Arian o gyfnod Gwilym Goch - blaen
Arian o gyfnod Gwilym Goch - blaen
Arian o gyfnod Gwilym Goch - cefn
Arian o gyfnod Gwilym Goch - cefn

Mae Amgueddfa Cymru newydd gaffael darn prin o hanes cynnar Caerdydd: ceiniog arian o gyfnod y brenin Normanaidd Gwilym II (1087-1100) a wnaed ym mathdy’r castell yn nechrau’r 1090au.

Darn arian sydd newydd ei gaffael o gyfnod Gwilym Goch

Mab Gwilym Goncwerwr (neu ‘y Bastard’) oedd Gwilym II ac roedd yn cael ei alw’n 'Gwilym Goch’ neu ‘Rufus’, efallai am fod ganddo wallt coch. Yn ystod ei deyrnasiad ef y dechreuodd y Normaniaid gynnal cyrchoedd i’r rhan hon o Gymru o dan Robert FitzHamon, barwn Normanaidd a oresgynnodd yr ardal a dod yn arglwydd cyntaf Morgannwg. Daeth y Normaniaid â’r arferiad o ddefnyddio darnau arian gyda nhw ac ymddengys bod bathdy wedi’i agor yn y castell yn fuan ar ôl ei sefydlu yn 1081. Fodd bynnag, nid oedd yr un darn arian a dadogwyd yn bendant i fathdy Caerdydd yng nghyfnod Gwilym Goch wedi’i gofnodi cyn i hwn ymddangos yn 2017, mewn casgliad preifat oedd yn cael ei werthu ar ocsiwn.

Cyn goresgyniad y Normaniaid, roedd darnau arian bath yn cael eu defnyddio’n rheolaidd yn Lloegr yng nghyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Roedd ganddynt rwydwaith o fathdai a chyflenwad canolog o ddeiau i wneud yr arian ond doedd dim traddodiad o fathu arian yng Nghymru. Tref ffiniol oedd Caerdydd yn nyddiau cynnar y Normaniaid ac felly roedd rhaid i’w bathdy ymorol amdano’i hunan: ymddengys bod dei tu blaen (‘pen’) y darnau arian wedi’i fenthyca o rywle arall a delw’r brenin wedi’i ailysgythru, gan wneud iddo edrych braidd yn ddigri. Roedd dei y cefn (‘cynffon’) wedi’i wneud yn lleol ac mae arwyddnod y bathdy, ‘CAIRDI’ [CIVRDI neu CIIIRDI], wedi’i ysgythru’n glir ond yn amrwd arno ond ni allwn ddarllen enw’r bathwr yn iawn, ‘IÐHINI’ (Ð = ‘TH’) – efallai mai Æthelwine oedd ei enw (diddorol nodi mai enw Sacsonaidd yn hytrach nag un Normanaidd yw hwnnw).

Roedd dyluniad yr arian bath yn cael ei newid bob ychydig flynyddoedd – ac roedd y brenin yn cael cyfran bob tro y cyhoeddwyd darnau arian newydd. Erbyn hyn, gwyddom am bedwar gwahanol gyhoeddiad o ddarnau arian o fathdy Caerdydd ag enw ‘William’ arnynt (gallai fod yn Gwilym Goncwerwr neu ei fab, Gwilym Goch) a phedwar cyhoeddiad arall yn enw Harri I (1100-35) ond maent i gyd yn eithriadol o brin. Yn rhyfel cartref teyrnasiad y Brenin Steffan (1135-54), syrthiodd Caerdydd i ddwylo plaid ei elyn yr Ymerodres Matilda, plaid yr Angefiniaid. Yn 1980, canfuwyd celc o dros 100 o ddarnau arian yng Nghoed y Wenallt, uwchlaw Caerdydd, y rhan fwyaf yn perthyn i gyhoeddiadau na wyddem amdanynt o’r blaen o gyfnod Matilda. Trawsnewidiwyd ein gwybodaeth am y cyfnod gan y canfyddiad hwn. Roedd yn cynnwys cyhoeddiadau barwnaidd o Gaerdydd ac Abertawe a dyma'r dystiolaeth gynharaf sydd gennym am yr enw 'Swansea'. Ar ôl hynny, fodd bynnag, nid oes sôn am fathdy Caerdydd.

Mae ein darn arian newydd o gyfnod Gwilym Goch yn ddarn arall o’r jig-so am hanes cynnar Caerdydd a’r cylch. Mae llawer o ddarnau eraill o’r jig-so yn dal ar goll, a phwy a ŵyr beth sy’n dal heb ei ddarganfod? Bu Gwilym Goch farw ar 2 Awst 1100 pan drawyd ef â saeth wrth iddo hela yn y New Forest: damwain anffodus ynteu lofruddiaeth tybed?

Edward Besly, Nwmismatydd (Curadur Darnau Arian a Medalau), Amgueddfa Cymru.

Y castell Normanaidd fel y tybia CBHC yr oedd yn edrych. Credir na chodwyd y gorthwr cerrig tan ar ôl teyrnasiad Gwilym Goch ac mai o bren y byddai wedi’i godi’n wreiddiol.

Y castell Normanaidd fel y tybia CBHC yr oedd yn edrych. Credir na chodwyd y gorthwr cerrig tan ar ôl teyrnasiad Gwilym Goch ac mai o bren y byddai wedi’i godi’n wreiddiol.

  1. Mwnt a dyfrffos o’i gwmpas
  2. Man lle tybir yr oedd y wal rhwng y wardiau
  3. Mur Rhufeinig wedi’i ailddefnyddio, heb y tyrau oedd yn taflu allan mae’n fwy na thebyg
  4. Clawdd pridd a ffos y tu allan iddo
Trychiad cynllunio trwy amddiffynfeydd pridd y castell cyn tynnu rhan allanol y clawdd canoloesol oddi yno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif ac ail-greu mur y gaer Rufeinig.

Trychiad cynllunio trwy amddiffynfeydd pridd y castell cyn tynnu rhan allanol y clawdd canoloesol oddi yno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif ac ail-greu mur y gaer Rufeinig.

  1. Olion mur y gaer Rufeinig
  2. Clawdd Rhufeinig
  3. Clawdd Normanaidd
  4. Mur y castell o’r cyfnod canoloesol diweddarach
Mur Normanaidd y castell wedi’i ail-greu rhwng Porth y De a Thŵr y Cloc
Mur Normanaidd y castell wedi’i ail-greu rhwng Porth y De a Thŵr y Cloc
Mur gorllewinol y castell. Yn y bôn, wal y castell Normanaidd yw’r darn rhwng y tyrau.
Mur gorllewinol y castell. Yn y bôn, wal y castell Normanaidd yw’r darn rhwng y tyrau.
Y mwnt Normanaidd enfawr, gyda gorthwr gwag o gerrig a godwyd yn ddiweddarach yn y canoloesoedd.
Y mwnt Normanaidd enfawr, gyda gorthwr gwag o gerrig a godwyd yn ddiweddarach yn y canoloesoedd.
Y clawdd Canoloesol sy’n dal y tu mewn i’r muriau dwyreiniol. Olion adeilad o’r canoloesoedd hwyr sydd i’w weld yn y glaswellt ym mlaen y llun.
Y clawdd Canoloesol sy’n dal y tu mewn i’r muriau dwyreiniol. Olion adeilad o’r canoloesoedd hwyr sydd i’w weld yn y glaswellt ym mlaen y llun.
Y wal gerrig a’r porth o’r ward allanol i’r ward fewnol, gan edrych o’r Gorthwr tua Phorth y De. Mae’n fwy na thebyg bod y wal hon yn rhan o amddiffynfeydd y castell Normanaidd.
Y wal gerrig a’r porth o’r ward allanol i’r ward fewnol, gan edrych o’r Gorthwr tua Phorth y De. Mae’n fwy na thebyg bod y wal hon yn rhan o amddiffynfeydd y castell Normanaidd.
Y map a greodd Speed o Gaerdydd yn 1610.
Y map a greodd Speed o Gaerdydd yn 1610.

Dyfodiad y Normaniaid

Ffrwyth datblygu mawr yn Oes Fictoria yw’r Gaerdydd a welwn heddiw i raddau helaeth ond mae ardal reit yng nghanol y ddinas lle bu caer Rufeinig ac a oresgynnwyd wedyn gan y Normaniaid.

Ychydig o dystiolaeth, os o gwbl, sydd bod pobl yn byw yng Nghaerdydd rhwng diwedd y cyfnod Rhufeinig a dyfodiad y Normaniaid i Gymru yn y 1080au, ond efallai bod pobl yn byw am gyfnod yn y man lle’r oedd y ffordd Rufeinig o Gaerllion i Gaerfyrddin yn croesi afon Taf.

Pan gyrhaeddodd y Normaniaid, dyma'r man lle penderfynwyd sefydlu canolfan filwrol a gweinyddol eu harglwyddiaeth newydd, Morgannwg, gan ailddefnyddio olion yr hen gaer Rufeinig i godi mur a sefydlu tref fechan wrth borth y de.

Ail-greu’r castell Normanaidd

Y castell oedd canolbwynt Caerdydd yn y cyfnod Normanaidd ond mae adeilad presennol y castell yn wahanol iawn i’r un gwreiddiol. Er mwyn cyrraedd at y castell Normanaidd, mae’n rhaid i ni dynnu’r addasiadau a wnaed gan ardalyddion Bute yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r 20fed ganrif, a oedd yn cynnwys adfer rhannau o furiau’r hen gaer Rufeinig.

Cododd y Normaniaid glawdd enfawr o bridd dros olion muriau’r gaer Rufeinig, o fan ger cornel ogledd-orllewinol y castell ac o gwmpas i’r ochrau sy’n wynebu Ffordd y Brenin a Heol y Dug erbyn hyn. Atgyweiriwyd muriau eraill y gaer Rufeinig (o fan ger porth presennol y de ac o gwmpas i’r ochr sy’n wynebu Parc Bute erbyn hyn) ond, yn rhyfedd ddigon, ymddengys bod y tyrau oedd yn taflu allan ac yn rhan o’r amddiffynfeydd Rhufeinig wedi’u tynnu – i gael deunyddiau i wneud y gwaith atgyweirio efallai.

Mae’r mur Normanaidd hwn i’w weld o hyd, er bod cryn dipyn o waith adfer wedi’i wneud arno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, rhwng porth y de a Thŵr y Cloc ac i'r gogledd o adeiladau pen gorllewinol y castell.

Daeth y deunydd ar gyfer y cloddiau ar yr ochr ogleddol, yr ochr ddwyreiniol a rhan o’r ochr ddeheuol o ffos enfawr a gloddiwyd o gwmpas y darn amgaeedig i gyd. Cafodd y ffos hon ei llenwi ar Ffordd y Brenin a Heol y Castell/Stryd y Dug ac mae’n gorwedd o dan y ddyfrffos orllewinol bresennol a'r lledgamlas ogleddol.

Cewch gipolwg ar y ffos hon yn achlysurol pan agorir ffosydd gwasanaeth o gwmpas y castell ond cawn syniad cliriach o’i maint o dystiolaeth John Ward, curadur Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerdydd rhwng 1893 ac 1912. Gwelodd Ward y toiledau tanddaear yn cael eu cloddio yn Ffordd y Brenin ac, eu eu bod o dan y ddaear yn llwyr, dywedodd nad oeddent yn cyrraedd gwaelod y ffos.

Yn niagram cynllunio Ward o glawdd pridd y castell, gwelir canlyniad yr holl waith cloddio ffosydd – y clawdd sylweddol sy’n dal y tu mewn i furiau’r castell (i’r chwith yn y diagram) a’r un fath ar y tu allan.

Y tu mewn i’r amddiffynfeydd allanol, cododd y Normaniaid fwnt enfawr – tomen tebyg i fasn pwdin a’i ben i lawr, a dyfrffos fawr o’i gwmpas. Mae hwn i’w weld o hyd, er bod Capability Brown wedi gwneud peth gwaith tirlunio ar y mwnt tua diwedd y 18fed ganrif a bod y ddyfrffos (a lanwyd gan Brown) wedi’i hailgloddio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac efallai ei bod ar ffurf fwy rheolaidd nag y bu.

Gallwn dybio bod rhyw fath o adeiladwaith ar ben y mwnt, tŵr a phalisâd pren mae’n debyg, a bod y 'gorthwr gwag’ presennol o gerrig wedi cymryd eu lle yn yr 1240au. Credir bod gweddill tu mewn y castell wedi’i rannu fel y gwelir yn awr â rhyw fath o wal rhwng y gorthwr a phorth y de. Mae’n debygol, ond nid yn bendant, mai wal gerrig oedd yno. Gallwn ddisgwyl bod adeiladau (o bren mae’n fwy na thebyg) yn y ddwy ‘ward’ a gafodd eu creu felly ond, hyd yma, ni ddaethpwyd ar draws adeiladweithiau pendant yn yr ardal fechan a gloddiwyd.

Y dref Normanaidd

I’r de o’r castell oedd tref fechan Caerdydd. Y map a grewyd yn 1610 gan John Speed yw’r olygfa glasurol o’r dref ganoloesol. Mae’n dangos darn o dir a mur o’i amgylch yn ymestyn i’r de o fan ychydig i’r dwyrain o gornel de-ddwyreiniol y castell i waelod lle mae Heol Eglwys Fair yn awr.

Fodd bynnag, map o’r dref yn y cyfnod canoloesol diweddar yw hwn. Mae’n debygol bod y drefn Normanaidd gyntaf yn llai, a’i ffiniau’n ymestyn i lle mae Stryd Womanby, Stryd y Cei, Stryd yr Eglwys a Heol Sant Ioan (yr hanner cylch o strydoedd ym mhen gogleddol y dref fel y’i gwelir ar fap Speed).

Gellir gweld y patrwm hwn o hyd yn strydoedd Caerdydd ac mae cyffordd Heol Fawr a Heol Eglwys Fair, a chyffordd Heol Sant Ioan a Working Street i’w gweld ar y man lle credir roedd y terfyn cynnar. Trafodir hyn a llawer o hanes dogfennol Caerdydd yn oesau’r Normaniaid a’r Angefiniaid gan David Crouch (2006). Ni wireddwyd gobaith Crouch y bydd archaeoleg yn ychwanegu at y darlun hwn hyd yma. Ni ddaethpwyd o hyd i adeiladweithiau mor hen wrth gloddio yn y man lle’r awgrymir roedd y dref gyntaf (yn Stryd Womanby a Stryd y Castell) ond mae’r gwaith yn cadarnhau bod pobl yn byw yno yn oes y Normaniaid. Yn wir, wrth i drigolion Caerdydd yn Oes Fictoria fynd ati i gloddio selerydd, collwyd llawer o dystiolaeth bosibl, gwaetha’r modd.

Peter Webster, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd, Amgueddfa Cymru (cyn-ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd)

Darllen Pellach

Castell Caerdydd Ceir ymdriniaeth helaeth o’r castell canoloesol yn CBHC, An inventory of the ancient monuments in Glamorgan, Vol. III, Part 1a, Medieval Secular Monuments, the early castles from the Norman conquest to 1217, Llundain 1991, 162-211, sydd, er gwaetha’i deitl, yn adrodd stori’r castell hyd at yr 20fed ganrif. Rhoddir rhagor o gefndir i waith adfer Ardalyddion Bute gan J. P. Grant, pensaer i’r 4ydd Ardalydd (Cardiff Castle, its history and architecture, Caerdydd 1923).

Y Dref Gan David Crouch y mae’r drafodaeth orau ar Gaerdydd yr oes Normanaidd. ‘Cardiff before 1300’ tt.34-41 yn J.R.Kenyon, D.M.Williams (Goln), Caerdydd. Architecture and Archaeology in the Medieval Diocese of Llandaff, Trafodion Cynhadledd Cymdeithas Archaeolegol Prydain 29, Llundain 2006. Mae hwn yn cynnwys cyfeiriadau at waith cynharach gan W.Rees (1962) a D.Walker (1978).

Gadael sylw