Mae Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn rhedeg o 30 Medi 2017 to 11 Mawrth 2018. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu rhodd sylweddol gan David Hurn – ffotograffau o’i gasgliad preifat. Cynhelir yr arddangosfa yn yr oriel gyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gael ei neilltuo i ffotograffiaeth. Dyma'r casgliad olaf y ffilmiau o'r arddangosfa:

"Mae’r llun hwn gan Philip Jones Griffiths, Cymro Cymraeg o’r gogledd. O safbwynt addysg, mae’n un arall a hyfforddodd ei hun fel ffotograffydd. Rwy’n ei weld yn ddiddorol fod y rhan fwyaf o’r bobl rwy’n eu hedmygu fel ffotograffwyr, wedi hyfforddi eu hunain. Mae’n un o'r lluniau mwyaf dirdynnol welais i erioed. Mae fel arfer ar wal y grisiau yn fy nhŷ fel ei fod yn eich wynebu wrth i chi fynd i’r tŷ bach. Yn eitha aml, daw pobl i lawr â dagrau yn eu llygaid. Dyna beth ddylai llun ei wneud, yn fy marn i. Dyna un o rinweddau mawr ffotograffiaeth. Does dim angen esboniad. Rwy’n credu bod y cyhoedd yn gwybod digon am ryfeloedd ac ati, felly nid oes ots os mai Fietnam neu Biaffra neu lle bynnag sydd yno. Mae’n dweud rhywbeth am y cyflwr dynol, ac mae gan bawb ddigon o wybodaeth reddfol am hynny i allu ymateb yn emosiynol i’r llun. Rwy’n credu ei fod yn un o’r lluniau cryfaf a welais gan unrhyw un. Person go arbennig, ac mae colled fawr ar ei ôl."

"Fe welais i waith y fenyw ifanc hon – wyddwn i ddim byd amdani – mewn oriel fach yn Abertyleri ac roedd yn drewi o safon. Roedd yna ‘awduraeth’ i’r gwaith. Roedd yn edrych i fi fod potensial yma am ffotograffydd o fri. Yn ddiweddarach, fe wnaeth hi bamffled bach ac roedd hwnnw’r un peth – roedd teimlad o gyfanrwydd iddo, ac roeddech chi’n synhwyro ei bod hi’n deall yr hyn roedd hi’n ei ddarlunio.

Mae’r math hwn o ffotograffiaeth yn boblogaidd iawn ar y funud – rhyw edrychiad penodol, math penodol o bortreadu. Y cyfan alla i ddweud yw ei bod yn gwneud hynny’n well na’r rhan fwyaf o bobl. Dyna fy marn i. Dyna pam y gofynnais iddi a gawn i gyfnewid cwpwl o brintiau gyda hi. Rwy’n meddwl ei bod hi eisoes yn ffotograffydd eithaf rhagorol ac rwy’n amau y bydd hi’n dal i dynnu lluniau mewn hanner can mlynedd."

"Y ffotograffydd arall y cwrddais i ag ef yr adeg honno oedd Bruce Davidson... fe deithiais i dipyn gydag ef, yn enwedig pan oedd yn Llundain a phan gyflwynais ef i dipyn o lefydd ‘tanddaearol’ na fyddai wedi eu cyrraedd fel arall. Mae’r llun hwn yn rhyfeddol, o set o luniau a dynnodd o gang yn Efrog Newydd. Set anhygoel o luniau.

Roedd Bruce yn hyfryd, roedden ni’n arfer teithio o gwmpas yn un o’r ceir Mini bach cyntaf ac rwy’n cofio’i fod arfer bwyta nifer syfrdanol o fananas. Am ryw reswm roedden ni’n byw ar fananas. Mae’n ffotograffydd gwych ac yn berson gwych. Fe wnaeth waith syfrdanol ar orymdeithiau Selma a phethau felly. Person da gyda chydwybod cymdeithasol. Fe gafodd effaith fawr arnaf a rhoddodd lawer o brintiau i mi. Doedd dim orielau pryd hynny, ac roedd print yn costio 50c i’w wneud. Dywedodd rhywun, “o, dwi eisiau hwnna” – doedd pobl ddim yn tueddu i wneud hynny – ac fe ddywedodd Bruce “iawn”.

Rwy’n credu fod tua wyth neu naw llun gan Bruce Davidson yn y casgliad ac mae pob un yn hyfryd. Bydden i wedi hoffi tynnu’r llun hwn, mae’n llun arbennig."

"Roedd John Davies yn byw yn ne Cymru, ac mae’n ffotograffydd tirluniau eithriadol o dda, o natur ddogfennol bur iawn. Lluniau syml o’r dirwedd ydyn nhw, dim triciau, lluniau golygfa go iawn. Fe wnaethon ni gyfnewid llu o luniau, dros ryw ugain mlynedd mae’n debyg, ond ar ffurf cardiau Nadolig. Rydyn ni’n dau’n gwneud cardiau â llaw. Yn fy achos i, byddaf yn gwneud hanner cant bob blwyddyn a’u hanfon allan fel argraffiad cyfyngedig. Dwi ddim yn siŵr beth yw ei argraffiad ef, ond mae’n gwneud yr un fath. Doedd dim rheswm dros geisio cael print mwy o faint. Maen nhw mor brydferth yn y maint hwn. Maen nhw mor gain a hardd."

Llun ar pen y tudalen gan Clémentine Schneidermann.

Mwy o Wybodaeth (Saesneg yn unig)

Gadael sylw