Celc Trefddyn, Torfaen
Celc Trefddyn, Torfaen
Llafn uchaf y fwyell De Cymru oedd wedi torri.
Llafn uchaf y fwyell De Cymru oedd wedi torri.

Dychmygwch yr olygfa. Rydych allan yn cerdded mewn cae. Rydych yn sgubo’ch datgelydd metel ffyddlon yn ôl a blaen dros y ddaear o’ch blaen wrth gerdded. Fe glywch bipian rhythmig y peiriant gyda phob cam a gymerwch. Yn sydyn, mae’r bipian yn cyflymu. Mae rhywbeth yn y ddaear. Rydych yn dechrau cloddio, i weld beth sydd yno. Wrth gloddio, daw pen bwyell hynafol i’r golwg…

Dyna oedd hanes Gareth Wileman a’i ddatgelydd metel ym mis Tachwedd 2014. Dros gyfnod o ryw bythefnos, datgelodd Gareth gelc o’r Oes Efydd Ddiweddar oedd yn cynnwys tri phen bwyell socedog efydd a dau flaen picell efydd yn agos iawn at ei gilydd yng nghymuned Trefddyn, Torfaen.

Roedd Gareth yn sylweddoli pa mor arwyddocaol oedd ei ganfyddiad ac fe gysylltodd yn syth â Mark Lodwick, Cydlynydd Darganfyddiadau Cynllun Henebion Cludadwy Cymru, a aeth ati i archwilio man darganfod y celc.

Claddwyd y celc tua 3000 o flynyddoedd yn ôl (rhwng 950 ac 800 CC) yn yr Oes Efydd Ddiweddar. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd celciau o lawer o offer metel, yn cynnwys arfau a thŵls, eu claddu mewn gwahanol fannau.

Beth sydd yn y celc?

Er y gellir dosbarthu eitemau’r celc yn fras fel ‘pennau bwyeill’ a ‘phennau picellau’, mae pob un yn perthyn i ddosbarth penodol y gallwn eu defnyddio i’n helpu i ddeall sut y câi gwahanol bethau eu masnachu yn yr Oes Efydd.

Un peth diddorol iawn yw soced yn perthyn i fwyell socedog ‘De Cymru’ a gladdwyd yn y celc. Cafodd yr ymyl dorri ei thynnu’n fwriadol yn yr Oes Efydd. Mae un o’r bwyeill eraill wedi’i difrodi’n fwriadol hefyd. Mae i’r bwyeill hyn dair asen fertigol ar y ddau wyneb ac maent yn arbennig o gyffredin yn … ie, rydych chi’n iawn, De Cymru!

Ar y llaw arall, mae un pen picell yn eithaf prin. Cyfeirir ato fel ‘pen picell lafn lloerfwlch’ gan fod dau dwll hanner crwn yng nghanol y llafn. Mae blaen y pen picell hwn a rhan o’r soced wedi'u torri i ffwrdd, a gallai hynny fod yn fwriadol hefyd.

Pam y mae’r celc yn bwysig?

Daethpwyd o hyd i gelc Trefddyn mewn ardal lle na wyddem o’r blaen am weithgarwch pobl yn yr Oes Efydd. Mae’n ychwanegu at swm cynyddol o ddeunydd o’r Oes Efydd Ddiweddar a ganfuwyd ledled Cymru. Roedd casglu neu gelcio pethau a’u claddu yn draddodiad eang yn yr Oes Efydd Ddiweddar, ond nid ydym yn siŵr pam roedd pobl yn gwneud hyn.

Mae cyfuniadau o arfau, fel picellau, a thŵls, fel bwyeill, yn gyffredin mewn celciau o’r Oes Efydd Ddiweddar. Ond gall eitem berthyn i fwy nag un dosbarth – gall bwyell fod yn arf peryglus hefyd a gallai rhai pennau picellau fod yn eitemau seremonïol. Mae’n bosib mai casgliad un person yw'r cyfuniad o wahanol bethau sydd mewn celc. Neu efallai bod nifer o bobl wedi dod ynghyd i gladdu pethau a oedd yn bwysig i ardal benodol.

Mae’n fwy na thebyg na fyddwn ni fyth yn gwybod beth y mae celf Trefddyn yn ei gynrychioli.

Y pen picell ‘lafn lloerfwlch’ prin
Y pen picell ‘lafn lloerfwlch’ prin.
Yr unig fwyell gyflawn yn y celc.
Yr unig fwyell gyflawn yn y celc.
Daethpwyd o hyd i un fwyell wedi torri, a llawer o ddarnau llai.
Daethpwyd o hyd i un fwyell wedi torri, a llawer o ddarnau llai.
Roedd datgladdu’r celc yn waith mwdlyd iawn!
Roedd datgladdu’r celc yn waith mwdlyd iawn!§

Torri neu Beidio â Thorri

Mae llafnau dwy o’r bwyeill yng nghelc Trefddyn fel pe baent wedi’u tynnu’n fwriadol. Mae difrod bwriadol tebyg i’w weld ar y pennau picellau. Fodd bynnag, gadawyd y drydedd fwyell yn gyfan. Pam oedd hyn? A lle mae’r darnau coll?

Mae’n bosib bod y darnau yn dal yn y ddaear, yn disgwyl cael eu darganfod. Fodd bynnag, roedd difrodi eitemau cyn eu claddu mewn celc yn beth cyffredin i’w wneud. Roedd rhai darnau o eitemau’n cael eu dewis i’w claddu – yn yr achos hwn – pennau soced y bwyeill – ac roedd darnau eraill yn cael eu heithrio (y llafnau torri). Weithiau, mewn celciau eraill, dim ond llafnau’r bwyeill a gawn, heb y socedi. Efallai bod y rhan o’r eitem a gladdwyd yn bwysig.

Mae arwyddocâd i gynnwys eitemau cyflawn hefyd. Yn Nhrefddyn, roedd y fwyell gyflawn wedi’i hogi ac mae’n debyg ei bod wedi’i defnyddio cyn ei chladdu. Byddai’n dal yn ddefnyddiol, felly pam fyddai rhywun yn claddu eitem y gellid ei defnyddio? Efallai bod y fwyell wedi’i defnyddio ers blynyddoedd a bod iddi arwyddocâd arbennig i'w pherchnogion, gan ei gwneud yn addas i'w chladdu.

Mae’n bwysig meddwl am yr eitemau hyn fel pethau defnyddiol a symbolaidd.

Deall yr Oes Efydd

Diben archaeoleg yw dod i ddeall pobl y gorffennol. Mae celc Trefddyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar yr Oes Efydd yn y rhan hon o Gymru, lle na chanfuwyd deunyddiau cynhanesyddol o’r blaen. Mae’n dangos fod yno gymunedau yn yr Oes Efydd a’u bod yn ymwneud ag eitemau mewn ffyrdd dirgel na allwn ni ddim ond dyfalu beth oeddent. Mae pob darganfyddiad yn ein helpu i ddeall y darlun ehangach ac mae celc Trefddyn yn gam pwysig tuag at wneud hyn.

Nodiadau a Diolchiadau

Bu darganfyddwr y celc hwn yn ddigon cyfrifol i’w gyflwyno trwy Gynllun Henebion Cludadwy Cymru ac erbyn hyn rydym yn falch o gael ei arddangos yn Amgueddfa Pont-y-pŵl lle gall y cyhoedd ei fwynhau. Cafodd ei gaffael â chyllid gan y Prosiect Hel Trysor: Hel Straeon. Cewch weld rhagor o fanylion am waith ymchwilio’r celc, a sgwrs gyda’r darganfyddwr, Gareth Wileman, yma.

Diolch i Adam Gwilt (Prif Guradur: Cynhanes yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru) a Mark Lodwick (Cydlynydd Darganfyddiadau: PAS Cymru) am ganiatáu i mi weld adroddiad oedd heb ei gyhoeddi am y celc.

sylw(3)

Gadael sylw