Dogni Bwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Mared McAleavey

Allwch chi ddychmygu sut y byddech chi'n teimlo heddiw os byddai rhywun yn dweud wrthych nad oedd modd i chi brynu eich hoff fwyd?

Neu, os byddai modd, dim ond swm bach y gallech ei brynu ac y byddai'n rhaid iddo bara wythnos a byddai'n rhaid i chi giwio amdano?

Dyma ddigwyddodd i bobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1939-45) pan gyflwynwyd dogni ym Mhrydain.

Pam y cyflwynwyd dogni ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd?

Ceisiodd Adolf Hitler, unben yr Almaen, orfodi diwedd cynnar i'r rhyfel drwy ymosod ar longau oedd yn cludo bwyd a nwyddau eraill i Brydain.

Roedd am newynu'r genedl er mwyn ei threchu, a'i arf oedd fflyd o longau tanfor oedd yn teithio ar draws yr Iwerydd.

Yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o Brydain, roedd awyrennau’r Almaenwyr hefyd yn targedu porthladdoedd a dociau, yn ogystal â threnau nwyddau mewn mannau diwydiannol fel Casnewydd, Abertawe a Chaerdydd.

Beth oedd Dogni yn yr Ail Ryfel Byd?

Roedd rhai eitemau, yn enwedig bwyd, yn brin iawn ac yn anodd eu prynu yn y siopau arferol.

Dechreuodd pobl brynu nwyddau mewn panig mewn ffordd debyg i'r hyn a welwyd yn y cyfnod diweddar fel yn ystod yr argyfwng petrol neu adeg pandemig Covid.

Felly, cyflwynodd y Llywodraeth gynllun ddogni fel system deg i ganiatáu i bobl gael swm penodol o fwyd bob wythnos.

Roedd cynllun dogni gan wledydd eraill a oedd yn rhan o'r rhyfel hefyd, fel America. Roedd rhai pobl yn cofio dogni gan ei fod hefyd wedi digwydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18).

Pryd dechreuodd Dogni Bwyd ym Mhrydain yn yr Ail Ryfel Byd?

 

Gyda'r prinder bwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn dal yn fyw yn y cof, cyflwynodd y llywodraeth y cynllun dogni bwyd ym mis Ionawr 1940. 

Sut roedd y system dogni'n gweithio?

Derbyniodd pob person yn y wlad, gan gynnwys plant, lyfr dogni a bu'n rhaid i bob cartref gofrestru gyda chigydd, groser a dyn llaeth lleol a oedd yn gorfod sicrhau bod ganddynt ddigon o fwyd i'w cwsmeriaid.

Roedd y llyfrau dogni'n cynnwys cwponau y bu'n rhaid eu cyflwyno wrth brynu eitemau. Roedd gan bawb lyfr dogni, gan gynnwys aelodau o'r Teulu Brenhinol.

Tyfodd y rhestr o fwydydd a gafodd eu dogni wrth i'r rhyfel barhau.

Roedd y rheolau'n llym iawn ac roedd pobl oedd yn cael eu dal yn ceisio twyllo yn wynebu dirwy neu gael eu hanfon i'r carchar.

Yn aml, roedd pobl a oedd yn dlawd neu'n ddi-waith ac yn dioddef o ddiffyg maeth yn y blynyddoedd cyn y rhyfel yn cael eu bwydo'n well o lawer yn ystod y rhyfel oherwydd dogni.

Sut roedd dogni'n effeithio ar fywydau pobl yn yr Ail Ryfel Byd?

 

<em>Dig for Victory</em>, gan Mary Tunbridge
Dig for Victory

, gan Mary Tunbridge.

Dig for Victory, gan Mary Tunbridge.

Yn 1939 dechreuodd y llywodraeth ei hymgyrch 'Dig for Victory' a chyhoeddodd gyfres o bosteri lliwgar i annog pobl i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain.

Gellir gweld rhai o'r posteri hyn yn Swyddfa Bost Blaen-waun a Siop y Teiliwr yn yr Amgueddfa.

Cafodd cynhyrchion oedd dros ben eu troi’n jam, picl neu siytni, fel y gellid eu bwyta yn y gaeaf.

Roedd pobl hefyd yn cadw geifr, ieir, cwningod a moch. Roedd moch yn arbennig o boblogaidd gan y bydden nhw’n bwyta bron unrhyw beth a gellid eu pesgi'n gyflym i'w lladd am eu cig.

Roedd Woolton Pie yn bastai llawn llysiau ac roedd yn bryd cyffredin iawn yn ystod rhyfel.

Roedd yn galluogi pobl i ddefnyddio'r llysiau a dyfwyd ganddyn nhw a'r llysiau a gafodd eu dogni, gan sicrhau deiet maethlon.

Pwy oedd Potato Pete a Doctor Carrot?

Er mwyn gwneud yr ymgyrch yn ddeniadol, crëwyd dau gymeriad, Potato Pete a Doctor Carrot i annog pobl i fwyta llysiau.

Ymddangosodd y ddau yn y rhan fwyaf o ryseitiau mewn llyfrau a chylchgronau.

 

Pa fath o fwyd gafodd ei ddogni ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd?

Dyma enghraifft o ddogn i un oedolyn yn ystod y rhyfel:

  • Bacwn a ham 4 owns
  • Menyn 2 owns
  • Caws 2 owns
  • Marjarîn 4 owns
  • Braster coginio 4 owns
  • Llaeth 3 pheint
  • Siwgr 8 owns
  • Jam 1 pwys bob deufis
  • Te 2 owns
  • Wyau, 1 yr wythnos, os oedd ar gael a phecyn o wyau powdr bob pedair wythnos.
  • Oherwydd eu bod yn dal i dyfu, roedd plant yn derbyn llaeth ychwanegol, sudd oren ac olew iau penfras.

    Roedd llawer o eitemau nad oeddent yn fwyd hefyd yn cael eu dogni fel sebon, dillad, petrol a phapur.

    Pryd daeth dogni i ben ar ôl yr Ail Ryfel Byd?

    Daeth y rhyfel i ben yn 1945 ond parhaodd y dogni.

    Oherwydd tywydd gwael, roedd bara'n cael ei ddogni tan 1948 ac roedd tatws hefyd yn brin.

    Doedd rhai bwydydd ddim yn cael eu dogni o gwbl e.e. cig morfil ond, heb fawr o syndod, ni fu hyn erioed yn boblogaidd gyda phobl Prydain!

    Dim ond ar ddechrau'r 50au y daeth dogni rhai bwydydd i ben h.y. te yn 1952, wyau, hufen, siwgr a melysion yn 1953, a menyn, caws ac olew coginio yn 1954 a chig a bacwn yn 1954.

    Dyma lun o Mrs Barbara Donaldson o Aberdâr, Morgannwg Ganol.

Roedd hi'n cofio dogni'n glir gan ei bod hi'n 13 oed pan ddechreuodd y rhyfel.

Roedd yr wy sych yn eithaf blasus, meddai, ac roedd modd ei ddefnyddio mewn sawl ffordd.

Ar ôl y rhyfel, roedd hi bob amser yn gwrthod prynu marjarîn gan fod arno flas artiffisial a’i fod yn ei hatgoffa hi o flynyddoedd y rhyfel a "The White Cliffs of Dover", sef cân nad oedd hi erioed yn hoff ohoni!

 

Ffeithiau llai adnabyddus am Ddogni yn yr Ail Ryfel Byd.

Nid oedd cig morfil yn cael ei ddogni, h.y. roedd ar gael i bobl ei brynu heb lyfrau dogni.

Doedd hwn ddim yn boblogaidd gyda'r cyhoedd ym Mhrydain gan fod pobl o’r farn bod ganddo arogl annymunol a blas diflas hyd yn oed pan ychwanegwyd sbeisys ato.

Gan fod bananas wedi'u mewnforio h.y. wedi'u cludo o wledydd tramor, roedden nhw’n un eitem o fwyd nad oedd ar gael o gwbl yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Byddai rhai siopau ffrwythau'n rhoi arwydd yn eu ffenestri gan ddweud, "Oes wir, does dim bananas gennym!" i godi ysbryd pobl. Ysbrydolwyd hyn gân hwyliog Americanaidd o'r 1920au “Yes, we have no bananas!”.

Ffrwythau eraill na welodd llawer o blant mohonyn nhw nes bod y rhyfel wedi dod i ben, oedd orenau, lemonau, pîn-afalau a grawnwin, oedd hefyd yn cael eu mewnforio.

sylw (13)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Christine Banister
27 Mawrth 2022, 19:52
I absolutely loved powdered milk. I would sit on the flap of the oven (you would pull down to make toast)and spoon it from the tin. YUM. What a fantastic taste.
Because of the lack of them, an Orange always came in stockings at Christmas.
Born 1943.
Christine Banister
27 Mawrth 2022, 19:52
I absolutely loved powdered milk. I would sit on the flap of the oven (you would pull down to make toast)and spoon it from the tin. YUM. What a fantastic taste.
Because of the lack of them, an Orange always came in stockings at Christmas.
Born 1943.
Peter Masters
21 Mawrth 2022, 08:18
When an elected government is required to introduce and sometimes "mandate" a policy I.e covid vaccinations here and NZ it is intended as a benefit / protection of the greater population.
During and post WW 2 ration books were introduced to manage the distribution of essential food items eggs, butter etc to ensure we all had access to these items in fair and reasonable quantities.... Rationing of food, fuel etc had been "mandated" by the then government of the day and administered by local authorities and businesses. Some of us are still around to bear witness to these difficult times and be thankful to the government and our parents. P
Peter Masters
21 Mawrth 2022, 08:18
When an elected government is required to introduce and sometimes "mandate" a policy I.e covid vaccinations here and NZ it is intended as a benefit / protection of the greater population.
During and post WW 2 ration books were introduced to manage the distribution of essential food items eggs, butter etc to ensure we all had access to these items in fair and reasonable quantities.... Rationing of food, fuel etc had been "mandated" by the then government of the day and administered by local authorities and businesses. Some of us are still around to bear witness to these difficult times and be thankful to the government and our parents. P
John Scott
4 Mawrth 2022, 16:13
I was four years old when WW2 broke out and food rationing was normal for me from then until 1953. I remember the very long queues that we waited in when we went shopping, often finding that the goods were sold out before we got to our turn. One 'food' my pasrents tried out was turning parsnips into bananas by soaking them in a flavouring liquid. We only tried it a couple of times and I wouldn't have recommended it. Rationing was a necessary imposition on families during a time of crisis.
Yvonne R. Hughes
19 Chwefror 2022, 13:43
I have to smile at Mrs. Donaldson's comment about margarine. I was born in 1956 and so my parents would have recalled rationing very clearly. My mother never liked margarine and always insisted on butter. I think she may have shared the same sentiment.
It's a shocking revelation reading the ration portions. We take so much for granted today.
An excellent article, clear and informative.
nice gal
11 Ionawr 2022, 19:07
wow. This is intense man. I am 11 and i cant believe that people would only eat this much for A WEEK. I could eat more than this IN A DAY!
...
25 Tachwedd 2021, 17:01
Great website.
Brian Fairhurst
13 Tachwedd 2021, 10:04
I married in 1955 and the rationing had ended.
toto
27 Medi 2021, 14:30
I like ww2 and cuold you plese put this comment up by the way i love this website