Mae carthenni Caernarfon yn wahanol i unrhyw decstilau Cymreig eraill, ac mae gan Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ambell i enghraifft yn ei chasgliadau.

Mae’r carthenni hyn wedi’u gwneud o dri darn. Y darn canol yw’r un mwyaf amlwg. Ar y darn hwn mae’r geiriau ‘Cymru Fydd’ o dan lun o Goleg Prifysgol Aberystwyth, a’r geiriau ‘Cymru Fu’ dan lun o Gastell Caernarfon. Uwchben ac o dan y lluniau hyn mae dwy ddraig a thair cenhinen, ac mae gweddill y garthen wedi’i gorchuddio â chennin a chennin Pedr.

Mae’r dyluniad gwreiddiol yn destun dadlau ymhlith ysgolheigion. Mae Ann Sutton, un o’r prif arbenigwyr ar decstilau Cymreig, yn credu mai’r gwehydd John Roberts o Gaernarfon wnaeth y garthen wreiddiol, ar gyfer Tywysog Cymru (Edward VII yn ddiweddarach) pan oedd yn ymweld â Chaernarfon i agor y gweithfeydd dŵr ym 1876. Ond yn ôl yr hanesydd D. G. Lloyd Hughes, agorwyd gweithfeydd dŵr Caernarfon ym 1868, nid 1876, ac mae’r carthenni yn dangos coleg Aberystwyth gydag estyniad na chafodd ei gwblhau tan 1872. Wnaeth Tywysog Cymru ddim ymweld â Chaernarfon eto tan 1894; mae Hughes o’r farn mai Melin Wlân Pwllheli a greodd y dyluniad ym mis Chwefror 1895. Mae yna lun o staff Melin Wlân Pwllheli yn dal un o’r carthenni yn y 1890au. Mae ambell un arall allai fod wedi dylunio’r garthen – yn benodol Edward Davies-Bryan. Mae ei or-wyres ef yn dweud iddo gomisiynu Melin Wlân Pwllheli i gynhyrchu carthen i goffáu coleg Aberystwyth yn y 1890au cynnar, gan ei fod yn gyn-fyfyriwr ac yn un o gymwynaswyr mawr y coleg.

Workers at Pwllheli Woollen Mill

Workers at Pwllheli Woollen Mill. The elderly woman on the left, Frances Griffith, is holding 'Carthen Pwllheli'.

Cafodd y garthen Caernarfon olaf ei chynhyrchu ym melin wlân Trefriw ym 1969, i goffáu arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon. Mae’n bosibl fod rhodd ddiweddar i Amgueddfa Wlân Cymru wedi ateb y cwestiwn unwaith ac am byth – carthen wedi’i gwehyddu â llaw, un debyg i’r carthenni eraill ond gyda dau lun o Gastell Caernarfon a dim llun o goleg Aberystwyth. Yn ôl y rhoddwr, roedd y garthen yn berchen i’w hen nain a thaid o Ddinbych, a fu farw yn y 1890au. Tybed os mai carthen fel honno gafodd ei chyflwyno i Dywysog Cymru ym 1868?

Gadael sylw