Ym 1953, cafodd Amgueddfa Cymru gasgliad sylweddol o dros 300 o lyfrau hanes natur, cynnar a chyfoes, yn rhodd gan Dr Willoughby Gardner o Ddeganwy. Cafodd Dr Gardner ei eni yn Swydd Gaer ym 1860. Oherwydd salwch roedd rhaid iddo ymddeol yn gynnar. Aeth i fyw yn Neganwy yn y 1900au cynnar, lle’r oedd yn gallu ymroi ei amser i ddilyn ei ddiddordebau amrywiol, gan gynnwys archaeoleg, pryfeteg a niwmismateg.

Oherwydd y diddordebau hyn, roedd ganddo berthynas agos â’r Amgueddfa. Gwnaeth gryn dipyn o waith ar arolygon bryngaerau yng Nghymru er enghraifft, a rhoddodd nifer o wrthrychau a ddaeth i’r fei i’r adran Archaeoleg. Ychydig o flynyddoedd cyn iddo farw rhoddodd ei gasgliad o Aculeate Hymenoptera Prydeinig i’r adran Sŵoleg.

Fodd bynnag, ei lyfrgell sylweddol o lyfrau hanes natur oedd ei rodd fwyaf hael. Mae’r casgliad yn cynnwys llyfrau o’r 15eg i’r 18eg ganrif ac mae nifer ohonynt yn drysorau prin, yn enwedig y rheini o’r 16eg ganrif.

Trodd Gutenberg y diwydiant argraffu ar ei ben pan ddyfeisiodd y wasg argraffu ym 1450. Lledaenodd y ddyfais newydd o’r Almaen drwy weddill Ewrop ac mae llyfrau’r cyfnod hwn yn dangos defnydd eang a hyderus o’r wasg argraffu. Erbyn 1500 roedd y nifer o weithdai argraffu wedi cynyddu’n sylweddol, ac roeddent wedi gwella’u prosesau digon er mwyn cynhyrchu niferoedd llawer mwy o lyfrau. Roedd hyn yn golygu y gellid cyfnewid gwybodaeth a syniadau yn haws, ac arweiniodd hyn at ddatblygiadau sylweddol ym meysydd hanes natur yn y 16eg ganrif.

Llysieulyfrau

Yn y blynyddoedd cynnar, tueddwyd i adargraffu clasuron y cynfyd, ond erbyn canol y 16eg ganrif roedd amrywiaeth llawer ehangach o bynciau’n cael eu trafod. Roedd llysieulyfrau, sef canllawiau i blanhigion, yn boblogaidd iawn ar y pryd, ac roeddent yn canolbwyntio’n bennaf ar briodweddau meddyginiaethol y planhigion. Rhestrwyd y planhigion ynghyd â disgrifiadau helaeth o’r clefydau y gallent eu gwella. Yn aml iawn, ffisegwyr blaenllaw oedd yr awduron, yn ysgrifennu ar gyfer pobl gyffredin yn hytrach nag ysgolheigion.

Byddai’r disgrifiadau’n aml yn cynnwys torluniau pren o’r planhigion. Dull o ysgythru pren yw torlunio, gyda’r enw’n tarddu o’r dull. Caiff bloc pren ei gerfio, caiff inc ei roi arno, ac yno mae’n mynd trwy’r wasg ynghyd â’r testun. Yna, gellir lliwio’r lluniau â llaw yn ôl yr angen, er y byddai llyfr lluniau lliw yn fwy drud o lawer.

Mae casgliad llysieulyfrau’r 16eg ganrif yng nghasgliad Willoughby Gardner yn cwmpasu llawer o gyhoeddiadau blaenllaw’r cyfnod, gan gynnwys gweithiau Otto Brunfels, Leonhard Fuchs a Hieronymus Bock, hynny yw ‘Tadau Botaneg Almaenaidd’.

Roedd Herbarum vivae eicones gan Otto Brunfels yn ddylanwadol gan ei fod yn cynnwys bywluniadau yn bennaf, yn hytrach na lluniau wedi’u copïo o waith oedd eisoes yn bodoli, sef y dull cyffredin bryd hynny. Roedd y lluniau’n edrych mor naturiol â phosibl yn hytrach na’r dyluniadau mwy addurnol a oedd yn fwy cyffredin mewn llysieulyfrau Almaeneg. Cyhoeddwyd y gyfrol yn wreiddiol ym 1530, ond argraffiad diweddarach o 1532 yw’r copi yng nghasgliad Willoughby Gardner.

Ym 1539 cyhoeddodd Hieronymus Bock lysieulyfr yn ei famiaith, Almaeneg, a gafodd ei gyfieithu wedyn i’r iaith Ladin er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Roedd gan Willoughby Gardner gopi o’r cyfieithiad Lladin, De stirpium maxime, a gyhoeddwyd ym 1552, gyda lluniau wedi’u lliwio â llaw. Mae copi Willoughby Gardner yn arbennig am fod rhywun ar ryw adeg wedi ysgrifennu enwau Saesneg rhai o’r planhigion â llaw wrth ymyl y lluniau.

Cyhoeddwyd De historia stirpium gan Leonhard Fuchs ym 1542, ac mae gan y copi yng nghasgliad Willoughby Gardner luniau lliw hefyd. Yn anffodus mae’n anghyflawn, gyda nifer o dudalennau yng nghanol y llyfr ar goll.

Hefyd yn y casgliad mae A niewe herbal, or historie of plantes gan Rembert Dodoens, wedi’i gyfieithu i’r Saesneg ym 1578 o argraffiad Ffrangeg cynharach. Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn Fflemineg ym 1554, gyda’r Ffrangeg yn fuan iawn wedi hynny, roedd llawer o luniau ynddo’n seiliedig ar rai Fuchs, er bod y testun yn wreiddiol.

Sŵoleg

Yn ogystal â’r llysieulyfrau, mae hefyd nifer o lyfrau arwyddocaol eraill ym maes sŵoleg yn y casgliad o ganol y 16eg ganrif. Ymhlith y gweithiau hyn mae:

  • De differentiis animalium libri decem gan Edward Wotton, 1552, sef llyfryddiaeth o waith awduron clasurol. Ystyriwyd mai Wotton oedd y naturiaethwr cyntaf i wneud astudiaeth systematig o hanes natur.
  • Libri de piscibus marinis gan Guillaume Rondelet, 1554. Roedd Rondelet yn feddyg ac yn athro ym Mhrifysgol Montpelier yn ne Ffrainc. Libri de piscibus marinis yw ei waith mwyaf enwog. Mae’n trafod holl amrywiaeth anifeiliaid y dŵr gan nad oedd ysgolheigion y cyfnod yn gwahaniaethu rhwng pysgod a mamaliaid. Y llyfr oedd y prif destun cyfeirio i fyfyrwyr am bron i ganrif wedi hynny.
  • L’histoire de la nature des oyseaux gan Pierre Belon, 1555. Fforiwr, naturiaethwr, awdur a diplomydd o Ffrainc oedd Belon. Teithiodd yn eang drwy Ewrop gan gofnodi’r bywyd gwyllt a welodd. Fel llawer eraill yng nghyfnod y Dadeni, astudiodd amrywiaeth o bynciau gan gynnwys adaryddiaeth, botaneg, anatomeg gymharol, pensaernïaeth ac Eifftoleg, ac ysgrifennu amdanynt oll.
  • Sawl copi o Historiae animalium gan Conrad Gesner. Dyma gyfres o bum cyfrol. Cyhoeddwyd y pedair gyntaf rhwng 1551 a 1558, yn adrodd hanes creaduriaid pedwartroed, adar a physgod, a chyhoeddwyd y pumed gyfrol ar nadredd ym 1587 wedi marwolaeth Gesner. Ei fwriad oedd creu gwyddoniadur i gofnodi pob math o fywyd adnabyddus, go iawn a mytholegol, sef y rheswm dros gynnwys angenfilod y môr, manticorau ac ungyrn hefyd!

Roedd Gesner yn feddyg ac yn athro yn Zurich, ond yn wahanol i Belon nid oedd yn gallu teithio cymaint. Yn hytrach, roedd yn dibynnu ar gyfraniadau gan ffrindiau a chydweithwyr ar draws Ewrop. Nid oedd modd iddo weld yr anifeiliaid â’i lygaid ei hun bob tro, felly penderfynodd Gesner gynnwys popeth a oedd wedi’i ysgrifennu ar yr anifeiliaid yn ei lyfrau. O ganlyniad, nid oedd yn gallu sicrhau bod y wybodaeth yn gywir bob amser. Fodd bynnag, meddai Gesner ei bod:

“yn well cofnodi popeth yr oedd wedi dod ar eu traws fel y bydd gan arbenigwyr y dyfodol ym meysydd gwahanol hanes natur bopeth o’u blaen fel y byddai modd iddynt feirniadu drostynt eu hunain ym mhob achos”.

Darllen Pellach

  • Arber, Agnes. Herbals: their origin and evolution, 3ydd argraffiad. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1986
  • Kenyon, John R. The Willoughby Gardner Library: a collection of early printed books on natural history. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1982

Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl hon yng nghylchlythyr Nawdd yn gyntaf.

Gadael sylw