Llun am Lun: David Hurn yn trafod Ffotograffieth

Mae Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn rhedeg o 30 Medi 2017 to 11 Mawrth 2018. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu rhodd sylweddol gan David Hurn – ffotograffau o’i gasgliad preifat. Cynhelir yr arddangosfa yn yr oriel gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei neilltuo i ffotograffiaeth. Dyma ffilmiau o'r arddangosfa:

Y Casgliad

"Wnaeth y casgliad ddim dechrau tan 1958, am wn i. Fe ddechreuais i dynnu lluniau ym 1955, ac ym 1958 roeddwn i’n tynnu lluniau yn Trafalgar Square, ac roedd ffotograffydd arall yno. Daeth ata i a dweud rhywbeth rhyfedd iawn. Dywedodd, “rwy’n meddwl y gallet ti fod yn ffotograffydd da iawn”. Beth bynnag, Sergio Larrain oedd e. Roeddwn i’n edrych ar luniau Sergio ac fe roddodd gwpl i mi. Ac fe sylweddolais fy mod yn trysori, nid yn unig y lluniau, ond mae yna rywbeth (annisgrifiadwy yn fy marn i) am y cysylltiad rhwng cael print sydd wedi cael sêl bendith y ffotograffydd ei hun.

Felly fe ddechreuais i gasglu ac yna cefais y syniad o gyfnewid printiau. Ac felly dyna ddechreuais i wneud, ac roedd gen i’r hyder i fynd at ffotograffwyr fel Dorothea Lange a phobl felly. Wedyn roeddwn i’n ddigon haerllug i gwrdd â hi a dweud faint oeddwn i’n hoffi ei lluniau, ac y byddwn wrth fy modd yn cyfnewid print. Yna fe sylwais fod pobl yn hoffi cyfnewid.

Rwy’n credu ei fod yn gasgliad personol iawn. Rwy’n meddwl am y ffotograffwyr sydd yna; allech chi ddim cael gwell casgliad."

Dorothea Lange

White Angel Breadline, San Francisco, 1933.

 

"Mae Dorothea Lange yn un o ffotograffwyr mawr hanes. Roedd hi’n bwysig iawn, yn benodol achos ei gwaith cyn y rhyfel yn y basn llwch.

Fe wyddwn i am Dorothea Lange, roeddwn i’n digwydd bod yn Chicago ac yn gwybod ei bod hithau’n byw yno, felly fe es i... roeddwn i’n dechrau dod yn adnabyddus fel ffotograffydd, felly fe es i’w gweld hi. Doeddwn i heb feddwl am gael print, roedd hyn cyn i mi ddechrau cyfnewid lluniau hyd yn oed. Roedd hi’n dangos rhai printiau i mi, ac fe ddywedais, “Rwy wrth fy modd â hwn”, ac fe roddodd hi’r llun i mi.

Fe gyhoeddodd hi lyfr gwych, gyda’i gŵr, ac mae’n un o’r llyfrau mwyaf cyflawn. Mae’n tynnu sylw at broblem gymdeithasol. Mae’n hardd iawn, yn dangos sut gall llyfr gael ei osod, a sut gall y capsiynau cywir a'r testun cywir a’r lluniau cywir, gyda’i gilydd, greu dadl gref dros rywbeth. Rwy’n credu ei fod yn llyfr pwysig iawn."

Henri Cartier-Bresson

French painter Henri Matisse at his home, villa 'Le Rêve'. Vence, France, 1944.

"Roedd Henri Cartier-Bresson yn briod â ffotograffydd gwych o’r enw Martine Franck. Roedd Martine wedi tynnu lluniau ar Ynys Toraí, ynys fach oddi ar arfordir Iwerddon, ac wedi tynnu llun James Dixon y paentiwr naïf. Fel mae’n digwydd, mae un arall o’r casgliadau sydd gennyf – edrychwch o gwmpas – gan arlunwyr naïf, ac roedd gen i dri phaentiad gan James Dixon achos roeddwn i hefyd wedi bod ar Ynys Toraí yn tynnu lluniau. Dywedais, “Iawn te, beth am imi gyfnewid y paentiad am lun gan Bresson a llun gennyt ti?” Felly cefais ddau ffotograff am y paentiad.

Felly, fe gyrhaeddodd y lluniau ac mae’r ddau lun gen i – llun hyfryd iawn gan Martine Franck. Ac yna fe apeliodd hwn ataf am ei fod yn llun o fy hoff baentiwr o bosibl, gan un o fy hoff ffotograffwyr. Mae portread Bresson o Matisse yn un o fy hoff ffotograffau erioed. Wedi i Henri farw cefais amlen drwy’r post oddi wrth Martine yn cynnwys copi arall o’r un llun, ond fod plygiad yn y gornel. Mae gen i nodyn hefyd sy’n fwy hyfryd fyth, ac mae’n dweud: “Cefais hyd i’r llun hwn. Sylweddolodd Henri fod y print gwreiddiol wedi’i niweidio a gwnaeth ail brint”, achos doedd e byth yn gwneud ei brintiau ei hun, yr un bobl oedd wastad yn eu gwneud, “felly meddyliais efallai yr hoffet ti gael hwn hefyd.”

Mae’n bortread hyfryd. I mi, mae’n bopeth y dylai portread fod."

Llun ar pen y tudalen gan John Davies.

Mwy o Wybodaeth (Saesneg yn unig)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.