Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Foronen

Caiff Diwrnod y Foronen ei ddathlu bob blwyddyn ar Ebrill y 4ydd – uchafbwynt y flwyddyn i dyfwyr moron ledled y byd! Wrth i bawb hunanynysu oherwydd y Coronafeirws, mae llawer ohonom yn troi at ein gerddi i gael awyr iach, ymarfer corff ac i dyfu bwyd.

Mae gan Amgueddfa Cymru amrywiaeth o erddi. Yn Sain Ffagan mae gerddi pleser ffurfiol y castell a gerddi llysiau tai teras gweithwyr haearn Rhyd-y-car. Yn Amgueddfa Wlân Cymru mae gardd yn llawn planhigion sy’n cynhyrchu lliwurau, Yn Amgueddfa Genedlaethol Rhufeinig Caerleon mae ‘na ardd liwurau a ffisig tra bod gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ardd gymunedol a ddatblygwyd gan dîm cymunedol GRAFT. I ddathlu Diwrnod y Foronen, dyma bytiau difyr o’n casgliadau i’ch ysbrydoli i dorchi’ch llewys a dechrau troi’r tir...

Garddio ar ddydd Gwener y Groglith

Yn draddodiadol câi Gwener y Groglith ei ystyried yn ddiwrnod da i blannu tatws. Mae’r tymheredd yn dal yn weddol oer, ond mae’r pridd yn ddigon meddal i’w drin. Fodd bynnag, y prif reswm yw bod y Pasg wastad yn dibynnu ar y Lleuad – y dydd Sul ar ôl lleuad llawn Cyhydnos y Gwanwyn.

Am ganrifoedd, mae garddwyr wedi plannu a chynaeafu yn ôl y Lleuad, yn seiliedig ar y gred fod y Lleuad yn effeithio ar leithder y pridd – yn union fel mae’n achosi’r llanw. Pan fydd y Lleuad ar gynnydd, caiff sudd planhigion ei dynnu am i fyny, felly mae’n amser da i blannu a thrawsblannu blodau unflwydd, eilflwydd – unrhyw blanhigion y byddwn yn cynaeafu’r dail, hadau, blodau neu ffrwythau. Pan fydd y Lleuad ar ei gwendid, mae’r sudd yn llifo i lawr, ac egni’r planhigion yn mynd i gyfeiriad y gwreiddiau, felly mae’n gyfnod gwell i dyfu gwreiddlysiau a phlanhigion lluosflwydd.

Gan mai gwreiddlysiau yw tatws, dylid eu plannu pan fydd y Lleuad yn ei gwendid. Mae Gwener y Groglith yn dod ar ôl lleuad llawn cynta’r gwanwyn bob amser, felly mae’n siŵr o fod yn gyfnod da i blannu tatws. Mae moron, betys a gwreiddlysiau eraill yr un peth – felly mae Diwrnod y Foronen yn amser da i archebu hadau er mwyn eu plannu dros y Pasg.

Ffair Hadau

Ers talwm, byddai’r trefi’n cynnal ffeiriau hadau ddiwedd Mawrth. Byddai ffermwyr yn dod â’u hadau i’r farchnad i’w cyfnewid am nwyddau eraill neu am arian. Mae Conwy yn dal i gynnal ffair hadau bob mis Mawrth. Cafodd ei sefydlu drwy Siarter Brenhinol gan Edward I dros 700 mlynedd yn ôl, i gael ei chynnal ar 26 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’n dal i gadw at y dyddiad hwnnw.

Dyma offer gardd o’n casgliad:

‘Dyw siâp y rhaca ddim wedi newid llawer dros y blynyddoedd.

Fel y bachyn chwynnu hardd hwn, sy’n edrych yn ddigon cyfarwydd.

Ond allwch chi ddyfalu beth yw’r teclyn rhyfedd hwn?

Tyrchwr gwreiddiau yw hwn. Mae garddwyr yn dal i’w defnyddio, ond maen nhw’n edrych yn go wahanol erbyn heddiw.

Câi’r offeryn hwn ei lenwi â hadau a’i roi dan fraich person fyddai’n estyn llond llaw o hadau i hau’r tir.

Yn olaf, er mwyn i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Foronen mewn steil, dyma rysáit Olga James, cogydd caffi Amgueddfa Wlân Cymru, ar gyfer cawl moron, garlleg a theim. Mwynhewch!

 
  • 3 winwnsyn
  • 3 clof garlleg (wedi’u gwasgu)
  • 3 pwys o foron
  • 3 taten weddol o faint
  • Persli, teim
  • Olew
  • Halen a phupur
  • 6 peint o stoc llysiau (5 ciwb stoc)

Meddalwch y winwns yn yr olew gyda garlleg, teim a phersli. Torrwch y tatws a’u hychwanegu yna eu ffrio am 5 munud arall cyn ychwanegu’r moron. Cymysgwch, ychwanegwch stoc a berwi nes bod y llysiau wedi meddalu. Cymysgwch y cawl, gan ychwanegu halen a phupur os oes angen.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.