Mae Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn rhedeg o 30 Medi 2017 to 11 Mawrth 2018. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu rhodd sylweddol gan David Hurn – ffotograffau o’i gasgliad preifat. Cynhelir yr arddangosfa yn yr oriel gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei neilltuo i ffotograffiaeth. Dyma ffilmiau o'r arddangosfa:

"Roedd gen i fflat enfawr yn Bayswater a phan fyddai pobl yn dod i Loegr o dramor fe fydden nhw i gyd yn diweddu’n cysgu ar fy llawr i. A dweud y gwir roedd gen i un ystafell fawr yn y ffrynt oedd â phedwar matres ar y llawr. Ond ta waeth, beth ddigwyddodd oedd bod Josef Koudelka, yn dilyn y gwrthryfel yn Tsiecoslofacia, o bosibl mewn trafferth yn ei wlad, felly fe ddarganfu Elliott Erwitt, oedd yn llywydd Magnum ar y pryd, ffordd o gael Josef allan o Tsiecoslofacia drwy ddyfarnu gwobr iddo ddod i dynnu lluniau."

"Un diwrnod dyma gloch y drws ffrynt yn canu, ac wrth y drws roedd Elliott a’r ffotograffydd yma – Josef Koudelka – nad oeddwn i’n gwybod llawer amdano. Dyma Elliott yn gofyn a gâi Josef aros gyda mi tra roedd yn datblygu ei ffilm. “Siŵr iawn,” meddwn i, “sawl rholyn sydd gen ti?” Fy nghof i yw iddo ateb “800”!"

"Felly fe arhosodd yn y fflat...pwy â ŵyr, tua wyth mlynedd, roedd yn amser hir iawn, ac yn y diwedd fe ddaethon ni mor agos nes ’mod i’n arfer ei gyflwyno fel brawd imi. Roedd e’n gwneud yr un peth. Rwy’n ei garu’n fawr, mae’n esiampl wych, achos dw i erioed wedi nabod neb sy’n gweithio mor galed, sydd mor ynghlwm wrth ffotograffiaeth, nac sydd mor fanwl gywir ynghylch yr hyn mae’n ei wneud."

"Mae hwn gan Tish Murtha. Roedd Tish yn enigma; hi gafodd y cyfweliad byrraf, mor fyr nes fy mod yn ei gofio, o unrhyw un a gafodd gyfweliad gennym i ddod i mewn i Gasnewydd. Doeddwn i byth yn arfer edrych ar bortffolios; doedd gen i ddim diddordeb gwybod a oedd pobl yn meddwl eu bod nhw’n ffotograffwyr. Fy niddordeb i oedd canfod pobl oedd â thân yn eu bol dros rywbeth, boed yn fotanegydd neu’n bensaer."

"Beth bynnag, daeth Tish i mewn ac rwy’n cofio gofyn iddi beth roedd hi eisiau’i wneud ac fe ddywedodd hi rywbeth fel “Dwi eisiau tynnu llun plismyn yn cicio cryts”. Dyna’r oll ddywedodd hi, ac fe ddywedais i “iawn, fe ddysgwn ni hynny i ti”."

"Ro’n i’n gwybod y byddai hi’n iawn achos fe siaradodd hi am ei chefndir yn yr un frawddeg fach yna gyda chymaint o angerdd a chymaint o wybodaeth amlwg. Fe dyfodd hi’n ffotograffydd bendigedig. Mae’r llun hwn yn anhygoel. Ennyd mor gariadus rhwng dau sy’n byw ar y stryd. Mae cymaint o agosrwydd yma, allwch chi ddim tynnu’r math yna o lun oni bai’ch bod chi ynghlwm go iawn â’r bobl rydych chi’n tynnu eu llun."

 

"Mae’r llun penodol hwn gan Sergio Larrain yn bwysig i mi gan ei fod, mewn ffordd, wedi rhoi caniatâd i mi wneud rhai pethau. Roeddwn i yn Trafalgar Square yn tynnu llun y colomennod, ac roedd ffotograffydd arall wrthi’n tynnu lluniau’r adar hefyd. Sergio Larrain oedd e."

"Fe ddaethom yn ffrindiau. Edrychodd Sergio ar fy lluniau a dweud wrthyf nad trwy gystadlu ym myd materion cyfoes yr oeddwn i’n cynhyrchu fy ffotograffiaeth orau, ac awgrymodd fy mod i’n well am gofnodi pethau llawer mwy personol. Roedd hynny’n beth eithriadol i mi, achos fe sylweddolais yn sydyn fod yma ffotograffydd a dynnai luniau roeddwn i wir yn eu caru yn dweud “mae’n iawn i wneud yr hyn rwyt ti wir wrth dy fodd yn ei wneud”. Trwy lwc, dechreuodd yr atodiadau lliw yn y 1960au, ac roedd hynny’n wych achos roedd yna wastad slot bychan yn yr atodiadau ar gyfer rhyw stori ddinod, oedd yn golygu mai’r unig berson i lenwi’r slot hwnnw oedd fi! Felly, mewn ffordd, roedd gen i law rydd, ac mae’n berson pwysig iawn, iawn yn fy mywyd."

Llun ar pen y tudalen gan Tish Murtha.

Mwy o Wybodaeth (Saesneg yn unig)

Gadael sylw