chwefror - a thanysgrifiwch i gael clywed rhagor am gelf cyfoes ar draws Cymru oddi wrth Gyngor y Celfyddydau.

Cewch weld gweithiau Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chanolfan Gelfyddydau Chapter. I gael newyddion gan Artes Mundi tanysgrifiwch i dderbyn eu e-newyddlen.

 

Ymwelwyr yn torri teils yn 'Bregus' yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Sara Huws Staff Amgueddfa Cymru
13 Rhagfyr 2017, 16:13
Hi there Graeme

Thanks for your enquiry. Sounds like an interesting find! I'm going to put you in touch with one of our curators via email so that you can send them a picture.

Best wishes,

Sara
Digital Team
Graeme Moore
7 Rhagfyr 2017, 09:49

ENQUIRY ABOUT FOSSILS

Splitting stones in my garden in Argoed, nr.Blackwood, in the Sirhowy Valley, I have uncovered a fossil 7cm long. I can't tell whether it is a rolled leaf or the torso of an amphibian.

Can I send you a photo for identification? Or should I bring it to one of your public events?

Kind Regards

Graeme Moore